Argyfwng #iechydmeddwl y Gymraeg – Wyn Williams

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Y Cymro ar-lein ar Fai 5ed 2019.


Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2019  yn dechrau wythnos nesaf yn anlwcus i rai – gan gynnwys y triskaidekaphobics yn ein mysg – ar 13eg o Fai. 

Dyna’r fath o agwedd a gymrais i o’n system addysg o ran iechyd meddwl – bod hi’n afiechyd, ac fel pob afiechyd, gwell chwerthin amdano na chymryd o ddifri achos…wel be chi’n mynd i wneud, atal pob afiechyd? Gwell chwerthin ar ben gwely angau…

Wrth gwrs, y gwahaniaeth mawr rhwng – dwedwch chi – cancr ac iechyd meddwl, yw bod yna llawer yn fwy y gall dioddefwr iechyd meddwl ei wneud o ran ymateb iddo. Dyna un o’r rhesymau mae’r Cymro yn falch iawn i roi llwyfan i’r myfyriwr Joedi Grabham ar ein gwefan ac yn ein papur newydd misol oherwydd ceir yno camau ymarferol i ddefnyddio ymarfer corff i godi eich hwyliau.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Yoga, Therapi a Siarad – Tara Bethan

(Hawlfraint y llun: Geraint Todd Photography)

Do’n i ddim wedi bwriadu defnyddio y gohebydd a’r bonheddwr, Dewi Llwyd fel Mental Help Therapist rhyw fore Sadwrn yn fy lolfa yn Grangetown nôl ym mis Tachwedd 😬  ond diolch i’w sgiliau holi heb ei ail, ei glust astud, cefnogol, a’r ffaith bod Mam a fi wedi hitio’r karaoke a’r gwin coch ychydig yn rhy galed y noson gynt, dyna a fu.

1 – DWI MOR FALCH!

2 – DIOLCH MR LLWYD 😍  Ma’r cwpwrdd fancy dress yn barod amdana chi 😉

3 – PAM BOD TRAFOD IECHYD MEDDWL DAL YN TABŴ??

Sgwrs “Penblwydd” oedd yr achlysur a’r cwestiwn cyntaf oedd “Hoff Benblwydd?”. Es i ‘mlaen i sôn am fy mhrofiad allan yn India yn troi yn 33 tra yn gwneud cwrs yoga o fis yn hyfforddi i fod yn athrawes a sut oedd y cwrs wedi trawsnewid fy mywyd o le go dywyll i le lle feddylish i i’n hun “dwi’n ok”. Yna daeth y cwestiwn “Fysech chi’n deud felly eich bod wedi dioddef o iselder yn y gorffennol?”. Que therapi sesh!

Parhau i ddarllen

Rhannu

Iechyd Meddwl: Y Gwcw – Elwyn Vaughan

Efo pryder cynyddol am iechyd meddwl yn y gymuned wledig, dyma fy nghynnig ar y mater i Gyngor Powys:

TIC TOC;   TIC TOC;   TIC TOC;

Ar ôl cerdded lawr coridor hir hir, oer, efo dim enaid byw yno, mewn hen adeilad Fictorianaidd, rydych yn dod at ddrws clo, yna drws arall ac arall cyn mynd mewn i lolfa llwm efo ffenestr fawr yn gwrthgyferbynnu’r llymder efo golygfa hyfryd dros Fae Abertawe a’r môr yn disgleirio, a moethusrwydd Mumbles – ac ar y wal clywir sŵn cloc yn tipian – pob eiliad fel awr. Wedi’r cyfan mae angen amynedd wrth ceisio cael sgwrs mewn ‘Sbyty meddwl, ceisio gwneud synnwyr o’r di-synnwyr.

Yna os ewch i ‘Sbyty Glangwili, na, NID i’r prif fynedfa parchus, ond i’r adwy sy’n deud MARWDY, wedi’r cyfan dyna mae cymdeithas wedi ceisio neud, sef cuddio pethe nad yw am weld o’r golwg; mi ddowch at adeilad ac o fynd drwy’r drws clo daw dynes amlach na dim i boeri i’ch gwyneb neu un arall i fytheirio a rhythu tra eich bod yn ceisio deall, gwrando a dylanwadu ar berson ifanc.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Effaith dechrau’r brifysgol ar bobl ifanc gyda phroblemau iechyd meddwl: fy stori i

Yn dechrau yn y brifysgol, o’n i’n ferch 18 oed, yn syth allan o’r chweched dosbarth ac yn edrych ymlaen i ddechrau bywyd newydd, mewn dinas newydd a gyda phobl newydd.

O’n i’n llawn addewidion. “Hwn fydd dy wneud di”, “Bydd bywyd Prifysgol y tair blynedd orau o’ch bywyd”, “Byddwch yn oedolyn annibynnol o’r diwedd – diolch byth”. O’n i’n ddigon diniwed i gredu’r addewidion hyn ac yn credu bysai mynd i brifysgol yn allwedd i droi fy hunan mewn i berson hollol newydd a gadael fi ddechrau eto – rhywbeth o’n i eisiau ac angen yn daer.

Ers amser hir, o’n i wedi bod yn struglo gyda phroblemau iechyd meddwl sylweddol yn cynnwys gorbryder, iselder ac anhwylder bwyta. Roedd y daith trwy ysgol a Lefel A yn anodd ac o’n i wedi treulio jyst llai na blwyddyn mewn therapi. Rhaid cyfaddef, o’n i’n neud yn dda. Ond, wrth edrych yn ôl fi’n meddwl efallai o’n i wedi perswadio fy hun o’n i’n well na’r realiti, a bod y dechrau newydd wedi golygu bydd dim angen cael therapi o gwbl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mewn breuddwyd: Sut beth yw byw gyda Dadwireddu? – Manon Elin

Mae syniad cyffredinol bod ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am faterion iechyd meddwl yn gwella, sydd yn wir i ryw raddau, ond dim ond gyda chyflyrau cyffredin fel iselder a gorbryder.

Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynghylch Dadwireddu, nid yn unig ymhlith y boblogaeth gyffredinol, ond hyd yn oed ymhlith gweithwyr iechyd, dal i fod yn broblem fawr. Anaml iawn fydd ymgyrchoedd i ‘godi ymwybyddiaeth’ am iechyd meddwl yn rhoi sylw i’r cyflyrau hynny sydd wir angen codi ymwybyddiaeth ohonynt.

Dwi wedi cyfeirio at fy mhrofiadau â dadwireddu yn fras mewn blogiau eraill, ond roeddwn i eisiau ysgrifennu blog penodol amdano, er mwyn i bobl eraill ddeall, ond hefyd er mwyn i mi geisio ei ddeall yn well fy hun. Mae ysgrifennu wir yn help i wneud synnwyr o bopeth!

Yn y blog yma byddai’n trafod: sut mae dadwireddu’n teimlo, y pethau sy’n gallu ei waethygu, sut mae’n effeithio arna’ i o ddydd i ddydd, a rhai pethau sy’n gallu helpu.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gwella’r meddwl ynghyd â’r corff – Huw Marshall

Pan mae salwch yn eich taro yn annisgwyl, mae ambell beth yn dod i’r amlwg, pethau da chi erioed wedi hyd yn oed ystyried o’r blaen.

Ar yr 28ain o Chwefror o’n i’n hedfan, o’n i’n dathlu fy mhen blwydd yn hanner cant, o’n i newydd sefydlu busnes newydd ag yn gweithio ar cwpwl o brosiectau cyffrous. Mater bach oedd y llawdriniaeth oedd yn fy nisgwyl y diwrnod canlynol. Op hernia digon syml i drwsio rhwyg yn y cyhyrau dan y botwm bogail, fewn am 7:30 yn y bore, adre erbyn 4. Cwpwl o ddyddiau off cyn cynnal sesiwn ar y Gymraeg ar y dydd Mercher canlynol.

Bore Sadwrn yr ail o Fawrth, y diwrnod wedi’r llawdriniaeth, dyma fi’n deffro am 4 y bore yn teimlo’n sâl. Mewn a fi i A&E y bore hwnnw am gyngor, adre erbyn amser cinio efo moddion atal chwydu a tabledi lladd poen cryf.

Erbyn y nos Sul canlynol yn ôl a fi A&E yn teimlo’n waeth. Roedd rhywbeth o’i le….

Parhau i ddarllen

Rhannu

Llythyr at fy iselder

Annwyl fwli,

Sut wyt ti mor gryf?  Dwyt ti byth yn diflannu’n llwyr, ond sut A PHAM wyt ti’n dod nôl ata i dro ar ôl tro ar ôl tro?  Dwi wedi cael digon arnat ti, pam nad wyt ti wedi cael digon arna i?  Ydw, dwi wedi gwella llawer yn y ddwy flynedd ddiwetha’, ond rwyt ti’n dod nôl yr un mor ffiaidd a chreulon ag erioed, heb rybudd fel arfer.

Maen nhw’n dweud wrtha i mai’r cyfnod yma yn fy mywyd yw’r cyfnod gorau. Rwy’n ifanc gyda gweddill fy mywyd o fy mlaen i. Roeddwn i’n arfer edrych ymlaen at fy nyfodol.  Ro’n i eisiau’r cyfan; gyrfa i’w mwynhau, ffrindiau, cwympo mewn cariad, teulu fy hun efallai. Ond nawr, diolch i ti, dydw i ddim eisiau gweddill fy mywyd.  Dydw i ddim yn gweld y pwynt.  Ond rwy’n gwybod hefyd nad ydy hynny’n opsiwn felly mae’n rhaid i fi gario ‘mlaen gyda’r frwydr.  Ti yn erbyn fi.  Ti a’r byd yn fy erbyn i.

Ti a’r byd.  Yn fy erbyn i.  Dyna sut dwi’n teimlo.  Dwi mor unig.  Dwi wedi colli cymaint o ffrindiau ers i ti ffeindio fi.  A diolch i ti mae cwrdd â phobl newydd mor, mor anodd.  Dwi’n casáu fy hun, felly sut alla i ddisgwyl i unrhyw arall fy hoffi i?  Sut alla i ddisgwyl i unrhyw un newydd aros gyda fi?

Parhau i ddarllen

Rhannu

Iechyd meddwl, y pwysigrwydd o siarad ac adnoddau Cymraeg – Matt Spry

(Ymddangosodd yr erthygl hon yn gyntaf ym mhapur bro Y Dinesydd, Ebrill 2019)

Mae’n ddrwg gen i nad ysgrifennais i golofn ar gyfer y rhifyn diwethaf. Dw i wedi bod yn sâl iawn – cyfnod arall o iselder eithafol, y gwaethaf ers blynyddoedd.

Ydy hi’n briodol fy mod i’n sôn am hyn yma? Ydy, byddwn i’n dweud. Mae pethau wedi gwella dros y blynyddoedd ond mae dal cryn dipyn o stigma/tabŵ yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl, ond yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae tua chwarter y boblogaeth yn profi problemau iechyd meddwl. Hunanladdiad yw’r lladdwr unigol mwyaf o ran dynion ifanc yng Nghymru.

Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n siarad am iechyd meddwl a gwneud yn siŵr ein bod ni’n creu cymdeithas ble mae pobl yn teimlo’n gyfforddus i siarad am bethau felly.

Mae’n hanfodol ein bod ni’n pwysleisio ei bod hi’n iawn i siarad a’n bod ni’n annog pobl i siarad a rhannu problemau a phrofiadau. Galla i gyfrannu drwy sôn am fy mhrofiad i pan mae’n briodol ac yn berthnasol – gobeithio y gall hyn wneud i rywun arall deimlo fel y gallan nhw siarad.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? – Angharad Griffiths

Angharad

Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? Wel, nagoes, wrth gwrs  – ond pam bod e’n teimlo felly? 

Mis yma, rwyf yn dathlu 6 mis o fod yn sobor. Sdim dropyn o alcohol wedi pasio fy ngwefusau ers y 30ain o Fedi 2018 (a bi-product bach handi o hyn – dwi heb gael dim un sigaret chwaith….o ni’n “ffag ‘da diod” kinda gal!).

Ond dwi’n sicr bod y gair alcoholig wedi stopio fi rhag neud rhywbeth am fy mhroblem yn gynt – ac yn stopio lot o bobl erill rhag neud rhywbeth am gor-yfed.

Mae’r ddelwedd o alcoholig yn un eithaf hen ffasiwn – rhywun sydd yn yfed bob dydd…whiskey mas o fag papur brown fel arfer! Rhywun sydd wedi colli bob dim – wedi cyrraedd y proverbial rock bottom – colli swydd, trwydded gyrru, teulu, cartref…ayyb.  Yr unig ateb i’r broblem ar y raddfa yma ydi mynd i AA a gorfod defnyddio will power bob dydd i beidio yfed.   Jest cwffio cravings am byth.  Mae’n swnio fel uffern i rhanfwyaf o bobl – hyd yn oed i bobl sydd heb broblem yfed!  Mae hefyd yn label eithaf embarrassing ac yn llawn cywilydd – rhywun sy wedi colli rheolaeth yn llwyr.  O ni ddim ishe’r label yma – ac felly dyna pam oedd derbyn bod rhaid i mi rhoi’r gorau i yfed yn gyfan gwbl mor blydi anodd a wedi cymryd fi dros 10 mlynedd o soul-searching i ffeindio’r ateb sy’n siwtio fi.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mae ‘na haul ar ddiwedd yr ogof – Nia Owens

Ma’ na haul ar ddiwedd yr ogof…

O ni fyth yn ferch swil o gwbl yn ysgol. Oedd ffrindiau da gen i, nid oedd unrhyw beth all unrhyw un ddweud wrtha’i fy effeithio. Ond, do’n i fyth yn hollol hapus gyda nghorff, o’ni just ddim yn meddwl llawer amdano. Pan o’ni yn y chweched newidiodd popeth yn hollol. O’n sboner a fi wedi gwahanu, ac fe ddadleais efo’n holl grŵp o ffrindiau, yn gadael fi ar ben fy hun, yn unig ac yn hollol ddi-hyder. Dyna’r peth cyntaf oedd wedi cychwyn yr holl cogs yn fy mhen fy mod i ddim digon da.

Aeth flwyddyn olaf chweched heibio, collais damed o bwysau ond dim byd llawer – dim ond tyfu i fyny o ni’n meddwl o’ni. Dechreuais y Brifysgol yn yr un dref a oedd yn golygu fy mod i wedi gallu aros adref. Oedd gen i ffrindiau newydd ac roedd pethau yn dda eto, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol wnaeth pethau adref newid ychydig gan olygu fy mod i’n helpu fwy gyda gwaith adref. Oedd yr angen amdana’i adref yn rhoi rhyw fath o bwrpas i fi, o ni eto’n teimlo fel fy mod i’n plesio ac yn ddigon.

Yn y Brifysgol newidiodd pethau…

Parhau i ddarllen

Rhannu