Dolig

Cerdd gan Elin Angharad Davies a ymddangosodd yn gyntaf ar ei thudalen Facebook, ‘Gair o Gysur’, ac a gyhoeddwyd yn y gyfrol o’r un enw. 

Mae elw’r gyfrol yn mynd at meddwl.org, a gallwch ei phrynu o’ch siop lyfrau lleol neu ar-lein. 


Os yw’r Dolig yma’n anodd
Heb un annwyl yn dy fyd.
Chwilia’n daer yn nwfn dy galon
A bydd yno, yno o hyd.

Os yw bywyd yn un frwydr,
Os yw’r daith yn flin a hir.
Gwna be fedri di am rŵan
Ti dy hun sy’n bwysig wir.

Does dim angen bod yn ferthyr.
Gwisgo gwên, cael hwyl a sbri.
Bydda’n glên a thi dy hunan.
Gwna yr hyn sy’n iawn i ti.