Menter newydd gan Diverse Cymru i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol ym maes iechyd meddwl : Iechyd Meddwl Cymru

Lansiwyd menter newydd yn ddiweddar i geisio gwella cymhwysedd diwylliannol mewn gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Lansiwyd y fenter gan yr Ysgrifennydd Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething AC, a dyma’r fenter gyntaf o’i math yn y DU.

Datblygwyd y BME Mental Health Workplace Good Practice Certification Scheme gan yr elusen cydraddoldeb Diverse Cymru. Mae wedi ei ddylunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sydd yn gweithio o fewn cymunedau BME yng Nghymru, mewn ymdrech i wella hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau iechyd, iechyd meddwl a gofal cymdeithasol.

Dywedodd Suzanne Duval, Rheolwr Iechyd Meddwl BME yn Diverse Cymru:

“Mae ymchwil wedi dangos fod pobl BME yn llai tebygol o chwilio am gefnogaeth iechyd meddwl yn gynnar yn sgil rhwystrau diwylliannol, mwy o broblemau yn cael mynediad at wasanaethau a’n delio gyda systemau iechyd meddwl, ac felly, maent yn cael mynediad at wasanaethau dipyn hwyrach pan fydd eu problemau yn fwy difrifol.”

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru


Rhannu

Cefnogaeth iechyd meddwl mewn banciau bwyd : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Cynigir cefnogaeth iechyd meddwl hanfodol mewn banc bwyd yng Nghaernarfon i unigolion bregus sy’n wynebu argyfwng wrth agosáu at y Nadolig. 

Mae staff o wasanaeth iechyd meddwl Abbey Road wedi dechrau darparu gwasanaeth allanol wythnosol wedi’i dargedu ym Manc Bwyd Cymuned Arfon, mewn ymdrech i gefnogi nifer cynyddol o unigolion mewn argyfwng sy’n cael eu cyfeirio ar gyfer cyflenwadau bwyd brys.

Mae’r gwasanaeth sydd wedi’i leoli ym Mangor, sy’n cael ei ariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Gwynedd, yn darparu cyngor a chefnogaeth i unigolion sy’n cael trafferth ymdopi â phwysau iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â dyled, newidiadau i fudd-daliadau, digartrefedd neu ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol.

Ei fwriad yw darparu cefnogaeth i unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl lefel isel er mwyn atal yr angen am gyfeiriad at wasanaethau prif ffrwd y GIG.

Darllen rhagor : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Rhannu

Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth iechyd meddwl

Wrth i argymhellion adolygiad annibynnol o’r Ddeddf Iechyd Meddwl gael eu cyhoeddi, mae Mind Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar sut mae’r Ddeddf yn cael ei chymhwyso yng Nghymru.

Wrth ymateb i gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Simon Jones, Pennaeth Polisi a Dylanwadu Mind Cymru:

“Er bod y Ddeddf Iechyd Meddwl yn berthnasol i Gymru, mae gwasanaethau iechyd meddwl wedi’u datganoli ac yn gweithredu o dan fframwaith gwahanol. Mae rhai o argymhellion yr adolygiad eisoes yn rhwymedigaethau statudol yng Nghymru o dan y Mesur Iechyd Meddwl.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd deddfwriaeth, polisi ac ymarfer iechyd meddwl yng Nghymru. Byddem yn dymuno gweld yr adolygiad hwn ymgysylltu’n uniongyrchol â phobl sydd â phrofiad o ddefnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac yn ystyried effeithiolrwydd y Mesur Iechyd Meddwl, argymhellion yr Adolygiad o’r Ddeddf Iechyd Meddwl a sut mae’r ddau ddarn o ddeddfwriaeth yn rhyngweithio mewn cyd-destun Cymreig.”  [cyfieithiad]

Testun gwreiddiol : Mind


Rhannu

Pwyllgor Cynulliad i ymchwilio i iechyd meddwl y gogledd : BBC Cymru Fyw

Bydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad yng ngwanwyn 2019 er mwyn edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, ac a ddatryswyd problemau’r gorffennol.

Dywedodd y pwyllgor y bydd yn “edrych ar reolaeth gwasanaethau iechyd meddwl o fewn y bwrdd iechyd gyda chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Llywodraeth Cymru”.

“Bydd y gwaith yn cynnwys adolygu argymhellion a gafodd eu gwneud gan bwyllgor arall, ac hefyd i edrych i’r dyfodol i sicrhau fod problemau’r gorffennol wedi’u datrys a bod systemau mewn lle i sicrhau nad yw methiannau rheoli yn digwydd eto.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Cyhoeddi adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru

Cyhoeddwyd ‘Busnes Pawb – Adroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru’ gan Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad ar 5 Rhagfyr.

Prif neges yr adroddiad yw bod atal pobl ifanc rhag cymryd eu bywydau eu hunain yn fusnes i bawb ac ni all siarad â rhywun sy’n ystyried hunan-laddiad fyth wneud pethau’n waeth.

Mae’r Pwyllgor yn gwneud cyfres o argymhellion sy’n canolbwyntio ar well cydraddoldeb rhwng gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol, gofal dilynol gwell i’r rheini sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty a chyflwyno fframwaith hyfforddi cenedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad.

Dywedodd Dr Dai Lloyd AC, Cadeirydd y Pwyllgor:

“Y neges allweddol rydym wedi’i chlywed yw bod hunanladdiad yn fusnes i bawb; dyna’r neges y mae angen i bawb ohonom ei chofio a’i rhannu. Gall effeithio ar unrhyw un ac nid oes cymuned yng Nghymru lle nad yw hunanladdiad wedi effeithio ar ei phobl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cynnydd yn y nifer o hunanladdiadau mewn carchardai

Mae 71 o garcharorion wedi lladd eu hunain mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr hyd yn hyn eleni, sydd eisoes yn gynnydd ar y nifer o farwolaethau yn 2017.

Mae ymgyrchwyr dros ddiwygio cosbau yn galw eto am weithredu brys i fynd i’r afael â gorlenwi. Dywedodd Frances Crook, Prif Weithredwr Howard League for Penal Reform, ei bod yn poeni am yr wythnosau nesaf wrth i’r Nadolig agosáu:

“Yn syml, mae gormod o bobl yn y system. Caiff bywydau eu hachub bob wythnos oherwydd gwaith da gan staff ym mhob sefydliad ond mae carchardai bellach yn ei chael hi’n anodd iawn. Ni ddylai pobl fod yn marw mewn carchardai fel hyn. Mewn achosion pan fo’r wladwriaeth wedi cymryd pob cyfrifoldeb oddi wrthoch chi, yna mi ddylent o leiaf fod yn llefydd diogel.” [cyfieithiad]

Darllen rhagor : The Guardian (Saesneg)

Rhannu

Mamau newydd yn cefnogi ei gilydd : BBC Cymru Fyw

Nikki Jones a Stacey Powell sefydlodd y grŵp cefnogi [llun BBC Cymru Fyw]

Mae criw o famau ym Mhowys wedi sefydlu grŵp er mwyn cefnogi ei gilydd i ddygymod â phroblemau iechyd meddwl sydd gan rai yn sgil genedigaeth.

Mae’r grŵp Mums Matter ar y cyd ag elusen Mind Cymru yn annog mamau i drafod materion fel hunanhyder yn ogystal â rhai o’r rhagdybiaethau ynglŷn â mamolaeth o gymharu â’r realiti.

Mae unigrwydd mewn mamolaeth yn thema gyson ymhlith y rhieni, sydd, o bosib, yn cael ei waethygu oherwydd eu bod yn byw mewn ardal wledig.

Nododd adroddiad ar iechyd meddwl sy’n gysylltiedig â mamolaeth yng Nghymru mai Powys oedd yr unig un o’r saith bwrdd iechyd yng Cymru heb wasanaeth iechyd meddwl i famau newydd.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Dymchwel caban pren oedd yn ‘noddfa’ i gyn-filwr sydd â PTSD : BBC Cymru Fyw

Fel ffordd o ddelio gyda’i PTSD, bu Mike Allen yn gweithio ar adeiladu caban pren i’w hun mewn coedwig yn Sir Caerffili ers dwy flynedd.

Ond dinistriwyd y caban gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd fod yr adeilad yn “anghyfreithlon” a’i fod wedi gwneud niwed i’r amgylchedd.

Dywedodd fod adeiladu’r caban yn y goedwig yn Nyffryn Sirhywi wedi ei bod yn ffordd iddo ddianc o gymdeithas:

“Y caban oedd fy nghartref, fy noddfa. Doedd e ddim yn achosi niwed i neb ac roedd e’n fy ngwella i. Fydden i ddim yn fyw heddiw hebddo.

Mae’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gael i gyn-filwyr yn warthus, ac yn gwneud llawer mwy o niwed na da.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Arbrawf gwerth £2 filiwn gan y cwmni Cymreig Magstim i drin iselder : BBC

Mae arbrawf gwerth £2m ar y gweill gan y GIG i drin iselder gan ddefnyddio technoleg pwls magnetig a arloeswyd yng Nghymru.

Mae’r cwmni technegol meddygol Magstim yn Sir Gaerfyrddin yn creu dyfeisiau sy’n darparu ‘ysgogiad magnetig trawsranaidd’ (transcranial magnetic stimulation’) i gelloedd yr ymennydd.

Mae’r driniaeth wedi ei hachredu gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Gofal ac Iechyd (NICE) ac fe’i cynigir gan rai clinigau preifat, ond nid yw ar gael yn eang i gleifion drwy’r GIG.

Mae pedair ymddiriedolaeth iechyd yn Lloegr yn arbrofi’r system gyda 400 o gleifion. Petai’r astudiaeth ddwy flynedd yn llwyddiannus, gobeithia’r cwmni y gellir datblygu’r system i drin mwy o gleifion yn y GIG.

Mae safle presennol y cwmni yn Hendy-gwyn ar Daf, Sir Gaerfyrddin, yn cyflogi dros 90 o bobl ac fe’i hagorwyd fis Tachwedd 2016 gyda buddsoddiad gwerth £2.7 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Yn ddiweddar, enillodd y cwmni gytundeb yn yr Unol Daleithiau i helpu trin anhwylderau iselder dwys ymhlith cyn-filwyr.

Darllen rhagor : BBC (Saesneg)


Rhannu

Cyn bêl-droediwr yn rhoi esgidiau at elusen iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae’r cyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol, David Cotterill, wedi penderfynu gwerthu’r pâr o esgidiau diwethaf iddo wisgo ar gae pêl-droed mewn ocsiwn a rhoi’r elw tuag at elusen iechyd meddwl.

Mae Cotterill ei hun wedi dweud ei fod wedi profi iselder a phoen meddwl yn y gorffennol wrth chwarae pêl-droed.

Bellach mae’n gweithio i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl, ac mae wedi penderfynu rhoi’r elw o’r esgidiau tuag at elusen Gofal. Mae Gofal wrthi’n datblygu cynllun sy’n cynorthwyo unigolion mewn chwaraeon ar bob lefel gyda’u hiechyd meddwl a’u lles.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw


Rhannu