Caethiwed

Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio

Cyhoeddwyd y casgliad yma o gerddi yn wreiddiol ar lysh.cymru


23:47

Nos Iau. Dw i angen help.

Deffro i hunllefau yn y boreau.

O’n i’n gwella.
Ond
wedyn nes i gofio.
Nawr dw i nôl i’r dechreuad.

Yn y nos ma’n anodd cysgu.
Teimlo ‘mod i’n
boddi heb ddŵr,
llosgi heb dân.

Ystafell wag, tawelwch.
Pob tro
addo
“dyma’r tro olaf.”
Ond
yna, bydd yr ysfa’n dychwelyd.

Eisiau teimlo rhywbeth.

Un yn troi’n ddau
dau’n troi’n bedwar,
fy meddwl yn mynnu am ond un arall…

Pleser.
Yw gweld
y rhaeadr yn llifo,
gan ffurfio llinellau trefnus, clir
swigod rhuddgoch perffaith, ffres.

Sut i egluro?
Gwên ffug feunyddiol
i osgoi’r cwestiynau;
Ond
dw i ffili, jest
stopio-
Oherwydd ma’r gaethiwed ma
yn obsesiwn.

Dw i’n gaeth i’r creithiau,
ar fy mraich, bol, coesau…
Y ffordd maent yn tawelu fy meddwl.
Dw i’n gaeth i’r boen,
all neb arall roi i mi.
Ond
anodd iawn yw dianc
rhag crafangau cecrus y caethineb hwn.


Heno

Heno-

Ar ôl i mi dynnu fy llewys,
dw i am liwio fy mraich yn enfys.

Ar ôl i mi dynnu’r conselar,
dw i am ei ddisodli ‘da lliwiau llachar.

Ar ôl i mi dynnu fy mreichledau,
dw i am gysylltu pob llinell ‘da blodau.

A oes gobaith i’r dyfodol,
yn erbyn y düwch llethol?

“Mi hoffwn i allu credu yn hynna”

Ond, am heno…
Dw i dal yma.


Caethiwed

Rwyt wedi ymgartrefi
mewn i ‘mhen
hoelen hir
fel petai’n ddarn o bren.

Tan hynny

“Do you cut yourself?

I’m not going to tell anyone. Promise.”

Anodd di cadw cyfrinach,
sy’ di printio ar dy gorff.

Weithiau, dw i bron â dweud rhywbeth wrth…

Baichbaichbaichcywilydddoesdimotsdwiniawnaddo.

Hawdd ei guddio,
er, i wneud o’n anoddach yn y pendraw.

…Ond,
tan hynny-

Parhau i gerdded adre’n araf,
y dydd wedi hen ddod i ben-
fy nwylo’n crynu,
a’m llygaid yn wlyb.

Tan hynny-

Bydd y cleisiau dal i ymddangos- o nunlle…
Yn aml.

Bydd y gannwyll dal i losgi- heb ystyried y peth…
Bob hyn a hyn.

Bydd y gyllell yn parhau i ddisgyn- ar ddamwain…
Yn amlach.

Anghofio am bob dim arall,
canolbwyntio ar y boen.

Da ni gyd yn gaeth i rywbeth,
sy’n cymryd y boen i ffwrdd.


Darllenwch blog Kayley, ‘Un Dydd ar y Tro’, yma