Gwelliannau iechyd meddwl yn Sir Conwy yn ‘rhy araf’ : BBC Cymru Fyw

Mae Cyngor Conwy wedi penderfynu i barhau gyda chytundeb i gydweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol i wella gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, er gwaethaf rhwystredigaeth bod y gwelliannau yn cael eu gweithredu “yn araf”.

Roedd adroddiad o flaen cabinet y cyngor ddydd Mawrth yn trafod pa gynnydd sydd wedi bod ers iddyn nhw ofyn am gymorth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i wella rhai elfennau o’r gofal iechyd meddwl yn Sir Conwy.

Mae’r adroddiad yn dweud bod problemau “diwylliannol” a “rheolaethol” a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth y bwrdd yn amharu ar sicrhau “cynnydd boddhaol”.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Angen taclo problem tlodi yng Nghymru : Samariaid Cymru

Gwyddom fod tlodi’n gysylltiedig â phobl yn lladd eu hunain. Gwyddom hefyd nad yw hunanladdiad yn anochel a bod yna gamau y gallwn eu cymryd fel nad yw adegau anodd yn arwain at farwolaethau pobl.

Erbyn hyn mae yna dystiolaeth ddiymwad o gysylltiad cryf rhwng amddifadedd economaidd gymdeithasol ac ymddygiad hunanladdol. Mae ardaloedd o anfantais economaidd gymdeithasol uwch yn tueddu i fod â chyfraddau hunanladdiad uwch, a pho uchaf yw’r lefel amddifadedd mae unigolyn yn ei phrofi, uchaf yw’r risg ymddygiad hunanladdol.

Mae tlodi’n golygu wynebu ansicrwydd di-baid. Mae ei nodweddion yn cynnwys tai annigonol, iechyd meddwl gwael, cyflawniad addysgol isel, diweithdra, unigedd a symudedd cymdeithasol isel.’

Darllen rhagor : Samariaid Cymru


Rhannu

Diffyg gwasanaethau iechyd meddwl mewn ysgolion : Golwg360

Mae cannoedd o athrawon ledled gwledydd Prydain yn dweud eu bod nhw’n cael trafferth darparu gwasanaethau iechyd meddwl i’w disgyblion, yn ôl arolwg newydd.

Er bod yr arolwg gan yr elusen i blant, Place2Be, yn dangos bod 85% o ysgolion uwchradd a 56% o ysgolion cynradd yn darparu rhyw fath o wasanaeth gwnsela i blant, dywedodd bron hanner o’r ffigwr hwnnw eu bod nhw’n cael problemau darparu gwasanaethau ehangach.

Mae’r elusen yn dadlau bod gwasanaethau iechyd mewn ysgolion yn “hanfodol.”

“Mae ein tystiolaeth a’n profiad yn dangos bod sefydlu arbenigwyr iechyd meddwl mewn ysgolion, fel rhan o amcanion yr ysgol gyfan, yn cael effaith positif enfawr ar ddisgyblion, teuluoedd a staff,” meddai Catherine Roche, Prif Weithredwr Place2Be.

“Mae arweinwyr ysgolion yn barod o dan bwysau mawr i ddarparu cynnydd academaidd, a dylwn ni ddim disgwyl iddyn nhw ddod yn arbenigwyr ar iechyd meddwl hefyd.”


Rhannu

Arddangosfa i godi ymwybyddiaeth o anhwylder deubegwn : BBC

Cerys Knighton

Mae artist, sydd ag anhwylder deubegwn (bipolar disorder) ers iddi fod yn 11 oed, yn gobeithio bydd ei harddangosfa gyntaf yn helpu pobl i ddeall y cyflwr yn well.

Mae Cerys Knighton, sy’n 23 oed o Borthcawl, yn creu gwaith celf o oed ifanc, ac ar ôl brwydro â’i salwch meddwl, sylweddolodd cymaint o gymorth a fu celf iddi.

Mae ei harddangosfa, ‘Drawing Bipolarity’, i’w gweld yng Nghwrt Insole yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cerys: “Rwy’n dioddef yn bennaf â chyfnodau o iselder, a gall y cyfnodau hynny barhau rhwng chwe mis a deunaw mis. Maen nhw’n episodau hir, parhaus.”


Rhannu

Tom James yn ddiolchgar am gefnogaeth iselder : BBC Wales

Mae asgellwr Gleision Caerdydd a Chymru, Tom James, wedi diolch i’r rhai sy’n ei gefnogi wrth iddo gael triniaeth am iselder.

Nid yw James wedi chwarae ers Nos Galan ac nid yw’n cael ei ystyried ar gyfer ei ranbarth ar hyn o bryd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol a gyhoeddwyd gan y Gleision ar ei ran, dywedodd James: “Rydw i’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth anhygoel rwyf wedi ei dderbyn gan fy nghyd-chwaraewyr, yr hyfforddwyr, y tîm meddygol a holl staff y Gleision, ac mae’r negeseuon a’r geiriau caredig gan y cyhoedd wedi fy rhyfeddu.”

Darllen mwy: BBC Wales (Saesneg)

Rhannu

Myfyrwyr yn helpu i godi calonnau cleifion iechyd meddwl : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae unigolion sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn cael eu cefnogi yn ystod eu hadferiad diolch i ymdrechion grŵp ymroddgar o fyfyrwyr sy’n gwirfoddoli.
Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae myfyrwyr caredig wedi rhoi o’u hamser i gynnal grwpiau therapiwteg amrywiol i gleifion yn Uned Iechyd Meddwl Hergest yn Ysbyty Gwynedd.

Ymysg y gweithgareddau a gefnogir gan y myfyrwyr sy’n gwirfoddoli mae grŵp cerdded, sy’n galluogi cleifion gael amser gwerthfawr o’r ysbyty a chyfle i ail gysylltu â’u cymuned leol.

Darllen rhagor : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Rhannu

63% o bobl yng Nghymru yn teimlo nad oes ganddynt neb i siarad a nhw

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn datgelu bod dau draean (63%) o bobl yng Nghymru yn teimlo nad oes ganddynt neb i gael sgyrsiau personol â nhw ynghylch testunau fel iechyd meddwl, problemau ariannol a pherthnasoedd.

Pan holwyd pam, y prif resymau oedd: does byth adeg, neu leoliad, addas.

Comisiynwyd yr arolwg annibynnol o dros 2,500 o oedolion y DU gan Amser i Newid i nodi Diwrnod Amser i Siarad, mewn ymgyrch genedl-gyfan i annog pobl i siarad yn fwy agored am iechyd meddwl.

Mae’r data’n datgelu bod llawer o bobl yn colli cymorth gan y rheiny sydd o’u cwmpas, gan nad oes adeg na lle ‘perffaith’ i siarad yn agored. Eleni yw’r pumed Diwrnod Amser i Siarad a’r thema yw Adeg Addas, Unrhyw Le sy’n rhoi cyfle perffaith i bawb fod yn fwy agored am iechyd meddwl – beth bynnag y byddant yn ei wneud ar y diwrnod.

Rhannu

#AmseriSiarad – Hywel Dda yn pwysleisio pwysigrwydd y Gymraeg

Fel rhan o ddiwrnod Cenedlaethol #AmseriSiarad mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn lansio fideo newydd er mwyn pwysleisio pwysigrwydd derbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae diwrnod #Amserisiarad, sy’n cael ei gynnal ar y 1af o Chwefror yn ymgyrch genedlaethol sy’n annog pobl Cymru i siarad am iechyd meddwl gan geisio taclo’r stigma sydd ynghlwm.

Mae’r fideo yn canolbwyntio ar Siôn Davies o Fronant, Ceredigion. Mae gan Siôn anableddau dysgu ac mae wedi derbyn therapi o ganlyniad i orbryder. Yn y fideo mae Siôn a’i fam Lynda yn sôn am eu profiad o dderbyn therapi yn gyntaf oll yn Saesneg, ac yna’r gwahaniaeth o dderbyn therapi yn iaith gyntaf Siôn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Sgitsoffrenia’n ‘codi ofn’ ar gyflogwyr : BBC CymruFyw

Mae dynes o Ynys Môn sydd â sgitsoffrenia yn dweud bod stigma ynglŷn â’r cyflwr wedi effeithio ar ei chyfleoedd gwaith.

Dywed Siobhan Davies, 45 o Rosneigr a mam i bedwar o blant, ei bod eisiau gweithio a chyfrannu i gymdeithas, ond bod cyflogwyr posib yn ofni rhoi cyfle iddi.

Mae Ms Davies yn clywed amrywiaeth o leisiau yn ei phen ers yn 16 oed – pob un ag enw a phersonoliaeth ei hun.

Dywed bod cyflogwyr posib yn clywed ei bod wedi methu gweithio am y saith mlynedd diwethaf tra’n cael gofal i mewn ac allan o’r ysbyty a gofyn i’w hunain: “Ydy hi’n mynd i fod i fewn eto? Fedran ni gymryd siawns arni? Ac mae lot o bobl ddim yn barod i neud hynny. Dyna ‘di’r broblem. Ti’n ca’l dy ddal yn y gorffennol.”

Gwyliwch Siobhan yn trafod ei phrofiadau ar Newyddion9


Rhannu

Defnyddio Eryri ar gyfer dosbarthiadau therapi celf i gleifion iechyd meddwl : BBC

Llun: Matthew Cattell | BBC
Llun: Matthew Cattell | BBC

Mae pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth yn mynd i Barc Cenedlaethol Eryri ar gyfer sesiynau therapi arbenigol.

Cynhelir dosbarthiadau therapi celf gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn Fferm Moel y Ci, ger Glasinfryn, ac mae’r lleoliad wedi ei ganmol am wella hwyliau cleifion.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr bod y cynllun yn rhan o’i ‘ymdrech barhaus i wella cefnogaeth iechyd meddwl yn y gymuned.’

Mae’r rhaglen wedi ei gynllunio a’i redeg gan Ms Stanley, uwch-seicotherapydd celf gyda’r bwrdd iechyd. Dywedodd:

‘Mae mwyfwy o dystiolaeth yn dangos gwerth therapi eco, seicoleg eco a therapi celf amgylcheddol. Mae’r sesiynau yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr y gwasanaeth i archwilio anawsterau gyda phobl eraill sydd â phroblemau tebyg, ac mae hyn yn gam tuag at berthynas gwell gyda’u ffrindiau a’u teuluoedd.’

Mae rhai o ddefnyddwyr y cynllun wedi sôn am yr effeithiau positif a gaiff y dosbarthiadau therapi celf arnynt, gan ddweud fod bod y tu allan wedi eu helpu i feddwl ychydig yn gliriach a’u caniatáu i ymddiried ym mhobl eraill eto.


Rhannu