Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? – Angharad Griffiths

Angharad

Oes rhaid bod yn alcoholig i stopio yfed yn gyfan gwbl? Wel, nagoes, wrth gwrs  – ond pam bod e’n teimlo felly? 

Mis yma, rwyf yn dathlu 6 mis o fod yn sobor. Sdim dropyn o alcohol wedi pasio fy ngwefusau ers y 30ain o Fedi 2018 (a bi-product bach handi o hyn – dwi heb gael dim un sigaret chwaith….o ni’n “ffag ‘da diod” kinda gal!).

Ond dwi’n sicr bod y gair alcoholig wedi stopio fi rhag neud rhywbeth am fy mhroblem yn gynt – ac yn stopio lot o bobl erill rhag neud rhywbeth am gor-yfed.

Mae’r ddelwedd o alcoholig yn un eithaf hen ffasiwn – rhywun sydd yn yfed bob dydd…whiskey mas o fag papur brown fel arfer! Rhywun sydd wedi colli bob dim – wedi cyrraedd y proverbial rock bottom – colli swydd, trwydded gyrru, teulu, cartref…ayyb.  Yr unig ateb i’r broblem ar y raddfa yma ydi mynd i AA a gorfod defnyddio will power bob dydd i beidio yfed.   Jest cwffio cravings am byth.  Mae’n swnio fel uffern i rhanfwyaf o bobl – hyd yn oed i bobl sydd heb broblem yfed!  Mae hefyd yn label eithaf embarrassing ac yn llawn cywilydd – rhywun sy wedi colli rheolaeth yn llwyr.  O ni ddim ishe’r label yma – ac felly dyna pam oedd derbyn bod rhaid i mi rhoi’r gorau i yfed yn gyfan gwbl mor blydi anodd a wedi cymryd fi dros 10 mlynedd o soul-searching i ffeindio’r ateb sy’n siwtio fi.

Heb ddiflasu chi gormod gyda fy full life story – mi oeddwn o gwmpas fy 30au cynnar pan nes i ddechrau poeni am faint o ni’n yfed.  Roeddwn i newydd gael fy nhroed ar y property ladder ac yn joio yfed gwydryn o win neu ddau (neu dri) o flaen y teli gyda’r nos.  Odd e’n teimlo digon diniwed a bod pawb yn neud e – ond mi oedd llais yng nghefn fy meddwl yn gweud “ti’n licio hyn bach gormod.”  Nes i lwyddo cuddio union faint o ni’n yfed bob wythnos trwy gael bywyd cymdeithasol eithaf prysur a chael ffrindiau oedd mas lot (a sicrhau gangs gwahanol o ffrindiau oedd mas ar wahanol nosweithi).

O ni hefyd odan ryw illusion y bysai’r yfed trwm yn stopio pan fyse gen i deulu bach fy hun.  Felly, da’th e bach o sioc i fi pan oeddwn wedi mynd nôl i yfed lot tra oeddwn ar gyfnod mamolaeth gyda fy nghyntaf anedig pum mlynedd yn ôl  (disclaimer – o ni wedi llwyddo peidio yfed pan yn feichiog gyda llaw – cyn i neb boeni am Osian druan!! Ac oedd hyn, wrth gwrs, yn “brawf” i mi bo fi ddim yn “alcoholig”).  O’dd Osian tua 6 mis pan nes i ddechre fynd i boeni eto bod yfed fi ddim yn “normal”.  Er bo fi ddim yn yfed bob dydd – y broblem oedd methu stopio pan o ni yn yfed.  O ni’n yfed tan meddwi.  Tan blackout neu tan chwydu.  Bob tro.  Allai ddim cofio unrhyw achlysur lle nesi stopio ar ôl un gwydr.  O ni bob tro yn yfed y botel gyfan – ac yn fwy aml na dim, yn agor ail.  O ni’n trio bob math o driciau gwahanol er mwyn helpu fi yfed yn gymedrol – fel dim ond prynu lager gwan, boteli bach o win neu cael G&T bob nos fel bod llai o craving erbyn diwedd yr wythnos….ond, needless to say na’th ‘run o hein weithio!  O ni’n dechre cael llond bol o ddeffro yn y bore yn teimlo yn ofnadwy ac yn llawn casineb at fy hun achos o ni wedi methu, unwaith eto, i stopio ar ôl gwydr.

Mi nesi ddechre gwglo’r frawddeg “am I an alcoholic?” yn eithaf aml.

O ni’n ticio rhai o’r bocsys, ond dim bob un – ac felly, yn rhoi sêl bendith i fi gario mlaen gyda’r yfed dinistriol – oedd yn dechre neud fi’n dost iawn yn feddyliol.  Ond…toeddwn i ddim yn alcoholig, nagoeddwn?! Dim ond alcoholics sydd angen stopio yfed.

Pan oedd Osian yn 10 mis oed, es i nôl i weithio – ond o ni mewn lle tywyll iawn iawn yn feddyliol ac fe wnaeth fy ngŵr orfodi fi fynd i weld fy meddyg teulu gan fod e’n amau bod gen i iselder.  O ni jest yn meddwl mai fel hyn o ni – odd hyn eithaf “normal” i fi deimlo yn isel, yn ddi-hyder…. “fi’n berson glass is half full”, dyna sut mae fy DNA wedi’i weirio.  Dim byd fedrith doctor na thabledi ‘neud.  Na’th y gŵr gonfinsio fi’n diwedd bod y teimladau o ni’n cael am fy hun ddim yn normal ac felly, es i at y doctor ac o fewn 24 awr gesi alwad gan rywun o’r uned iechyd meddwl.  Gesi persgriptiwn o Sertaline.  Nesi syllu ar y bocs am oes.  Gwglo bob dim amdan y cyffur yma.  Un peth daeth yn amlwg bod fwy o siawns i’r tabledi yma weithio heb alcohol.  O’dd hyn yn newyddion ffantastig!!  Fyswn i yn gallu cuddio fy mhroblem yfed tu ôl iselder!  GeniusByse deud wrth bawb fy mod i wedi gorfod stopio yfed achos bo fi ar anti-depressants lot llai embarassing na gweud bo fi’n stopio yfed achos bod gen i broblem yfed. 

O’dd hyn reit empowering i ddechre – a nes i weld e fel cyfle i golli pwysau a safio bach o arian fyd!  Ond y brif wers o ni ishe ddysgu oedd sut i yfed yn GYMEDROL!  Bydd y stint yma o beidio yfed yn siŵr o sortio fy nhueddiad i or-yfed….siawns?

Ryw 6 wythnos yn ddiweddarach, na’th y genfigen setio mewn. O’dd gweld pawb efo’i Gins neu Proseccos ar nos Wener yn ormod a nes i ddechre yfed yn ôl –  ac yn eithaf cymedrol i ddechre (Hwrê – I’d cracked the code!).  Ond, o fewn ychydig fisoedd, roedd yr hen arferion nôl ac o ni’n yfed yn drwm 1-2 waith yr wythnos. A dyma ddechre eto ar y cycle o feddwi – casáu fy hun – meddwi – casáu fy hun – meddwi – casáu fy hun….on repeat.

Fast forward i’r cyfnod diwethaf i fi yfed yn drwm – ar ôl enedigaeth fy merch, Alaw.  O’n i wedi colli rheolaeth erbyn hyn.  O’n i wedi cael digon o dorri pob addewid o’n i’n neud i fi’n hun – “dim ond un gwydr heno”/“dim ond un botel heno”/“dim ond yfed nos Wener wythnos yma”/“dim ond yfed efo ffrindiau”/“dim ond yfed ar achlysur arbennig” – torri pob un!

O’n i’n teimlo gymaint o fethiant, teimlo gymaint o gywilydd bo fi methu rheoli faint o’n i’n yfed.  Oedd y casineb at fy hun yn tyfu a thyfu tu fewn ac o ni wirioneddol yn dechrau meddwl efallai byse pawb yn well off hebdda i.  Byse’r plant yn well heb mess fel hyn o fam.

Ynghanol hyn o’n i’n trefnu fy mhriodas! Ac er bo fi eisiau stopio yfed – roedd y parti plu a’r diwrnod mawr yn esgusodion perffaith pam fy mod i methu rhoi’r gorau iddi cweit eto.

Chef

Ac yna  – dim ond 5 diwrnod cyn y briodas ges i newyddion wnaeth dorri fy nghalon i ddarnau mân.  Oedd fy nghefnder a ffrind – Gareth “Chef” Williams – wedi colli ei frwydr gydag alcohol.  Oedd Chef wedi bod yn dost iawn gydag alcoholiaeth ers dros 20 mlynedd. Nes i fyw gyda fe am 2 o rheina ac mae’n rhaid fi gyfaddef gafo ni lot fawr o hwyl gyda’n gilydd ac roedd alcohol yn ganolbwynt i bob dim!  Ond, roedd Chef yn yfed caniau o Strongbow trwy’r dydd, bob dydd.  Oedd byw gyda alcoholig yn neud i yfed trwm fi edrych yn “iach!”  Oedd Chef mewn a mas o re-hab am flynyddoedd – ac roedd ei stint diwethaf yn teimlo’n llwyddiannus.  O’dd e heb yfed ers 18 mis tan y relapse na’th ladd e.  Na’th alcohol ddwyn Chef oddi wrtho ni  – roedd alcohol wedi gwenwyno pob darn o’i gorff tan fod ei organau ddim yn gweithio.   Odd rhaid i fi neud rhywbeth am fy yfed i cyn iddo herwgipio fi hefyd.

Roedd marwolaeth Chef yn drobwynt. 

Gesi’r wake-up call bod y stwff yma yn beryg.   Oedd rhaid i mi stopio cael cywilydd am y gair alcoholig er lles fy mywyd.

Aeth y briodas yn ei flaen ac er i mi addo i fy hun fyswn i ddim yn yfed y noson cyn y briodas nac ar fore’r briodas…nesi i dorri bob addewid.  Dwi’n cofio prin DIM o’r parti nos ac mae gen i gymaint o gywilydd o hyn.  Ar ôl gwario gymaint o amser ac arian yn trefnu diwrnod mor arbennig – na’th alcohol dwyn oriau o f’atgofion.

Tro yma mi oeddwn yn benderfynol o sortio’r busnes yfed yma unwaith ac am byth – fe nes i fynd i un cyfarfod AA, ond o’n i’n gwbod odd e ddim i fi.  Felly, nes i ddechre neud lot fawr o waith ymchwil mewn i’r pwnc.  Darllen Quit-Lit (The Unexpected Joy of Being Sober – Catherine Gray, How To Kick the Drink – Jason Vale, This Naked Mind – Annie Grace, Recovery – Russell Brand) a dechrau dilyn llwyth o bobl ‘sobor’ ar Instagram.  Oedd e’n help enfawr gwbod bo fi ddim ar ben fy hun a bod gymaint o bobl erill mas yna ddim yn galw ei hunen “alcoholig” ond yn gwbod bod yfed yn broblem.  Mae’r gymuned sobor sydd ar lein yn wirioneddol wych.  O ni’n teimlo fel fy mod i wedi ffeindio fy tribe!

Dydi’r flwyddyn ddiwethaf ddim wedi bod yn hawdd – a na’th e ddim digwydd dros nos.  Ges i 3 relapse yn y cyfnod yma (un eitha spectacular lle nesi chwydu mas o gar oedd yn symud ar yr A55!).  Ond na’th bob un ohonyn nhw neud fi’n gryfach.  Atgoffa fi bo fi’n well off heb alcohol.  Oedd yr ysfa am newid yn mynd yn gryfach na’r status quo.  O ni’n dod fyny at 40 – hanner ffordd trwy fy mywyd (touch wood!) – ac o ni 100% barod i ddechrau pennod newydd.  Act 2 – The Sober Years!

A dyma fi heddi – 6 mis sobor.

Mae pwysau enfawr wedi codi o fy ysgwyddau.  Dwi’n rhydd.  Dydi alcohol ddim yn rheoli fi dim mwy.  Dwi’n teimlo’n ffodus iawn bo fi wedi darganfod hyn cyn iddi fynd rhy hwyr – a sgen i ddim cywilydd bellach bod gen i ddim rheolaeth dros addictive substance!

Mae Russell Brand yn esbonio fe’n berffaith:

This is the age of addiction, a condition so epidemic, so all-encompassing and ubiquitous, that unless you are fortunate enough to be an extreme case, you probably don’t know you have it

Ac mewn twist bach digon od – dwi nawr yn teimlo’n falch bo fi wedi cael y broblem yma!  Achos dwi wedi cael yr allwedd hudol i fywyd heb inner chatter dinistriol.  Dwi ddim ishe bod yn prohibitionist na’n worthy – jest gweud bod stopio yfed wedi gweithio i fi.  Wrth gwrs, dwi dal i gael diwrnodau shitty, ond dwi’n delio gyda nhw’n well.  Mae gen i fwy o oriau yn y dydd, croen gwell, mwy o amynedd da’r plant, fwy sharp yn gwaith, pen yn fwy clir, mwy o arian yn banc, wedi colli pwysau ac yn llwyddo i redeg 4 gwaith yr wythnos!  Dwi’n teimlo fel bod fy ymenydd a’m corff yn gweithio ar lefel lot uwch nag oedd e o’r blaen (siŵr bod y bwyta’n iach a’r rhedeg yn helpu hyn hefyd – a’r intermittent fasting, ond mae hwnna’n blog at rywdro arall!).  Mae’r person o’n i moyn bod pan o’n i’n yfed yn dechre dod yn araf bach trwy beidio yfed.  Dwi ddim ofn cwmni fy hun dim mwy – a dwi’n dechre magu bach mwy o hyder.

Os oes rhaid i mi alw fy hun yn alcoholig i achub fy mywyd ac er mwyn i bobl erill dderbyn bo fi methu yfed – wel, c’est la vie!   Ond, doeddwn i ddim yn alcoholig yn yr ystyr bo fi yn cael shakes os nag oeddwn yn yfed (fel Chef druan), ond dwi’n sicr ar ryw sbectrwm o fod yn gaeth i ddiod.  Does dim rhaid cyrraedd y cliché “rock bottom” o alcoholiaeth i neud rhywbeth amdano fe chwaith achos falle bydd hynny’n rhy hwyr.   Mae 25 o bobol yn marw Y DYDD yn y DU o alcohol related death.  Mae hynna’n frawychus!  Ond eto – fi yw’r weirdo mewn cymdeithas sydd wedi dewis peidio yfed dim mwy!

Mi fyddai’n 40 mis nesa ac yn gyffrous iawn am y bennod nesa yn fy mywyd – a dwi mor falch o fy hun bod fi’n dechre’r pen-blwydd yn 6 mis sobor!  Dyma’r anrheg gorau erioed.  Ta-ta blackouts, self-loathing a’r teimlad crinj ‘na yn y bore.  ‘Sdim hyd yn oed rhaid i mi ddefnyddio will power rhagor – dwi jest wirioneddol ddim ishe sbwylio be sta fi nawr trwy yfed gwenwyn sy’n mynd i neud fi’n rili dost.

Fi ffaelu aros i weld be sta Act 2 i gynnig i mi  – a’r darn gorau yw, dwi am gofio fe gyd! 

Angharad Griffiths


Darllen rhagor:




Mae ‘na haul ar ddiwedd yr ogof – Nia Owens

Ma’ na haul ar ddiwedd yr ogof…

O ni fyth yn ferch swil o gwbl yn ysgol. Oedd ffrindiau da gen i, nid oedd unrhyw beth all unrhyw un ddweud wrtha’i fy effeithio. Ond, do’n i fyth yn hollol hapus gyda nghorff, o’ni just ddim yn meddwl llawer amdano. Pan o’ni yn y chweched newidiodd popeth yn hollol. O’n sboner a fi wedi gwahanu, ac fe ddadleais efo’n holl grŵp o ffrindiau, yn gadael fi ar ben fy hun, yn unig ac yn hollol ddi-hyder. Dyna’r peth cyntaf oedd wedi cychwyn yr holl cogs yn fy mhen fy mod i ddim digon da.

Aeth flwyddyn olaf chweched heibio, collais damed o bwysau ond dim byd llawer – dim ond tyfu i fyny o ni’n meddwl o’ni. Dechreuais y Brifysgol yn yr un dref a oedd yn golygu fy mod i wedi gallu aros adref. Oedd gen i ffrindiau newydd ac roedd pethau yn dda eto, ond yn ystod y flwyddyn gyntaf yn y Brifysgol wnaeth pethau adref newid ychydig gan olygu fy mod i’n helpu fwy gyda gwaith adref. Oedd yr angen amdana’i adref yn rhoi rhyw fath o bwrpas i fi, o ni eto’n teimlo fel fy mod i’n plesio ac yn ddigon.

Yn y Brifysgol newidiodd pethau…

Wrth aros adref o ni ddim wir yn ffitio mewn, o’ni di dechrau colli fwy o bwysau, o hunan hyder, yn gweld yr holl ferched oedd yn ffitio mewn… O ni’n meddwl bo nhw i gyd yn fwy tenau, yn fwy pert, yn popeth o’ni ddim….

Collais fwy o fwy o bwysau, gan disgyn ymhellach o’r grŵp o ffrindiau newydd o’ni wedi’i neud, nes fy mod wedi gwthio nhw i ffwrdd heb hyd yn oed sylweddoli… Doedd neb yn dweud llawer, doedd neb yn nabod fi yn pwyso fwy felly pam fyddai unrhyw un yn dweud unrhyw beth?! Mond un ffrind oedd ar ôl gena’i o’r ysgol, fy ffrind gorau, a hi oedd yr unig un oedd yn gwybod popeth aeth ymlaen, a hi oedd yn gweld y gwahaniaeth.

Erbyn dechrau’r drydedd flwyddyn o’ni wedi colli dros 3 stôn… O ni nawr yn wynebu bywyd mewn ‘sbyty yn cael fy mwydo trwy diwb… Dyna’r tro cyntaf i fi weld Mam a Dad yn sylweddoli pa mor wael oedd pethau wedi mynd..

Fel aeth y misoedd ymlaen ges i ail gyfle i newid pethau rownd.. Ges i driniaeth drwy ddietegydd a nyrs Gwasanaethau Iechyd Meddwl CAMHS a helpodd hyn i fi allu cael yr hyder i gael rhywbeth gwahanol i fwyta yn lle’r salad arferol o ni’n cael fel petai’n gyfraith bob nos. Ond do’n i ddim yn dilyn y cynllun yn gywir, a do’n ni dal ddim yn bwyta cinio. Ro’n i’n dal i sicrhau fod fy watsh yn dweud fy mod i wedi llosgi digon o galorïau’r dydd. O ni’n pwyso fwy a tamed yn well nag o’ni, ond oedd yr anorecsia dal yna, ac roedd dal uwch fy mhen yn fy rheoli.

Newidiodd pethau fwyaf i mi un haf pryd wnes i ddechrau seiclo

Dechreuais i seiclo pob dydd, ymhellach ac ymhellach… Wnes i ddechrau bwyta fwy i roi’r egni i fy hun i allu seiclo ymhellach.. Ond o’ni dal ddim yn hapus, ddim yn hyderus. Daeth y newid fwyaf o gwympo mewn cariad â’r gym a chodi pwysau. Cwrddais â merch oedd yn PT, roedd hi’n deall yn gwmws beth o’ni wedi mynd trwy wrth fynd drwy’r fath beth ei hun. Gwnaeth hi gynllun i mi ac fe gawsom sesiynau efo ein gilydd hefyd. Fel aeth amser heibio ces i lawer fwy o hyder yn y gym, yn gweld newidiadau gwych. O’ni wedi trial llawer fwy o fwyd nag o’ni yn arfer, ac ro’n i’n coginio llawer fwy hefyd.

Erbyn hyn, dwi wedi cael fy rhyddhau o’r gwasanaethau iechyd meddwl, wedi graddio o’r Brifysgol gyda chymhwyster athrawes gynradd, ac yn dal i fynd i’r gym yn ddyddiol. Dwi ers wedi rhoi dros stôn arno, ac yn bwyta llawer mwy nag o’ni. Dwi dal heb adfer yn hollol, dwi dal ond yn bwyta bwyd iach, a dwi dal i orfeddwl bwyta neu yfed gormod. Dwi’n gweld hi’n anodd mynd fwy na diwrnod heb ymarfer corff ond dwi’n llawer gwell, llawer mwy iach a llawer hapusach nag o’ni amser hyn flwyddyn diwethaf.





PWNC ANGHYFFORDDUS? Gorbryder vs y Ddannodd – Non Parry

Yn dilyn ei blog cyntaf, mae Non Parry yn ôl…

Mae pethe’n well ond dwi’n meddwl bod dal lle inni wella sut, lle a phryd ‘da ni’n siarad am iechyd meddwl.

Yn ddiweddar nes i ddisgrifio cân fel ‘gwrando ar nervous breakdown’. Funny i rai bobol, ansensitif i eraill efallai ond y peth yw do’n i ddim yn trio bod yn funny, nac yn ansensitif. Dyna’r peth cyntaf ddaeth i ‘mhen. Fel yna oedd o’n teimlo i fi. Fel fysa rhywun arall yn deud ‘mae’n swnio fel migrane’ neu’r ddannodd efallai. Yn anffodus i fi dwi wedi cael mwy o breakdowns nac ydw’i o’r ddannodd. Ffaith. Ffaith anghyfforddus i rai falle ond mae’n ok, peidiwch a theimlo’n weird, achos dwi’n ok hefo hynna! Dwi wedi byw gyda gorbryder ers tua 16 o flynyddoedd erbyn hyn. Mae o’n rhywbeth dwi’n ymwybodol ohono ac yn ei reoli bob dydd felly erbyn hyn mae deud ‘mae’n anxiety fi’n chwarae fyny heddiw’ mor naturiol i fi ddeud dros frecwast ac ydi o i rywun arall ddeud ‘mae’n eczema i wedi fflêrio fyny heddiw’. Dwi hefyd yn ystod yr 16 o flynyddoedd yna wedi magu plant, gweithio, siopa ‘Dolig lot o weithie a phopeth arall normal… just fel y miloedd ar filoedd o bobol fel fi sy’n dioddef o orbryder.

Ond ti’n gwybod be fysa wedi ei neud o’n haws? Siarad amdana fo yn fwy normal.

Pan mae pobol yn siarad am iechyd meddwl mae dal twtch bach o’r ffordd oedd hen ladies ‘Anti Irene-ish’ yn sibrwd “mae gan merch Margaret problemau iechyd meddwl” yn yr un ffordd ag oddan nhw’n deud y gair ‘affair’. ‘Sneb rili yn gallu deud o heb deimlo’n wael. Be am i ni gyd stopio sibrwd ‘iselder’ neu ‘gorbryder’? Da ni’n sibrwd cyfrinachau neu pethe cywilyddus, ac mae teimlo fod problemau iechyd meddwl yn gywilydd neu’n gyfrinach mor ‘rong, ac yn beryg ofnadwy i’r rhai sy’n dioddef. So nawn ni stopio neud hynna ie?

Dwi’n deall fod iechyd meddwl yn bwnc sensitif ond yn bersonol dwi ddim yn meddwl fod o’n helpu unrhywun i roi’r statws ‘untouchable’ yma i’r cyflwr. Dwi ddim yn meddwl bod o’n deg bod gorbryder ac iselder yn cael cuddio mewn rhyw VIP area ‘da ni ddim yn cael cyffwrdd tra bo’r ddannodd yn eistedd yn y cheap seats gyda’i ffrindau eczema a phwysedd gwaed uchel. Mae’n amser i broblemau iechyd meddwl eistedd allan yn agored fel pob afiechyd crap arall. Ac hefyd… dydi’r ffaith fod yr afiechyd yn byw yn ein meddyliau ddim yn golygu eu bod nhw’n byw yn ein dychymyg chwaith… pethe neis sy’n cael byw yn fana, (fel cael teeeeny eliffant bach fel anifail anwes er enghraifft… dwi heb feddwl lot am hynna obviously).

Mae iselder neu gorbryder mor ‘real’ a phob afiechyd arall yn y waiting room felly gawn nhw eistedd yna gyda pwysedd gwaed uchel ac eczema a chael eu trafod a chael triniaeth fel pob afiechyd arall.

Weithie, pan mae rhywun ddigon dewr i ddeud eu bod nhw’n dioeddef gyda rhywbeth fel iselder mae pobol yn cynnig falle dyle nhw jyst  ‘canolbwyntio ar gwaith, neu… mynd am dro… retail therapy falle?’. Mae ngŵr i, Iwan, yn aros am kidney transplant. Dim ond un aren sydd ganddo a tydi hwnnw ddim yn gweithio. Rŵan yn yr 20 mlynedd dwi wedi bod efo fo yn siarad efo doctoriaid a specialists tydw i ERIOED wedi clywed unrhyw un yn cynnig falle ddyle fo fynd i brynu rhywbeth neis a jyst trio tyfu aren newydd ar ben ei hun. Na, mae o angen help a meddyginiaeth. Ac mae pobol sy’n dioddef gyda salwch iechyd meddwl hefyd angen gofal, a weithie meddyginiaeth. SIMPLE AS THAT!

Mae lefel fy ngorbryder i’n amrywio o ddydd i ddydd.

Ac mae’r pethe symla yn gallu bod yn trigger, felly dwi’n gwybod i osgoi y triggers. Yn union fel fysa rhywun lactose intolerant yn osgoi dairy. Rhyw 6 mlynedd yn ôl ges i’n ‘episode’ gwaethaf o orbryder. O’n i ar daith sioe blant yn aros mewn hotels gwahanol am gyfnod o tua pythefnos. (Erbyn hyn dwi’n deall bod hotels yn trigger anferth!!) Yn ystod y pythefnos wnaeth yr anxiety ddwysau… yn ofnadwy. Pob dydd yn teimlo fwy frantic. Mae gorbryder yn fy effeithio i’n gorfforol iawn, a fel dwi ‘di ddeud mae’n amrywio mewn lefel ond ar yr achlysur yma roedd pob symptom ar ei lefel uchel iawn. Methu anadlu, teimlo’n sick, chwil, calon yn rasio… gallu clywed pob curiad yn amplified, methu cadw’n llonydd. Tipyn bach fel bod ar rollercoaster drwy’r dydd a nos pan ti’n CASAU rollercoasters! Mae’n adrenaline i ar full blast, but not in a fun way. Y fight or flight response heb off button. Roedd insomnia wedi cicio fewn, ac ar y drydedd noson heb gwsg nes i ffeindio’n hun ar risie foyer y gwesty am 4 y bore yn dal y llawlyfr gyda rhif doctor ynddo ac yn syllu ar y revolving door, yn gweddio am ryw gryfder i’n symud i o’r grisie i’r car i mi allu dreifio i’r ysbyty achos o’n in meddwl fy mod i’n marw. Ond doedd gen i ddim yr egni na’r nerth. Ac yn rhywle roedd llais yndda i yn deud bod hyn yn embarrasing.

Rŵan, dwi wedi bod ar deithie fel yma LOT. A dwi di colli cownt ar faint o weithie fysa rhywun yn dod i lawr i gael brecwast ac announcio bo’ nhw di bod fyny drwy’r nos yn eistedd ar y toilet. A stori FI sy’n embarassing?! Mae rhywbeth yn wrong fan hyn surely?! Ie, doedd beth ddigwyddodd i fi y noson yna ddim yn bleser i wrando arno falle, ond di’r shits ddim gwell!! Ac mae gorbryder yn rywbeth lot pwysicach i rhannu amdano na toilet habits… yn enwedig amser brecwast! Ond wrth gwrs nes i ddim deud dim wrth unrhyw un. Just deud mod i’n cael trafferth cysgu. Llai embarrassing i bawb. A’r peth ridiculous oedd o’n i ar daith gyda ffrindiau…ffrindiau rili lyfli. A mi fysa pob un ohonyn nhw wedi helpu fi ond am ryw rheswm nes i gadw cyfrinach y gorbryder.

Erbyn i mi gyrraedd doctor (wedi gorffen y daith .. STUPID!!), on i’n exhausted, yn shiglo, methu anadlu – dim ond yn gallu just about sibrwd i’r doctor.  Roedd hi’n smiley a lyfli ac yn rili calm a matter of fact a nath hi ddeud –

Yes this is nervous exhaustion. It’s chronic anxiety’ (nervous breakdown yn yr hen ddyddie).

Ges i bresgripsiwn am feddyginiaeth –

and use the paper bag it comes in to help you breathe if you need to, it will rebalance the chemicals in you. And I’ll refer you to a course you can go on for anxiety, it’s free, six weeks one afternoon a week.”

Mewn eiliadau roedd shifft yndda i – rhyddhad!

Achos dim fi oedd wedi achosi hyn.. salwch! Chemicals! Dim fi! Roedd hi wedi gweld pobol fel fi LOADS o wethie. A roedd ganddi bethe i neud fi’n well, jyst fel eczema a high blood pressure.  Roedd y salwch yma, fel bron iawn pob salwch arall, yn treatable. Ddim yn weird o gwbl.

Felly dwi ‘di penderfynu peidio cyfro fyny dros iechyd meddwl fi rhagor. Achos mae o fel ‘abusive partner’ sy’n nocio ti o gwmpas a deud ‘tha ti gadw fo’n gyfrinach a mynd lawr i frecwast a deud wrth pawb bod o’n ddim byd, “nes i just cerdded mewn i ddrws”. SCREW THAT! Nid fi sy’n wan, ti sy’n greulon. Ti’n horrible and I’m calling you out. A ti’n gwybod be? Mae pobol yn deall, ac yn helpu. Ac mae popeth gymaint yn haws.

Ydi, mae iechyd meddwl yn bwnc sensitif a dwi ddim yn bod yn flippant nac yn deud fod o’n super hawdd i’w drin… ond dydi o ddim yn ‘dirty subject’ chwaith a dwi’n meddwl bod o angen cael ei normaleiddio ychydig. Er mwyn iddo fod yr un mor hawdd a’r ddannodd i siarad amdano. Dyna dwi isio i mhlant yn sicr. Mae’r ffaith bod hi’n awkward i drafod yn stopio pobol sydd angen help rhag cael yr help hwnnw. Ac wedyn mae’r cyflwr yn gwaethygu. Mae gorbryder mor gyffredin nes, rili, mae’n ridiculous bod ni methu siarad yn fwy agored am y peth.

Felly os ydach chi’n dioeddef gyda gorbyder, falle heddiw yn y gwaith, siaradwch, dudwch wrth y person nesa atoch chi.

Falle bod nhw’n teimlo’r un fath.. neu fod ganddynt ddannodd efallai… either way falle allwch chi helpu’ch gilydd!

Non


Darllen rhagor:




Fy neuddeg mis o golled – Becky Williams

Becky

Galar yw’r cyflwr emosiynol poenus y byddwn ni i gyd yn dod ar ei draws ar ryw bwynt yn ein bywydau, ond rydym ni fel cymdeithas yn hynod gyndyn i’w drafod. Mae hyn yn golygu bod pobl yn hollol amharod i ddelio â her emosiynol galar y mae’n rhaid i ni ddioddef pan fydd rhywun rydym yn caru’n marw. 14 oed oeddwn i pan brofais alar am y tro cyntaf, pan fu farw fy nhad o felanoma malaen (Malignant Melanoma). Bryd hynny, ar ddechrau’r glasoed, anghyfleuster oedd fy ngalar. Roedd yn bygwth fy stopio rhag mynd ar ôl bechgyn a mynd allan gyda ffrindiau, felly fe’i rhoiais i’r neilltu i barhau â fy mywyd. Yn 20 oed, dechreuodd fy iechyd meddwl ddioddef a daeth yn amlwg fy mod yn profi galar gohiriedig (delayed grief). Es i at y GP a wnaeth fy nghyfeirio at gwnsela, ac ar ôl i mi weithio drwy fy ngalar gyda seicolegydd roeddwn i’n gallu symud ymlaen.

Pan gafodd fy ngŵr Irfon ddiagnosis o ganser datblygedig y coluddyn yn 2014, roedd fel petai’r byd wedi dod i ben. Ro’n i’n wraig weddw yn 37 oed pan fu farw Irfon ar 30 Mai 2017. Dim ond 46 oedd o. Yn Dad i bump, mae gennym ddau fab gyda’n gilydd – Sion sy’n 9 oed ac Ianto sy’n 7. Wrth i mi edrych yn ôl ar fy mhrofiad cynt o alar, roeddwn i’n benderfynol i wynebu fy ngalar ac yn gwybod ei fod yn hanfodol i mi gefnogi fy mhlant yn eu galar hefyd, er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posib.

Roedd y dyddiau cyntaf ar ôl i Irfon farw yn frithgof, ond yr hyn dwi’n gallu cofio yw teimlo fel petawn i’n sefyll yn stond â’r byd yn parhau o fy amgylch.

Roeddwn i’n ddideimlad. Yna daeth yr angladd ac roedd y bechgyn yn awyddus i ddychwelyd i’r ysgol. Fel mam, fy mlaenoriaeth oedd sicrhau y byddai fy mhlant yn iawn. Ar ôl i’n byd gael ei droi wyneb i waered, roeddwn i’n gwybod nawr mai fy rôl i, yn fwy nag erioed, oedd sicrhau cysondeb yn eu trefn ddyddiol, ffiniau, llwyth o gariad a phobl roeddent yn eu caru o’u hamgylch. Roedd y misoedd cyntaf yn heriol iawn. Doedd gen i ddim egni corfforol a threuliais bob dydd yn y gwely wedi fy llethu â thristwch tra’r oedd fy ymennydd yn ceisio prosesu’r newid byd enfawr ac ysgubol hwn. Byddwn i’n mynd â’r bechgyn i’r ysgol ac yna’n mynd nôl i’r gwely tan oedd hi’n amser eu casglu. Roedd hi’n glir i mi y dylai’r ychydig o egni oedd gen i gael ei gadw at anghenion a threfn ddyddiol y bechgyn, ac felly penderfynais beidio ag ateb y drws i ymwelwyr.

Yn ystod y dyddiau, wythnosau a misoedd cyntaf, roedd hi’n anodd iawn i ganolbwyntio, roedd fy meddyliau i gyd am Irfon ac asesu’r sefyllfa newydd hon ro’n i ynddi. Ro’n i’n ofni’r dyfodol ac roedd hi’n anodd gweld sut gallwn ddod o hyd i ffordd allan o’r boen ro’n i’n ei brofi. Ro’n i mor bell fy meddwl, byddwn i’n gweld pobl yn siarad â fi ac yn sylweddoli nad oeddwn wedi clywed gair. Roedd cysgu yn ystod y nos yn her enfawr, byddai’n anodd i mi gwympo i gysgu ac unwaith i mi gysgu byddwn yn cael breuddwydion byw fod Irfon o hyd yn fyw ac yn iawn. Byddwn i’n deffro’n sydyn mewn panig: byddai’n cymryd rhai eiliadau i sylweddoli mai breuddwyd oedd hi, a byddai’r galar yn dod yn ei ôl fel dwrn yn fy ngwyneb.

Dwi’n credu bod y rhan fwyaf ohonom yn credu bod galar yn dristwch parhaus, ac nid yr holl ystod o emosiynau sydd ynghlwm. Unwaith i’r numbness ddechrau diflannu, ro’n i’n bryderus iawn ac yn dechrau poeni am ddiogelwch. Ro’n i’n poeni y byddai rhywbeth erchyll yn digwydd i’r hogiau, pe nad oeddent efo fi. Byddwn i’n codi sawl gwaith yn ystod y nos i wirio bod y drysau a’r ffenestri ar gau yn y tŷ. Ar adegau, teimlais fel mod i’n mynd yn wallgof. Roedd yr hogiau hefyd yn cael trafferth â’r drefn newydd amser gwely gan mai Irfon oedd yn darllen stori iddyn nhw, felly daeth amser gwely yn anodd o ran galar.

Becky gyda’r hogia mewn gêm bêl-droed

Wrth i amser fynd yn ei flaen, dechreuodd fy lefelau egni godi a byddwn yn treulio cyfnodau o amser yn eistedd yn yr ardd, ac ro’n i’n gallu derbyn ymweliadau gan ffrindiau. Dechreuodd y numbness ddiflannu, dechreuodd y tristwch llethol godi ac yn ei le daeth emosiynau newydd. Dwi’n cofio un bore Sadwrn yn cael trafferth rhoi esgidiau pêl droed Ianto arno wrth baratoi am gêm. Teimlais y dicter yn codi ynof – ‘Irfon ddylai fod yn gwneud hyn, pam ei fod wedi marw, pam ni?!’. Adeg arall, dwi’n cofio ceisio tynnu’r peiriant torri gwair o’r garej ac yna eistedd ar y llawr â dagrau’n disgyn.

Wrth i’r Haf ddechrau, daeth mwy o heriau i’m plith, gyda cherrig milltir fel penblwyddi teuluol a mynd ar wyliau am y tro cyntaf heb Irfon. Yn aml, mae pobl sy’n galaru’n clywed ‘Y tro cyntaf am bopeth yw’r anoddaf’. Ond o fy mhrofiad i, dwi ddim yn credu fod hyn yn wir. Ro’n i’n ddideimlad yn ystod y flwyddyn gyntaf, jyst yn mynd trwy’r motions fel petai, yn enwedig ar gyfer yr hogiau. Ceisiom gadw at y drefn arferol o wneud ffỳs dros benblwyddi, a chedwais eiriau Irfon yn fy meddwl wrth i mi chwythu fy nghanhwyllau pen-blwydd gyda’r hogia’n gwylio: ‘Dathla fynd yn hŷn, nid pawb sy’n cael y cyfle i’w wneud’.

Trodd yr Haf yn Hydref, ac roedd hi’n amser dychwelyd i’r ysgol. Dwi’n credu’n gryf fod gan yr ysgol rôl enfawr wrth gefnogi plant sy’n galaru gan fod plant yn treulio’r rhan fwyaf o’u hamser yno. Mae ysgol y bechgyn wedi bod yn hynod o gefnogol, diolch byth, felly roedd y broses o ddychwelyd i’r ysgol yn un hawdd iawn. Erbyn hyn, roedd y plant wedi bod yn gweld seicolegydd yn rheolaidd. Teimlais ei fod yn bwysig eu bod yn cael lle a pherson gwahanol i siarad â nhw. Credaf fod hyn wedi bod o fudd mawr iddyn nhw a dechreuon nhw deimlo’n ddiogel yn eu byd unwaith eto. Fel Mam, roedd gweld hyn yn arbennig. Dwi’n cofio sawl adeg lle’r oeddwn yn fy nagrau mewn rhyddhad, hapusrwydd a balchder wrth eu gwylio’n chwerthin ac yn gwenu’n ddiniwed – ‘’Da ni’n ei ‘neud o, ‘da ni’n goroesi!

Un peth roeddwn i ac Irfon wastad yn glir iawn amdano oedd bod yn onest â’r plant. Yn ystod salwch Irfon, roeddem bob amser yn onest â nhw er eu bod yn ifanc ac yn ystod wythnosau diwethaf Irfon, roeddent yn ymwybodol ei fod yn marw. Dwi’n credu bod y gonestrwydd hwn, er ei fod yn hollol ofnadwy iddyn nhw, wedi bod yn fuddiol iddyn nhw yn y pen draw. Roeddent mor barod â phosibl ar gyfer marwolaeth Irfon. Cawsant y cyfle i ddweud Hwyl Fawr i’w tad, a rŵan maen nhw’n fwy sicr eu bod bob amser yn gwybod yr hyn sy’n mynd ymlaen. Dwi wedi annog y plant i grio a dwi’n cofio teimlo’n ddig ag un ymwelydd i’r tŷ a ddywedodd wrthynt yn ddifeddwl, ‘peidiwch â chrio, byddwch yn fechgyn mawr i Mam’. Dwi hefyd yn credu ei fod yn bwysig i’r bechgyn fy ngweld i’n crio a thrwy hynny, maent wedi dysgu i beidio â theimlo’n lletchwith neu’n ofn tristwch. Rydym ni fel teulu bellach yn gallu adnabod yr emosiwn a delio efo fo’n gyfforddus.

Daeth y Nadolig, a doedd o ddim mor wael â’r disgwyl. Dwi’n credu mai’r cyfnod cyn y dyddiadau hyn sy’n anoddach na’r digwyddiad ei hun. Dwi’n cofio teimlo’n ofn iawn fy mod yn mynd i gael fy llethu gan alar ac felly’n methu gwneud y dydd yn arbennig i’r bechgyn. Daeth y ddau set o Neiniau a Theidiau draw i ginio ac efallai wrth edrych arnom y byddai wedi edrych fel sawl golygfa hapus dros y wlad, ond i ni roedd hi’n hynod amlwg bod un gadair yn wag.

Yn y Gwanwyn, es i nôl i’r gwaith. Roedd hyn yn her gan fod Irfon a finnau wedi gweithio gyda’n gilydd, felly dyma sefyllfa arall lle’r oeddwn yn teimlo’r golled a’r galar poenus. Ar ôl rhai wythnosau o ddyfalbarhad, tawelodd y don galar mwyaf diweddar ac roedd bod nôl yn y gwaith yn gymorth. Helpodd i mi ailgydio yn fy ymdeimlad o hunaniaeth. Yma, ‘Becky’r nyrs’ oeddwn i, nid ‘Becky’r wraig weddw’. Teimlais fy hyder yn dychwelyd, a oedd yn rhoi gobaith i mi. Erbyn hyn roedd y tonnau o alar yn dod yn llai aml, ac roedd bywyd o ddydd i ddydd yn teimlo’n haws i’w reoli. Pan oedd ton o alar yn fy mwrw, byddai o hyd yn gallu fy llethu. Roedd hyn yn anghyfleus ac yn siomedig, ond dysgais eu bod yn dod i ben.

Yn ystod y cyfnod hwn, dechreuais gwrs ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) – roeddwn am ddod o hyd i rywbeth i’w ddefnyddio i helpu’r gorbryder parhaus oedd wedi fy mhoenydio ers marwolaeth Irfon. Dechreuais boeni hefyd am iechyd a marwolaeth fy hun – beth os ydw i’n cael canser, beth fyddai’n digwydd i’r bechgyn? Dwi wedi ffeindio ymwybyddiaeth ofalgar yn fuddiol iawn, mae’n fy nghadw i’n y presennol, a dwi lawer fwy ymwybodol o ‘nghyflwr emosiynol. Nid yw’n golygu atal emosiwn anodd, ond adnabod yr emosiwn am yr hyn ydi o, a’i deimlo.

Cyn hir, roedd hi’n flwyddyn ers marwolaeth Irfon. Wrth i’r dyddiad nesáu, roedd hi’n teimlo fel cyfle i edrych yn ôl ar ba mor bell oeddem ni wedi dod mewn cyfnod mor fyr. Rydym nawr mewn lle, yn emosiynol, oedd mor anodd dychmygu ei gyrraedd yn ystod y dyddiau cynnar o boen a thristwch dwys. Nid yw’n llethol mwyach, a mi fedrwn ni chwerthin a chael hwyl, ond yn bwysicach, rydyn ni wedi dysgu i deimlo’r galar a’i dderbyn. Rydym wedi dysgu na fydd y galar hwn byth yn ein gadael, mae bellach yn rhan ohonom am byth. Does dim pen i’r daith galar i’w chyrraedd, rydym nawr yn byw bywyd gwahanol gyda’r galar. Teimlais ryddhad enfawr pan sylweddolais fy mod yn gallu teimlo’n ddiolchgar. Yn ddiolchgar am gael ein Irfon arbennig yn ein bywydau: a thra ein bod ni’n dal i siarad amdano, fel yr ydym ni bob dydd, bydd yn aros yn fyw. Bydd y cariad enfawr y dangosom at ein gilydd bob amser gyda ni, gan nad yw cariad byth yn marw.

Becky Williams




Hel Meddyliau – Meinir Ann Thomas

Tro yma, Meinir Ann Thomas fu’n egluro wrth meddwl.org mor anodd yw byw bywyd dyddiol law yn llaw â phrofiadau iechyd meddwl.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol? Beth yw eich profiadau chi?

O edrych nôl, yn fuan iawn ar ôl colli mam ym mis Medi 1992. Roedd hi ond yn 35 oed, a minnau ond yn 10. Ro’n i eisiau bod gyda hi, felly nes i acshyli gymryd gorddos yn fuan iawn ar ôl iddi farw (tua pythefnos mae’n siŵr) er mwyn cael bod gyda hi. Wrth gwrs, naeth e ddim gweithio, a nes i ddim trial eto chwaith, ond do’n i ddim yn iawn o bell ffordd. Wi’n cofio dweud wrth dad tua mis ar ôl colli mam fy mod i’n depressed. Wedodd e shwt allen i fod yn depressed yn 10 oed? Ar ôl hynny, nes i gau fy ngheg. Cadw fy nheimladau i mi’n hun.

Oes gennych chi brofiad o dderbyn cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl? Pa fath o gymorth, a sut brofiad oedd hwn?

Oes. Nes i gymryd tabledi roaccutane ar gyfer acne yn 17 oed, a’r sgil effeithiau gwaethaf oedd iselder ysbryd a theimladau o hunanladdiad (mae rhai pobl wedi lladd eu hunain ar ôl cymryd y cyffur hwn) a nes i ddioddef y sgil effeithiau hyn. Nes i ffonio’r ysbyty er mwyn ceisio cael apwyntiad cynharach gyda’r arbenigwr croen (roedd gen i apwyntiad mewn rhyw fis ond doeddwn i ddim am deimlo fel hyn am fis arall). Roedd agwedd y dderbynyddes yn ofnadwy. Nes i esbonio’r sefyllfa ond gwrthododd roi apwyntiad cynharach i mi gan fod pobl â chancr y croen ganddo i’w gweld, ac awgrymu nad oeddwn i’n bwysig, er fy mod i’n meddwl am ladd fy hun.

Nes i ddweud wrthi fy mod i am stopio cymryd y tabledi a naeth hi ddweud bod hynny lan i fi. Felly nes i stopio cymryd nhw, ond roedd yr iselder dal yno, felly es i i weld fy meddyg teulu a naeth hi’n anfon i at gwnselydd. Roedd hi’n meddwl fy mod i’n teimlo fel hyn oherwydd beth ddigwyddodd i mam yn ogystal â’r tabledi roaccutane. Es i i ambell sesiwn, ond yna es i i’r Brifysgol ym Mangor felly doedd dim modd i mi barhau â’r sesiynau. Doeddwn i ddim yn teimlo eu bod nhw’n helpu ta beth. Yn 22, es i i weld cwnsler galar, a rhyw flwyddyn ar ôl hynny, es i i weld seicotherapydd, ond naeth hynny ddim helpu chwaith. Ro’n i’n teimlo nad oedd siarad yn newid unrhyw beth.

Sut fyddwch chi’n ymdopi â’ch iechyd meddwl o ddydd i ddydd? Oes unrhyw beth penodol ydych chi’n ei wneud o ran hunanofal?

Mae’n anodd. Rydw i wedi dod dros yr iselder erbyn hyn, ond rydw i dal yn dioddef o orbryder, sy’n medru achosi problemau yn y gwaith gan fod hyn yn ei gwneud hi’n anodd i mi ymdopi â straen. Ond rydw i’n gwneud pethau o ran hunanofal. Rwy’n aelod o gym ac yn mynd i ddosbarthiadau cicfocsio yn rheolaidd, yn ogystal â dosbarthiadau ffitrwydd eraill yno. Rwy’n ceisio treulio amser gyda theulu a ffrindiau, ac rwy’n ceisio mynd i ffwrdd mor aml â phosibl er mwyn gweld rhywfaint o’r byd, cael profiadau newydd, cwrdd â phobl newydd, a dianc rhag unrhyw straen adref. Rwy’n ceisio gwneud pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus.

Oes unrhyw beth positif wedi dod o’ch profiad o anawsterau iechyd meddwl?

Na, dim o gwbl. Y cwbwl mae e wedi neud yw gwneud bywyd yn anodd i mi.

Oes angen mwy o godi ymwybyddiaeth? Sut mae gwneud hynny?

Oes, wi’n credu. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dda am hynny. Mae gweld bod rhywun arall yn mynd trwy rhywbeth tebyg i chi’n gwneud i chi deimlo nad ydych chi ar ben eich hun. Eich bod chi’n ‘normal’.

Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i chi eich hun pan oeddech chi’n iau, neu i rywun sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd?

Peidio byth mynd ar roaccutane. Naethon nhw striwo mywyd i. Sai’n dweud na fydden i wedi cael unrhyw broblemau o gwbl tasen i heb fynd arnyn nhw, oherwydd beth ddigwyddodd i mam, ond naethon nhw neud pethau cymaint gwaeth.

Unrhyw beth arall i’w rannu?

Mae gorbryder yn gwneud i mi orfeddwl o hyd, sy’n beth anodd iawn i ddelio gyda. Efallai mod i’n dod drosodd fel person hyderus weithiau, ond does gan neb syniad beth sy’n mynd trwy mhen i. Pan wi’n cwrdd â phobl newydd, neu hyd yn oed pan wi’n gweld pobl wi’n nabod ers blynydde, mae pethau’n mynd rownd a rownd fy mhen i – “Beth ma nhw’n feddwl ohona i? Maen nhw siŵr o fod yn meddwl fy mod i mor dew. Fy mod i wedi rhoi cymaint o bwysau mlaen. Mor salw ydw i.” Rwy’n poeni am bethau wi wedi dweud. Poeni fy mod i’n swnio’n dwp. Poeni fy mod i wedi dweud rhywbeth o’i le. Mae fy nheulu a’m ffrindiau lawr y gym o hyd yn dweud wrtha i bod angen i mi gael mwy o hyder, ond shwt? Dyw e jyst ddim yn bosibl.


Darllen rhagor:




Effaith nam golwg ar fy iechyd meddwl – Elin Williams

Rhannol ddall, dall ac anabl, dyma rhai o’r labelau sydd wedi diffinio sawl agwedd o’m mywyd i ers i fi gael y diagnosis o’r cyflwr llygaid dirywiol, Retinitis Pigmentosa (RP), pan oni’n chwe mlwydd oed.

Dwi wedi bod yn berson reit hapus a positif erioed ond dwi methu cuddio’r ffaith bod tyfu i fyny hefo anabledd wedi bod yn sialens ac mae o’n rhywbeth sydd wedi cael effaith ar fy iechyd meddwl mewn mwy na un ffordd.

Dwi wedi bod yn berson distaw ers pan oni’n blentyn a dydi magu hyder erioed wedi dod yn hawdd i mi ond pan nes i ddechrau cael fy mwlio oherwydd fy nam golwg, fe wnaeth o brofi i fod hyd yn oed yn fwy anodd i fynegi fy hun. Roedd y sylwadau câs a’r chwerthin oherwydd bod fi wedi baglu dros rhywbeth gan bod fi heb ei weld yn dechrau cael effaith mawr ac er fy mod yn trio eu cau nhw allan, roedd y sylwadau yn gwneud i mi deimlo’n ddibwys ac fel fy mod i ddim yn perthyn.

Roedd pobl yn fy nhrin i’n wahanol oherwydd fy anabledd, roedd plant yr un oed a fi hyd yn oed yn siarad hefo fi fel fy mod i’n blentyn bach, gweiddi oherwydd bod nhw’n meddwl bod fi methu clywed yn ogystal â methu gweld. Actio’n neis i ‘ngwyneb ac yna gwneud sylwadau câs tu ôl i’n nghefn i, ddim yn deall fy mod i’n clywed y sibrydion.

Roedd cael fy nhrin fel hyn yn gwneud i mi deimlo ofn – ofn cerdded mewn i ystafell oherwydd bod fi methu gweld neb oedd yna ac yn gwybod byddai neb llawer yn fodlon helpu.

Un o symptomau mwyaf cyffredin RP ydi dallineb nos felly pan ma unrhywle yn dywyll neu rhannol dywyll, dwi methu gweld dim ac roedd hyn yn golygu bod fi’n gwrthod cyfleoedd i fynd allan gyda fy ffrindiau gyda’r nos rhag ofn i fi eu colli nhw, rhag ofn i ni fynd i rywle swnllyd a fyddai’n golygu fy mod i methu eu gweld nac eu clywed nhw.

Ac wrth gwrs fe wnaeth gwrthod tro ar ôl tro olygu eu bod nhw’n meddwl bod fi ddim isio treulio amser hefo nhw ond i fi, yr unig opsiwn oedd gen i oedd aros adra, roedd o’n haws, roedd o’n golygu bod fi’n saff, golygu fy mod i’n gyfforddus yn fy amgylchedd fy hun, un oni’n gyfarwydd gyda.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, roedd fy ngolwg i’n dirywio’n mhellach, doeddwn i methu gweld fy ffrindiau pan oni’n cerdded i’r ffreutur yr ysgol amser cinio ac felly’n eistedd ar fy mhen fy hun. Roedd o’n anodd, doeddwn i ddim yn nabod unrhywun arall hefo nam golwg. Mi oni’n teimlo fel mai fi oedd yr unig un oedd yn ei brofi, meddwl bod ‘na ddim ffordd allan o’r tywyllwch ‘ma oedd yn cael ei greu, nid yn unig yn llythrennol gan fy nam golwg ond hefyd oherwydd y teimlad o unigrwydd oedd i weld yn dod yn fwy amlwg yn fy mywyd i.

Roedd y dirywiad yn fy ngolwg yn gallu cael effaith negatif ac yn gwneud i mi deimlo’n isel ar brydiau.

Mi roedd o’n gwneud i mi deimlo’n wahanol, doeddwn i ddim yn licio’r ffaith fy mod i’n gorfod gwneud newidiadau i ‘mywyd – cael gwaith wedi ei addasu, defnyddio ffon wen pan oni isio mynd allan yn annibynol a gymaint mwy. Ac roedd y teimlad yna o fod yn ‘wahanol’ hefyd yn gallu arwain at unigrwydd.

Daeth y teimlad o unigrwydd hyd yn oed yn fwy amlwg pan oni’n fy mlwyddyn gyntaf yn y chweched dosbarth, mi wnes i ddechrau cael pyliau o banig yn aml ac roedd y teimlad o orbryder yn golygu bod fi ddim isio mynd i’r ysgol a ddim isio gadael y ty.

Mi roeddwn i’n poeni bob dydd bod pobl yn fy meirniadu i oherwydd fy nam golwg, poeni bod y dirywiad amlwg yn fy ngolwg bob dydd yn mynd i feddwl bod pethau am fynd hyd yn oed yn waeth, teimlo fod yr unigrwydd a’r ofn yn mynd i barhau am byth.

Ond hefo amser, nes i sylweddoli fod yna bethau oedd yn gallu fy helpu i deimlo’n well.

Fe wnes i ddechrau dod ychydig mwy agored am sut oni’n teimlo, nes i ddechrau ysgrifennu blog gan fy mod i’n ei weld o’n haws i gyfleu fy hun a fy nheimladau trwy ysgrifennu, a mi wnes i ddechrau siarad hefo pobl eraill oedd yn byw gyda nam golwg, rhywbeth oedd yn gam mawr i mi gan fy mod i’n ei ffeindio’n ofnadwy o anodd i drafod fy mhrofiadau a cael yr hyder yna i siarad gyda pobl newydd.

Mae’r gorbryder dal i fod yna, mae’r teimlad o unigrwydd dal yn dod i’r fei bob hyn a hyn ond dydi o ddim hanner mor ddrwg ac oedd o arfer bod.

Mae’n saff i ddweud bod nam golwg wedi effeithio arna i mewn ffyrdd positif a negatif, dwi wedi bod mewn sefyllfaoedd doeddwn i byth yn meddwl buaswn i’n gallu dod trwy ond rhywsut neu gilydd, mi wnes i a dwi’n trio canolbwyntio ar y pethau da mae o’n dod a i’m mywyd i.

Dim ond rhan bach o fy stori i ydi hwn ond rhyw ddiwrnod, dwi’n gobeithio bydd gen i’r hyder i rannu rhan arall o’r effaith mae fy anabledd yn cael ar fy iechyd meddwl.

Ond am rwan, dwi’n gwybod fy mod i ddim ar fy mhen fy hun a pan dwi’n teimlo’n barod i rannu mwy, dwi’n gwybod y bydd ‘na bobl sy’n barod i wrando.





Fe ddaw dyddie gwell, dwi’n addo! – Mared Powell

Dechreuodd y cwbl tua mis Mai blwyddyn 12, o ni’n anhapus gyda fy mhwysau felly fe benderfynais fod yn fwy ofalus da’r hyn o’n i’n fyta a byta’n fwy iach. Dros y misoedd nesaf dechreuais deimlo’n isel iawn a chael meddyliau tywyll, fe sylwodd Mam fod rhywbeth o’i le ac yn y diwedd bu’n rhaid i mi ddweud y gwir wrthi er mwyn mynd ati i gael help gan gwnselydd. Erbyn mis Medi o’n i ‘di colli bron i 2 stôn a’n byta llawer llai, i fod yn honest roeddwn i ‘di dechrau mynd yn gaeth i’r holl “dieto” ‘ma.

Roedd bwyd yn dechrau mynd yn dopic sensitif (odd hyn yn anodd credu gan fy mod wedi bod yn un odd yn dwli ar fwyd ers yn fach) ac yn mis Hydref fe benderfynais fynd yn ‘vegan’ gan fy mod yn meddwl y byddai’n ffordd ‘rhwydd’ o osgoi y ran helaeth o fwyd a’n cyfyngu’r bwyd allen i ddewis.

O hyn ymlaen roedd fy mhwysau‘n disgyn yn aruthrol, roedd hyd yn oed meddwl am fynd allan o’r tŷ yn ddigon i wneud i mi fynd mewn i banig llwyr a llefen y glaw, doeddwn i ddim eisiau siarad i fawr neb wyneb yn wyneb ac roeddwn i wedi blino drwy’r amser.

Erbyn mis Mai y flwyddyn wedyn roeddwn i wedi colli 3 stôn…

..ac odd fy BMI yn dweud fy mod ‘severely underweight’, er bo’ fi’n ymwybodol o hyn doedd dim cliw da fi shwt o ni’n mynd i wella a doeddwn i ddim wir yn gweld pwrpas gwella. (Roedd mynd mas o’r tŷ’n ddigon heb sôn am bobl yn dweud wrthai “Jiw ti di colli pwyse, ti mor dene a raca!” fel petai o’ni ddim yn ymwybodol o ‘na. Tip i chi– pidwch byth gweud dim byd fela i unrhywun o unrhyw faint achos chi byth yn gwbod beth sy’n mynd mlan go iawn yn ei bywyde nhw, ac os i chi wedi sylwi, dyw e ddim yn costi dim i ofyn a gwneud yn siŵr fod popeth yn iawn ‘da nhw.)

Odd cyfnod arholiadau lefel A yn galed dros ben yn enwedig wrth drial canolbwyntio pan doedd gen i fawr ddim egni.

Ges i’r graddau oedd angen i fynd i’r Brifysgol er mwyn astudio gradd Mathemateg, ond roeddwn i mor anhapus a’n gweld eisiau adre gymaint fe benderfynais adael y brifysgol mis Ionawr. (Doedd hyn ddim yn rhwydd, o ni’n becso fwy am beth fydde pobl arall yn gweud na iechyd fy hunan.) Bues i’n ddigon ffodus i gael swydd rhan amser a nath hwna byd o wahanieth i fi gael magu hyder eto (o ni ddim hyd yn oed yn gallu ateb y ffôn erbyn hyn).

Ar ôl dechrau ffeindio fy hun eto a phenderfynu stopio bod yn ‘vegan’ dechreuais roi pwysau ‘mlan a magu hyder yn araf bach. O’n i’n teimlo llawer hapusach a’n dechrau mwynhau mynd allan i gymdeithasu unwaith eto. Fi’n cofio meddwl i fy hun “Falle bod gobeth wedi’r cwbwl!”

Erbyn hyn dwi mewn lle llawer gwell ac wedi mynd nôl i’r Brifysgol i astudio cwrs Addysg Gynradd. Dwi’n berson cwbl wahanol erbyn heddi i gymharu â blwyddyn yn ôl, yn fwy hyderus a’n hapusach o lawer.

Cofiwch os i chi byth yn pryderu am unrhywbeth neu unrhywun mae’n bwysig siarad â rhywun, boed yn ffrind, aelod o’r teulu neu’n feddyg. Gwnewch yr hyn sy’n gwneud chi’n hapus a sydd orau i chi. Fe ddaw dyddie gwell, dwi’n addo!

Mared Powell 


Darllen rhagor:




Hel Meddyliau – Louise Tribble

Bu criw meddwl.org yn holi Louise Tribble, awdur llyfr ‘Mili Meddwl’, am ei phrofiadau hi o iechyd meddwl a’r ysgogiad i ysgrifennu’r llyfr yma i blant.

Pryd oedd y tro cyntaf i chi fod yn ymwybodol o’ch iechyd meddwl eich hun, neu iechyd meddwl fel pwnc yn gyffredinol? Beth yw eich profiadau chi?

Ers yn blentyn dw’i wedi dioddef ag iselder a phryder, ond roedd pawb yn galw fi’n “worrier” a doedd dim byd y gallen nhw neud. Nes i ddioddef â meddyliau hunanladdol am flynyddoedd. Ar ôl cwrdd â bachgen lyfli, aeth e a fi i weld y meddyg pan oeddwn i yn 17 mlwydd oed.

Dechreuais i gymryd meddyginiaeth pan es i i’r brifysgol, ond yn anffodus cymerodd e tan i mi symud i Sweden yn 23 mlwydd oed i fi gael help seiciatrydd.

Yn lwcus i mi, ffeindiais i lyfr amdano Mindfulness ac fe helpodd hynny lawer. Dewisais ysgrifennu llyfr o’r enw ‘Mili Meddwl’ sydd yn helpu plant bach i ddysgu sut i fod yn ‘Mindful’ ac felly yn eu helpu nhw i adeiladu iechyd meddwl positif.

Oes gennych chi brofiad o dderbyn cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl? Pa fath o gymorth, a sut brofiad oedd hwn?

Pan es i at y meddyg yn 17, ffoniodd y meddyg yr ysgol a gofyn iddyn nhw drefnu i’r cynghorydd ysgol siarad â fi. Es i unwaith, ac ar ôl iddi hi ofyn i fi arwyddo ffurflen yn gofyn os oeddwn i yn hunan-niwedio neu’n hunanladdol, mi redais o’r ‘stafell mewn ofn – yn ofn bydde rhieni fi yn ffeindio mas.

Yn y brifysgol ges i help gan gynghorydd ond roedd ei gwasanaeth yn wael – roedd hi jyst yn edrych arna i, ddim yn siarad nac yn gofyn unrhyw beth.

Dechreuais wirfoddoli gyda Samye Foundation Wales yng Nghaerdydd, elusen sydd yn gweithio gyda iechyd meddwl ac sy’n dysgu Mindfulness. Cwrddais â CBT practitioner yno a’i gweld hi tua 10 gwaith, ond roedd rhaid i mi dalu ac roedd e yn ddrud iawn.

Ar ôl symud i Sweden ges i help gan y tîm seiciatryddol, ac nawr rwy’n cael sesiynau seicdreiddiad.

 

Sut fyddwch chi’n ymdopi â’ch iechyd meddwl o ddydd i ddydd? Oes unrhyw beth penodol ydych chi’n ei wneud o ran hunanofal?

Mae e’n anodd iawn ond rydw i yn gwneud yn siŵr fy mod i yn ymarfer “self care” pob dydd, ac yn defnyddio technegau Mindfulness.

 

Oes unrhyw beth cadarnhaol wedi dod o’ch profiad o anawsterau iechyd meddwl?

Rydw i yn gallu deall mwy o’r hyn mae bobl eraill yn mynd drwyddo ac felly mae gen i sgiliau gwell i’w helpu nhw. Mae’r profiadau wedi helpu fi i helpu eraill trwy siarad am fy iechyd meddwl, gwirfoddoli gydag elusennau ac hefyd ysgrifennu fy llyfr Mili Meddwl.

 

Oes angen mwy o godi ymwybyddiaeth? Sut mae gwneud hynny?

Oes – mae hyn yn bwysig iawn i helpu bobl i ddeall, i fod yn empathetig, ac er mwyn perswadio bobl i fynd at y meddyg a chael gwared o’r stigma. Mae siarad amdano iechyd meddwl a rhannu profiadau yn le da i ddechrau!

 

Pa gyngor fyddech chi’n ei gynnig i chi eich hun pan oeddech chi’n iau, neu i rywun sy’n byw gyda phroblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd?

Paid ag aros i fynd am help – cer at y meddyg neu siarad â rhywun ti’n ymddiried ynddynt!


Darllen rhagor:




PAID A BOD OFN… – Non Parry

Hei! Non Parry dwi. Dwi’n 45, yn briod gyda 3 o blant ac un llys fab ac un llys ferch. Dwi’n aelod o grŵp pop Cymraeg Eden. Dwi hefyd yn ysgrifennu sgriptiau, felly fel rhywun sydd wedi arfer sgwennu ‘straeon’ os liciwch chi, dwi wedi hen arfer disgrifio cymeriadau a theimladau, meddwl am blot, helpu’r gynulleidfa ddod i ‘nabod prif gymeriadau ayyb. Ond mae sgwennu hwn yn wahanol achos fi yw’r prif gymeriad a’r stori yw’n iechyd meddwl i. Anodd gwybod lle i pitchio ‘dwi’n byw gyda cyfnodau o iselder, panic attacks ac anxiety’ Ond TADAAA! Fi’n ‘colli’r plot’ yw’r plot. Awkward.

I’r rhai ohonoch chi sydd ddim yn gyfarwydd gydag Eden googlwch os chi isio… fi di’r un yn y canol sy’n dawnsio a gwenu a chanu caneuon super fun am ‘Parti’s’ a Pethe Bach sy’n neud i fi deimlo’n hapus – a dwi’n feddwl o, mae pethe bach yn neud fi’n hapus. Dwi’n berson rili hapus. A dwi’n CARU canu a dawnsio gyda’r band, mae’n ridiculous o AWESOME! #blessed. ‘Paid a Bod Ofn’ ydy kind of theme tune ni… Ond rŵan dwi am bummio chi gyd allan a datgelu dwi actually ofn LOADS o bethe!

PETHE DWI OFN

Ateb y ffôn, gwylie, teithio in general, partis plant, rhoi rhai pethe yn y bin/taflu pethe, noson rhieni, system trollies Aldi, audience participation, hotels, nos, bara….tip of the iceberg….(dwi ddim actually yn scared o rheina, sy’n foolish achos you know.. Near… Far and all that)

So dwi wedi bod yn bangio mlaen yn canu ‘paid a bod ofn dweud be sy’n dy feddwl’ ers 1996 ac rŵan dwi’n meddwl bod hi’n amser am ychydig o practice what you preach. A ma’ fy meddwl i yn ‘brysur’ iawn, let’s say!

ISELDER

Dwi ddim yn meddwl bod hi’n gyd-ddigwyddiad fod fy nghyfnod cyntaf gydag iselder wedi dod ryw ddwy flynedd ar ôl cael fy mhlentyn cyntaf. Dwi ddim yn meddwl mai post-natal depression oedd e ond mae cael babi yn newid byd. Mae’n gallu bod yn isolating iawn ac mae’r list o bethe ti’n mynd i potentially neud yn ‘wrong’ os wyt ti isio bod yn fam dda yn ddiddiwedd!

Doeddwn i ddim yn drist, o’n i’n wag. Doedd gen i ddim gobaith yndda’i. Roedd lliwiau yn wahanol, sŵn popeth yn wahanol. Roedd wal invisible rhwng fi a pawb a phopeth arall a doedd gen i ddim gobaith dringo dros y wal a bod yn y lle gyda lliw. Roedd y teimlad yma fel ton oedd â’r gallu i paralysio fi yn y fan a’r lle. Methu symud, methu siarad. Roedd rhywbeth wedi cyrraedd a chymryd popeth oddi wrtha’i. Ers hynna dwi wedi cael sawl cyfnod o iselder a does dim rheswm pam. Dwi’n siwr mod i wedi darllen yn rhywle bod iselder fel ‘mugger’. Byswn i’n fine, bywyd yn grêt, ac o nunlle y thing yma yn cydio yndda’i. Un funud mae gen i handbag yn llawn o bethe lyfli, lliwgar, sbesial ac wedyn mae rhywbeth yn dod o nunlle a’m gwthio i i’r llawr a gwagu’r handbag. Yn fy ngadael i’n wag ac yn petrified. Ond erbyn hyn dwi wedi dysgu, mae gen i bethe i helpu – os mae’r iselder yn dod mae gen i first aid kit yn fy ‘handbag’. A pob tro dwi’n gwella yn gynt. In fact, mae gen i ffyrdd o nockio bloc off yr iselder cyn iddo myggio fi os dwi’n gweld o’n lurkio yn y tywyllwch.

Y LLAIS

Daeth ‘y llais’ yn amlwg i fi ryw ddeg mlynedd nôl. Erbyn hyn dwi wedi sylweddoli ei fod o wedi bod yna ers o’n in blentyn ond o gwmpas 2008 nath volume y llais rili rampio fyny. Dwi’n meddwl bod gan pob un ohonyn ni lais yn ein pennau sy’n deud pethe fel.. “nes di droi’r hob off?” neu “pam nes di ddeud hynna?” neu “ti’n rhy hen i wisgo bikini”.

Ond mae’n llais i yn something else! Real chatterbox. Mae hi wrthi drwy’r dydd, mae hi’n deud pethe delightful fel “ti’n pathetic, ti’n stupid, ti’n useless, ti’n ridiculous, ti’n niwsans, ti’n wahanol… and not in a fun quirky way Non”, ac mae hi’n neidio o gwmpas yn fy mhen i tra’n deud y pethe ‘ma, gyda loudspeaker, ac yn sefyll ar ben gadair.

Mae’r llais yma fel yr Evil Stepmother a fi ‘di Cinderella. Mae hi’n deud pethe fel “ti’m yn cael mynd allan achos ti heb orffen neud y stwff i gyd, y stwff mae pobol normal yn ffeindio yn rili hawdd. Ti’n gwbod pam ti heb neud y stwff? Achos ti methu… ti’n crap. Ti’n gwybod yn iawn nei di BYTH neud y stwff ti fod neud achos as I said, ti’n crap. Ac anyway, sdim point i ti fynd allan achos sneb isio gweld ti…ti’n weird a sneb yn licio weirdos. So arosa fan hyn a cau dy geg achos ti ddim isio i pawb wybod pa mor weird ac useless wyt ti. Paid a siarad hefo neb”

Ac yn y nos mae’r llais dal yn effro “Yyyyyyy…..HELO!!!!! Be ti’n neud yn cysgu? Mae gen ti bethe i feddwl am…a dy nhw ddim yn neis”.

Long story short, ar ôl ychydig es i i gael CBT. Peth gore nes i. Yn ystod un o’r sesiynau nath y therapydd ofyn i fi gael ‘sgwrs’ gyda’r llais. Crazy dwi’n gwybod achos clearly fi ydi’r ddau lais ond dyna ni, I went with it. Nath hi hyd yn oed gosod dwy gadair allan, un i fi ac un i’r llais a gofyn i mi symud o un i’r llall tra’n sgwrsio. Fel dwi di ddeud , dwi ddim yn ffan o audience participation ond it was worth a try I guess. A bysa fo drosodd mewn 5mins MAX. Hanner awr yn ddiweddarach roedd y llais a finne dal i sgwrsio! Be nes i ddysgu oedd bod y llais yn meddwl bod hi’n helpu (shit mate mind) yn trio pwsio fi i neud yn well (again… shit job!) Ac erbyn hyn mae’r llais a finne wedi dysgu byw gyda’n gilydd. Da ni ddim yn ffrindie ond da ni’n deall ein gilydd. Mae hi chydig llai cutting rŵan, ac os ydi hi’n deud rywbeth dwi ddim yn licio dwi just yn deud “ok then, diolch am yr input, gweld ti wedyn” ac eyerollio tu ôl i’w chefn hi bechod.

So dyna ran o’r stori…

Nai adael yr anxiety attacks a’r OCD i’r bennod nesa! Laughathon egh?! Ond dyna’r thing, dwi ddim yn berson trist, dwi’n berson hapus, dwi’n rili positif, laff os unrhywbeth! Dwi’n ridiculously lwcus. Ond yn ddiweddar dwi wedi teimlo bod angen imi fod yn fwy agored am yr ochr ohonai sydd ddim mor ‘sunny’ os liciwch chi, yr ochr sy’n strugglo weithie. Ac ers imi ddechre gneud hynny mae pethe wedi gwella. Esbonio yn union sut dwi’n teimlo pan dwi’n sâl yn hytrach na chuddio. A dim ond pethe da sydd wedi dod o neud hynny. Dyna sut dwi’n gwella. Mae’n gneud imi deimlo’n gryfach. Mae’r cyflwr anweledig yma bron iawn yn amhosib i unrhyw un sydd ddim yn dioeddef ei ddeall felly mae’n rhaid i ni helpu bobl i’n helpu ni drwy siarad yn agored heb gywilydd. Dwi’n credu bob tro ‘da ni’n siarad, pob tro ni’n gadel pobol i fewn i’n pennau a’n meddyliau, da ni’n lleihau pŵer y cyflwr. Siaradwch hefo rhywun.

#peidiwchabodofn 😉☺️


Darllen rhagor:




Dianc meddwl fy hun – Hannah Catrina Davies

Ma’ anxiety, depression, panic attacks ag ati ddim yn beth neis i fyw gyda, ond dyw e ddim yn diffinio ti fel person. Yn hytrach, ma’ fe’n dangos faint mor gryf wyt ti fel unigolyn.

Ma’ teimlo fel bo’ ti’n delio gyda popeth ar ben dy hun ddim yn neis, ond y cam nesaf yw i sylwi bod pobl YN becso, ac yn mynd i fod ‘na gyda ti pob cam o’r ffordd. Does dim byd mwy anodd na brwydro yn erbyn meddwl dy hun, pob eiliad o’r dydd… ond aros yn ‘ti’ yw rhan o’r frwydr, peidiwch colli eich hunain.

Y broblem yw, pan ti’n teimlo’n isel iawn, ma’ fe’n anodd iawn i sylwi’r pethau yma, ac mae’n anodd gweld y golau. Dyma fy stori i…

Sylwais nôl ym mis Ebrill/Mai fy mod i’n teimlo’n isel yn aml, ddim eisiau gwneud y pethau roeddwn i arfer dwli gwneud ac nid oedd llawer o motivation ‘da fi i wneud yn dda yn fy arholiadau Lefel A. Mae 17/18 yn oedran anodd… gorfod dewis beth chi eisiau gwneud am weddill eich bywyd, dewis y brifysgol rydych chi eisiau mynd i (os dyna be chi eisiau gwneud), sicrhau eich bod yn cael y graddau sydd angen arnoch ayyb.

Doeddwn i ddim yn siŵr am amser hir beth oeddwn i eisiau gwneud, ond roeddwn i’n gwybod fy mod i’n dwli edrych ar ôl plant ifanc o dan tua 8 mlwydd oed, felly penderfynais mynd i Brifysgol De Cymru i astudio ‘Early Years and Education’ yng Nghasnewydd. Cefais gynnig di-amod i astudio yna felly roedd llai o straen arnaf yn gwneud yr arholiadau. Roeddwn i’n methu deall felly, pam roeddwn i’n teimlo mor isel fy ysbryd os roedd gyda fi lle yn y brifysgol roeddwn i eisiau mynd i.

Ar ôl gorffen ysgol, roedd pethau’n mynd yn waeth.

Hyd yn oed os oeddwn i gyda fy ffrindiau dros y gwyliau haf, roeddwn i dal yn teimlo’n isel a doeddwn i ddim yn gwybod pam. Fe es i gyda fy ffrindiau i’r Royal Welsh am wythnos, roeddwn i fod mynd i Members ond ar ôl 2 noson, fe es i adref. Llefais llawer y noson olaf, eisiau mynd adref, ond roeddwn i wedi aros bant o adre’ sawl gwaith cyn hynny felly doedd hyn ddim yn gwneud synwyr i mi o gwbl. Pan oeddwn i adref, roedd pethau yn gwella yn araf bach, ond allan o unman roeddwn i’n cael panic attacks a teimlo’n isel eto.

Roedd gweddill yr haf yn llawn ‘ups and downs’ ond roeddwn i’n edrych ymlaen at fynd i’r brifysgol, i gael annibyniaeth, i fod yn fi fy hun, i joio bywyd ac i gwrdd â phobl newydd! Mewn ffordd, roeddwn i’n meddwl bydden i’n gwella yn y brifysgol. Roedd fy ystafell yn lysh, flat mates yn lysh, y brifysgol yn lysh… ie, oedd popeth yn lysh! Ond, ar ôl i teulu fi adel, roedd y panic attacks yn dechrau eto, a’r tro yma’n waeth… meddyliau gwael yn mynd trwy fy mhen.

Un tro, yn cerdded mewn i ganol dinas Casnewydd gyda ffrind newydd, roedd y ddwy ohonom yn chwerthin a dod i adnabod ein gilydd, ond yng nghefn fy mhen, roeddwn i’n meddwl i fy hun “dwi eisiau camu o flaen car.” Ar y pryd, roedd gen i sboner ac roeddwn i’n gallu dweud unrhywbeth iddo, ac roedd e’n gweithio yng Nghaerdydd pan oeddwn i’n Casnewydd, felly fe des i adref gyda fe ar ôl 2 noson yn y brifysgol. Ie, chi siwr a fod yn meddwl mai ‘homesick’ oedd e, ond na. Fi ‘di bod yn ‘homesick’ sawl gwaith o’r blaen ond roedd hyn yn wahanol, ac roedd esbonio hyn i fy nheulu a ffrindiau yn anodd iawn. Fe es i at y doctor y diwrnod cyntaf ar ôl cyrraedd adref, ac rwyf wedi bod ar anti-depressants ers hynny.

Yn amlwg, doeddwn i methu aros adref bob dydd yn gwneud dim byd, felly dechreuais edrych am swydd llawn amser yn ardal Llandysul, ac roedd gen i gwpwl o gyfweliadau am swyddi gwahanol, ond y diwrnod cyn y cyfweliad cyntaf, roeddwn i’n cael meddyliau gwael eto. Doeddwn i ddim yn barod am swydd eto, felly roeddwn i’n meddwl am ffyrdd i beidio gorfod troi i fyny, a’r unig beth oedd yn gwneud synwyr yn fy mhen ar y pryd, oedd i ddim byw. Dywedais wrth fy sboner (ar y pryd) beth oedd yn mynd ymlaen yn fy mhen, a dywedodd e i mi jyst ffonio i fyny a dweud fy mod i’n methu dod i’r cyfweliad achos salwch, felly dyna beth wnes i. Roeddwn i wedi dweud celwydd wrth fy nheulu a dweud bod y cwmni wedi canslo’r cyfweliad heb rreswm oherwydd nid oeddwn i eisiau esbonio popeth iddyn nhw. Fe wnes i ganslo pob cyfweliad arall hefyd achos doeddwn i ddim yn barod am swydd, roeddwn i eisiau gwella yn gyntaf.

Dechreuais wella yn araf bach drwy wneud tecstilau, celf a chrefft yn y tŷ, a felly fe wnes i ddechrau busnes bach fy hun ar ddiwedd mis Hydref o’r enw Pwythau Pert.

Rwyf yn mwynhau mas draw yn gweithio o adref, ond rwy’n edrych am swydd newydd, gan fy mod i nawr yn gweithio 3 awr yr wythnos yng Nghylch Meithrin Llandysul, a gweithio rhan amser fel gweinyddes yn Nhafarn Ffostrasol Arms. Er bod gyda fi 3 swydd, rwy’n teimlo fel fy mod i adre’ gormod, yn edrych ar yr un hen bethau trwy’r amser. Dwi’n dal i gael diwrnodau gwael trwy’r amser, ond rwy’n delio gyda nhw’n well nawr oherwydd rwy’n cael y cymorth sydd angen gan y doctor a  fy nghwnselydd.

Mae gen i gwnselydd nawr ers tua 2 fis, ac mae’n help enfawr i gael popeth ‘off your chest’ fel mae pobl yn dweud, wrth rhywun sydd ddim yn dy adnabod o gwbl. Mae fy nghwnselydd yn meddwl bod gyda fi salwch meddwl oherwydd bod gen i ‘fear of loss’. Pan oeddwn i’n 7 mlwydd oed, roedd Mam yn sâl iawn gyda Cancr y Fron. Roeddwn i’n rhy ifanc i ddeall beth yn gwmws oedd yn digwydd, ddim yn deall pam bod hi’n colli gwallt hi gyd, pam bod hi’n mynd i’r ysbyty bob dydd am fisoedd, pam bod fi byth yn gweld hi rhagor, pam roedd rhaid i fi aros gyda ffrindiau am gyfnodau o amser, pam bod hi ddim yn dod i bigo fi a fy chwaer lan o’r ysgol rhagor ayyb. Ond roeddwn i’n deall ei bod hi’n sâl ac yn ofn colli fy mam.

Tua’r un amser a hyn, collais fy mamgu a tadcu. Rwy’n meddwl bod ‘fear of loss’ yn gwneud synnwyr, achos bob tro mae risg o golli rhywun sydd yn agos i mi, neu pan fi yn colli rhywun sy’n meddwl llawer i mi, rwy’n cael panic attacks, anxiety ac mae depression fi’n mynd llawer gwaeth.

Yn ddiweddar, fe wnaeth fy sboner orffen ein perthynas ar ôl blwyddyn.

Allan o unman. Fe oedd y person roeddwn i’n trystio fwyaf yn y byd, y person roeddwn i’n gallu dweud unrhywbeth wrtho, y person roedd yn stopio fi rhag wneud pethau twp i fy hun fel hunan niweidio a’r person roeddwn i’n caru gymaint ac yn gweld fy nyfodol gyda. Fi ‘di colli rhywun arall oedd yn meddwl y byd i fi, a fi’n gweld hi’n anodd iawn i ddod i’r arfer â bod yn sengl yn delio gyda salwch meddwl, oherwydd roedd e wrth fy ochr o’r cychwyn.

Rwy’n dal i fynd i gysgu rhai nosweithiau yn gobeithio byddai byth yn dihuno, diwrnodau lle rwy’n gorwedd yn gwely methu codi, ond wrth ofyn am help, siarad am y teimladau gwael neu da sy’n mynd trwy fy mhen, rwy’n gwella bach ar y tro.

Mae stori gwahanol gan bob unigolyn sydd â salwch meddwl i ddweud, ond y gwir yw, ma’ ‘na olau.

Mae pethau yn gallu gwella, mae e’n anodd, ond trystiwch fi… ma’ fory yn ddiwrnod newydd, yn ddiwrnod gwell.

Hannah Catrina Davies