Gobaith

Beth yw iechyd meddwl?
Cwestiwn mwya’r byd.
Ymennydd llawn heddwch?
Neu rhywun sy’n colli ffydd?

Pen rhy ddistaw,
Calon rhy drwm.
Wastad yn bwrw,
A’r cymylau rhy llwm.

Dim digon o likes
Dim digon o sylwadau,
Pryd ‘di’r amser i
agor ein llygadau?

Mynd adra’n drist,
Crio yn gwely.
Rhy dew, rhy denna’
Dannedd rhy felyn.

Cuddio’r dagrau,
Tu ôl i’r llen,
Cau y clustiau
I ddistewi’r llais yn fy mhen.

Gafael yn dynn
Ar unrhyw obaith.
Disgwyliadau rhy llym,
Bywyd llawn amheuaeth.

Mae siarad mor bwysig!
I deulu, i ffrindiau
‘Run fath â ffisig,
A’r hapusrwydd mewn lluniau.

Er bod hi’n teimlo fel
Diwedd y byd,
Codwch a gwenwch
Peidiwch meiddio colli ffydd.