Creithiau’r Co’

Ar ddiwrnod ymwybyddiaeth PTSD

Ym mherfeddion ei meddwl,
mae sibrydion atgofion o uffern yn dawnsio.
Mae creithiau yn addurno ei henaid,
pob un yn adleisio stori
heb ei hadrodd.

Yn araf, dros amser, mae hi’n datod tapestri ei thrawma.

Ac wrth i’r darnau drwsio’n
dawel bach
mae hi’n sylweddoli’r gwir.

Nid ei chartref yw ei chorff.
Ei charchar ydyw.

Dedfryd oes, a hithau’n ddi-euog.

Fi ydy hi.