Teulu merch yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl pobol ifanc : Golwg360

Mae teulu merch ifanc o Gaerdydd a fu farw trwy hunanladdiad yn creu sefydliad i helpu pobol ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl.

Roedd Manon Jones yn ddisgybl yn Ysgol Plasmawr yn y brifddinas ac mae ei marwolaeth wedi cael effaith ddwys ar ei theulu, ffrindiau a’r gymuned ehangach.

Nawr mae ei rhieni, Jeff a Nikki Jones, a’i chwaer Megan, yn creu Sefydliad Manon Jones fydd yn cynnig cymorth a gwybodaeth i bobol ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl.

Darllen rhagor : Golwg360




Llyfrau ar bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl : Darllen yn Well

Fel rhan o’r cynllun llwyddiannus, Darllen yn Well, mae The Reading Agency a Chymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru yn lansio rhestr o lyfrau Darllen yn Well ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru.

Datblygwyd y cynllun gyda chyrff iechyd blaenllaw, ynghyd â phobl sydd â phrofiad o salwch meddwl a’r bobl sy’n gofalu amdanynt.

Mae The Reading Agency yn gweithio gyda Chyngor Llyfrau Cymru er mwyn cyfieithu llyfrau sydd ar y rhestr i’r Gymraeg; bydd casgliadau o lyfrau a deunyddiau cefnogi ar gael oddi wrth lyfrgelloedd, yn Gymraeg a Saesneg.

Mae ymchwil rhyngwladol a thystiolaeth gan ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn pwysleisio’r angen i ddarparu gwasanaethau seiciatryddol a therapiwtig yn y Gymraeg. Mae’n anodd i lawer o bobl sy’n siaradwyr Cymraeg cynhenid ddefnyddio Saesneg i drafod eu teimladau a’u hemosiynau, ac nid yw triniaeth drwy gyfrwng y Saesneg o anghenraid yn briodol nac o gymorth iddynt.

Mae’r rhestr o 37 o lyfrau’n darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i oedolion gydag anghenion iechyd meddwl, ac mae’n cynnwys llyfrau yn ymdrin ag ymwybyddiaeth ofalgar, therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT), dicter, profedigaeth a cholled, gorbryder, straen, iselder, anhwylderau bwyta a chyflyrau eraill.

Gall gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cynnig cefnogaeth i bobl gydag anghenion iechyd meddwl ddefnyddio’r cynllun i argymell deunydd darllen fyddai o gymorth. Gall pobl hefyd gyfeirio eu hunain at y gwasanaeth i gael cymorth. Bydd y llyfrau ar gael ar y silffoedd agored yn y llyfrgell gyhoeddus leol, er mwyn i unrhyw un allu eu benthyca.

Darllen rhagor : Darllen yn Well (pdf)

Rhestr o lyfrau Cymraeg sy’n ymwneud ag iechyd meddwl : meddwl.org




Lansio pecyn ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

Lansiwyd pecyn newydd ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ ar faes Eisteddfod yr Urdd.  Mae’n becyn y gall rhieni, athrawon a swyddogion sy’n gweithio gyda phobl ifanc ei ddefnyddio i drafod ac ystyried iechyd meddwl.

Mae’r pecyn addysgol yn cynnwys animeiddiad, cynlluniau gwers, posteri a thaflenni gwybodaeth ac wedi ei argraffu gyda chymorth grant Ras yr Iaith. Cafodd y pecyn gwreiddiol cyfrwng Saesneg ei ddatblygu gan Ganolfan Genedlaethol Anna Freud, elusen iechyd meddwl plant, er mwyn i bobl ifanc ddeall eu hiechyd meddwl yn well a deall sut i gefnogi eu ffrindiau ac eraill o’u cwmpas.



Lansiad ‘Mae gan bawb Iechyd Meddwl’ Eisteddfod yr Urdd, Caerdydd a’r Fro, Ddydd Iau, 30 Mai 2019

Mae tîm o wirfoddolwyr gwefan meddwl.org wedi bod yn gweithio ar addasu’r pecyn i’r Gymraeg, gyda Sophie Ann Hughes yn arwain ar y gwaith. Dywedodd:

“Rydym yn gwybod fod na fwy a mwy o bwysau ar bobl ifanc y dyddiau yma mewn bywyd llawn cyfryngau cymdeithasol, ‘photoshop’ a phwysau academaidd ar ben hynny.  Mae’n bosibl hefyd fod rhieni llawer o’r bobl ifanc yma yn dod o genhedlaeth ble na fyddai iechyd meddwl wedi arfer cael ei drafod mor agored, ac felly mae llawer o bwysau ar athrawon i fod o gymorth.”

“Mae’r athrawon hyn mewn sefyllfa anodd, ac angen mwy o arweiniad nac erioed. Felly mi aethom ni ati i gydweithio efo Canolfan Anna Freud i ddatblygu’r pecyn addysgol fyddai’n cynnig yr arweiniad hwnnw.  Rydym ni eisiau gweld sefyllfa ble mae plant a phobl ifanc yn cael yr addysg angenrheidiol fel y gallant edrych ar ôl eu hunain a’u ffrindiau.  A thra fod adnodd o’r fath ar gael i athrawon cyfrwng Saesneg, roeddem yn gweld fod angen gwirioneddol am adnoddau o safon yn y Gymraeg gan fod trafod yn dy famiaith yn gwneud byd o wahaniaeth.”



Bydd y pecyn yn cael ei ddosbarthu i bob ysgol Gymraeg a dwyieithog yng Nghymru. Bydd hefyd ar gael i’w lawrlwytho am ddim o wefan meddwl.org. Ychwanegodd Sophie:

“Er fod y pecyn wedi ei greu fel adnodd i athrawon, mi ellir ei ddefnyddio yn ehangach hefyd gan unrhyw un sydd yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd.  Mae gan bawb iechyd meddwl, ac er lles ein pobl ifanc ni’n arbennig mae’n hollbwysig ein bod ni’n siarad a thrafod y peth yn fwy agored.”



Animeiddiad ‘Mae Gan Bawb Iechyd Meddwl’ – Pwyswch yma i lawrlwytho’r pecyn





Ffermwr yn cynnig help i ddioddefwyr iechyd meddwl : BBC Cymru Fyw

Mae ffermwr o Sir Benfro, sy’n treulio llawer o amser ar ben ei hun, yn dymuno helpu pobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl drwy eu gwahodd i’w fferm.

Mae Eurig Evans yn magu 150 o heffrod ar ei fferm 200 erw yn Abergwaun, ac am greu “fferm ofal” i gynorthwyo pobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â bywyd.

Dywedodd Eurig, sydd newydd ymgymryd â chwrs i fod yn gwnselydd:

“Fel ffermwyr – yn aml ‘dyn ni ddim o reidrwydd yn gweld unrhyw un yn ystod y dydd. Ond mae gadael y fferm, hyd yn oed am awr, yn therapi ynddo ei hun.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Plant yn eu harddegau “yn llai unig” oherwydd cyfryngau cymdeithasol : Golwg360

Mae bron i hanner plant gwledydd Prydain sydd yn eu harddegau yn meddwl bod defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo’n “llai unig,” er y pryder gan rieni, mae ymchwil yn dangos.

Yn ôl adroddiad Unigrwydd a Thechnoleg yn yr Arddegau gan TalkTalk, mae 48% o blant yn eu harddegau yn dweud bod platfformau’r cyfryngau cymdeithasol yn eu helpu gydag unigrwydd.

Dywed 64% nad yw technoleg erioed wedi rhoi profiad gwael iddynt.

Mae hyn yn mynd yn groes gred rhieni, gyda 26% yn unig o’r rhai gafodd eu holi yn cytuno bod technoleg yn lleihau unigrwydd.

Darllen rhagor : Golwg360





Sefydlu caffi yn Nefyn i gynorthwyo pobl sy’n galaru : BBC Cymru Fyw

Mae paratoadau ar y gweill yn Nefyn i sefydlu digwyddiad misol i’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd delio â cholli perthynas neu anwyliaid.

Bydd Caffi Colled yn cyfarfod am y tro cyntaf ar Ebrill 30, rhwng 10 a 12 yn y Tŷ Doctor yn Nefyn, ac yna ar nos Fawrth olaf pob mis.

Yn ogystal â chynnig cyfle i rannu profedigaeth, mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd modd i’r rhai sy’n mynychu gael cymorth ymarferol – er enghraifft, cyngor ar sut i roi trefn ar waith papur.

Dywedodd un o’r trefnwyr – y Parchedig Sara Roberts, curad Ardal Weinidogaeth Bro Madryn – bod ei phrofiad wrth ymweld â phobl yn eu galar wedi ei hannog i sefydlu digwyddiad o’r fath.

“‘Dwi’n clywed fwy a mwy yn fy swydd i bod tristwch a phrofedigaeth yn mynd ymlaen tu ôl i ddrysau pobl a neb yn ei drafod e’n gyhoeddus. Be ‘dwi’n trio ei gael yw lle i bobl drafod gyda’i gilydd – lle i bobl rannu eu profiadau a’u hofnau, dim ots pa mor bell yn ôl yw’r brofedigaeth.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





‘Angen mwy o gymorth seicolegol i rieni babanod cynnar’ : BBC Cymru Fyw

Kim Williams

Mae mam o Bwllheli wedi dweud wrth Newyddion 9 bod diffyg ymwybyddiaeth ynghylch yr effaith seicolegol ar rieni babanod sy’n cael eu geni’n gynnar.

Yn ôl Kim Williams, mae genedigaeth ei mab, Caio – 10 wythnos yn gynnar – a’r saith wythnos y bu’n cael gofal dwys yn Ysbyty Gwynedd ac Ysbyty Glan Clwyd yn cael “effaith enfawr” ar y teulu hyd heddiw.

Mae Caio bellach yn ddwy oed, ond mae amgylchiadau ei enedigaeth yn 2017 wedi gadael eu hôl.

“Mae o jest yn massive o whirlwind. Un diwrnod ma’ bob dim yn mynd yn smooth a wedyn – crash.”

Mae’n dweud ei bod yn “teimlo’n ofnadwy o isel ar un adeg” a wedi cael sesiynau cwnsela.

Yn ol canllawiau Llywodraeth Cymru, dylai cymorth seicolegol a chymdeithasol fod ar gael i bob rhiant sydd â phlentyn mewn gofal newydd-enedigol, ond mae yna bryder bod y baich yn syrthio’n gynyddol ar nyrsys i ddarparu gofal iechyd meddwl i rieni.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Angen gwella gwasanaeth iechyd meddwl plant : BBC Cymru Fyw

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi bod angen gwella agweddau o wasanaeth iechyd meddwl plant a’r glasoed.

Diffyg gwelyau ar gyfer pobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl “risg uchel” oedd un o brif bryderon eu hadroddiad diweddar.

Tair uned arbenigol i gleifion sydd yng Nghymru, gyda lle i 51 o bobl.

Mae’r adolygiad wedi canolbwyntio ar y canlynol:

  • Gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed (CAMHS);
  • Gwasanaethau gofal iechyd cyffredinol i bobl ifanc;
  • Cefnogi pobl ifanc sydd â chyflyrau sy’n cyfyngu ar fywyd a gofal lliniarol;
  • Trosglwyddo o wasanaethau gofal iechyd plant i wasanaethau gofal iechyd oedolion.

Dywed yr adolygiad fod pobl ifanc at ei gilydd yn cael profiadau da o ofal yn y gwasanaethau, ond mae yna bryderon am allu unedau cleifion mewnol CAMHS yng Nghymru i letya pobl risg uchel.

Golyga hyn, yn ôl yr adroddiad, nad yw pobl ifanc bob amser yn gallu cael gofal amserol yn agos at eu cartrefi a bod yn rhaid i rai ohonyn nhw gael eu lleoli y tu allan i’w hardaloedd.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw




‘Angen cydnabod problemau iechyd meddwl pobl ddall’ : BBC Cymru Fyw

Rhaid gwella’r ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ddall, yn ôl Elin Williams o Ddyffryn Conwy, sy’n raddol wedi bod yn colli ei golwg ers yn chwech oed.

Mae ystadegau’n dangos bod pedwar o bob 10 person sydd â nam ar eu golwg yn dangos symptomau o iselder.

Dywedodd Elin ei bod wedi delio â gorbryder ers yn ifanc, a bod hynny wedi gwaethygu trwy ei chyfnod yn yr ysgol.

“O’n i’n teimlo’n wahanol ar adegau, yn enwedig am ‘mod i’n gorfod gwneud gwaith trwy braille ac yn defnyddio ffon wen.

Mi oedd o lot gwaeth pan o’n i yn yr ysgol, yn y chweched ddosbarth yn enwedig. Pan o’n i’n cerdded mewn i ystafell do’n i methu gweld pwy oedd yno neu lle i fynd i eistedd. O’n i ar fy mhen fy hun lot o’r amser a’n teimlo’n unig ac yn wahanol i bawb arall.”

Yn ôl elusen yr RNIB dim ond 17% o bobl sydd â nam ar eu golwg sy’n cael cynnig cymorth emosiynol.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw





Y Samariaid yn annog dynion i ofyn am help : Iechyd Meddwl Cymru

Cyhoeddwyd arolwg newydd a gomisiynwyd gan y Samariaid ar 19 Mawrth, sy’n dangos bod stigma dal yn broblem ymhlith dynion wrth iddynt geisio chwilio am help pan fyddant yn cael trafferth ymdopi.

Nid yw dau ym mhob pump (41%) o ddynion yn Lloegr, yr Alban a Chymru, sydd rhwng 20 a 59 oed, yn chwilio am gymorth pan fydd angen, oherwydd mae’n well ganddynt i ddatrys problemau eu hunain. Mae’r arolwg hefyd yn dangos nad yw dynion am deimlo fel baich, ac nid ydynt yn teimlo y byddai pobl eraill yn deall eu problemau.

Mae’r Samariaid yn lansio ymgyrch Pobl Go Iawn, Straeon Go Iawn lle y mae dynion sydd wedi goresgyn cyfnodau anodd yn rhannu eu straeon er mwyn annog dynion eraill i chwilio am help.

Bydd mwy na hanner cant o ddigwyddiadau lleol yn cael eu cynnal yng Nghymru, Lloegr a’r Alban er mwyn helpu hyrwyddo’r ymgyrch.

Darllen rhagor : Iechyd Meddwl Cymru