Rheolaeth.

Image result for bipolarRheolaeth. Un gair, miliwn o wahanol ystyron. I mi, rheolaeth yw’r mecanwaith sydd yn fy helpu i ymdopi. Hyd yn oed os yw’r rheolaeth hwnnw’n ymddangos fel bod allan o reolaeth i eraill. Beth bynnag yw’r ystyr y tu ôl i’r angen am reolaeth, y ffaith mai fy newis i yw o sy’n cyfri. Mewn sefyllfaoedd ble mae popeth allan o dy reolaeth di, nid oes syndod bod yr angen i gymryd rheolaeth yn ôl yn syniad atyniadol. Ac yn fwy nag atyniadol – yn syniad caethiwus. Ydi o dal yn cael ei ystyried fel caethiwed.. os dy fod di’n teimlo gwellhad ohono? Ai math o ddibyniaeth – fel alcohol neu gyffuriau – yw hyn? Ydi o’n bosib i fod yn gaeth i ti dy hun? A pam, blynyddoedd ar ôl ‘gwella’, ydw i dal yn gaeth? Caethiwed. Un gair, miliwn o wahanol ystyron.

I’r cyhoedd cyffredin, mae bod gyda salwch sydd methu cael ei weld yn ffisegol yn anodd i’w ddeall. Os yw person gyda coes wedi’i thorri, gydag annwyd neu firws, gyda niwed neu salwch adnabyddus.. hawdd yw deall. Hawdd yw derbyn y dioddef, gan bod y person cyffredin yn deall y salwch yn barod. Ond beth os bod genti salwch sydd ddim mor adnabyddus? Beth os nad oes modd gweld dy salwch di? Sut mae disgrifio’r profiad i rywun sydd heb deimlo’r dioddef? Mae bron yn amhosib. Ond drwy godi ymwybyddiaeth ac helpu eraill i ddeall drwy drosglwyddo gwybodaeth mae posib cyrraedd pwynt ble bydd salwch anweladwy’n cael ei drin fel unrhyw salwch gweladwy. Parhau i ddarllen

Rhannu

Iselder ôl-brifysgol – Megan Elias

RHYBUDD: Mae’r blog hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio a all eich atgoffa o deimladau anodd. Cysylltwch gyda’ch meddyg teulu i gael cymorth, ac os oes angen cymorth brys arnoch, cysylltwch â’r Samariaid (llinell Gymraeg: 0808 164 0123, 7pm-11pm; llinell Saesneg: 116 123, 24/7), neu’r gwasanaethau brys ar 999.

Megan Elias

Nes i ddechrau sgwennu’r blog ‘ma wyth mis yn ôl. Wyth blydi mis mae ‘di cymryd i gal y hyder i’w orffen a chyhoeddi. Mae llwyth wedi newid ers hynny, felly mi af i o’r dechrau. Dyma ddechrau fy llwybr iselder.

Dair blynedd yn ôl pan oni yn fy ail flwyddyn yn y brifysgol, dechreuais i deimlo’n rhwystredig a methu neud fy ngwaith coleg. Dywedais i wrth fy ffrind, a nath hi ddeud bod pawb yn teimlo’r un peth, a nad ydi’n rhywbeth i boeni amdano. Ond oni’n gwbod nad oedd pethau’n iawn.

Es i at gynghorydd a chael sesiwn drop in un awr gyda nhw. Dywedais i fy mhroblemau wrthyn nhw, ac ar ôl 55 munud, fe wnaeth hi ailadrodd fy mhroblemau, yn union fel oeddwn i wedi dweud wrthi, a dweud y dylwn i ddod yn ôl am fwy o sesiynau – ond byddai’n gorfod disgwyl misoedd am apwyntiad. Dim diolch, meddyliais, mi af dros hyn i gyd fy hun, ac mi eshi.

Dyna oedd diwedd y problemau am flwyddyn arall. Doeddwn i erioed wedi bod mor hapus yn fy mywyd. Fy ail flwyddyn yn y brifysgol ydi blwyddyn orau fy mywyd – ddim byd i boeni amdano, mynd allan bob nos, gneud camgymeriadau a ddim difaru ddim eiliad, ac mi oeddwn i’n dal i lwyddo yn fy ngradd. Cyn imi sylweddoli, roedd y drydedd flwyddyn rownd y gornel.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Y cydberthynas rhwng salwch meddwl a chorfforol – fy mrwydr â Ménière’s Disease

Dwi’n cofio’r pwl o banig cyntaf i mi ei gael erioed yn iawn. Roeddwn i’n 16 oed ac yn gweithio mewn caffi ar y pryd. Y prif symptom y sylweddolais oedd fy nghalon yn carlamu’n andros o gyflym, ond y peth nesaf oedd yr ymdeimlad erchyll bod y ddaear wedi troi ar ei echel ryw 90 gradd o fewn eiliad o dan fy nhraed. Roedd y ddau beth yn bwydo’i gilydd, a’r panig yn codi ynof wrth i’r penysgafndod barhau. Yn y diwedd bu’n rhaid i mi fynd adref o’r gwaith.

Dwi’n cofio teimlo’n ansefydlog ar fy nhraed am ddyddiau wedi hynny, ac roeddwn yn gweddïo na fyddwn i byth yn gorfod profi rhywbeth tebyg eto. Digwyddodd sawl tro yn y misoedd canlynol, er nad oeddent mor wael â’r tro cynta’, ac yn y pen draw es i at y meddyg. Y cwestiynau cyntaf y gofynnwyd i mi oedd a oeddwn i o dan unrhyw straen, oeddwn i’n bwyta’n normal ayb. O fewn 5 munud, cefais ddiagnosis o orbryder. Teimlais yn hollol ddigalon fod yr holl symptomau corfforol hyn yn golygu bod rhywbeth yn bod yn fy mhen. Roeddwn i’n teimlo braidd yn hurt yn dod oddi yna a dweud y gwir, fel petai mod i wedi dyfeisio’r holl beth. Chefais ddim cynnig o unrhyw gymorth o gwbl, jyst cyfarwyddiadau i ‘beidio â phoeni gymaint’ ac i ‘drio ymlacio’.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Torri tabŵ galar. – Caryl Bryn

Caryl Bryn

Yn anffodus, mae ambell noson dw i wedi bod allan yn mwynhau fy hun ac yna’n crio wedi i ddiod alcoholig droi arnaf i – ac yna’r euogrwydd, y cywilydd, ynghyd â’r hyn dw i’n ei feddwl sy’n bwysau cymdeithasol i fod â gwên o glust i glust bob tro y mae rhywun mewn tafarn.

Ambell dro, hefyd, mae tueddiad i rai unigolion (nid fy mod yn rhoi bai arnynt gan fod pawb â’u ffordd eu hunain o ddelio â phethau) yn ceisio fy nghysuro wrth ddweud rhywbeth tebyg i “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo a bryna’i ddrinc i chdi”. Does dim ond calon dda y tu ôl i hyn ond mae’n gallu bod yn andros o beth anodd i orfod teimlo’r ffasiwn gywilydd o fod wedi colli deigryn tra bod pawb arall yn morio canu.

Y rheswm ‘mod i’n nodi hyn ydi am fod “ty’d ‘wan… anghofia amdana fo” yn digwydd yn aml – ddim mor aml â ffrindiau’n cysuro ac yn cefnogi ta waeth beth yr amgylchiadau – ond mae’r rheiny sydd yn cysuro a chefnogi yn dueddol o fod yn mynd drwy’r un math o beth, boed yn orbryder, iselder, galar, tor-calon neu unrhywbeth ‘dan haul ac mae’n gwneud i rywun sylweddoli fod angen lleisio teimladau a rhannu profiadau… felly dyma leisio fy nheimladau a phrofiadau i a fydd, gobeithio, yn gymorth lleiaf un i unrhyw un sy’n teimlo’r un fath.

***

Roeddwn i wedi troi’n un ar hugain, wedi graddio, bod ar wyliau a symud i dŷ sdiwdant bach clud ym Mangor i ddechra’ astudio fy MA. O’n i’n codi’n hwyr yn y bore a darllen un o lyfra’ Mihangel Morgan wrth boeni am be’ o’n i am wisgo i fynd i noson Open Mic yn y Glôb a phoeni am y byd a’i broblemau – dyna o’dd fy rwtîn arferol i. Dyna o’dd fy myd bach digon bodlon i; byd o lyfrau, ffrindia a gwin coch. Parhau i ddarllen

Rhannu

Be ‘di galar? – Sharon Marie Jones

Ar Fawrth y 25ain, 2016, daeth galar i fy mywyd yn sgrech anifeilaidd wrth i’r blismones ddweud fod fy machgen bach 5 oed, Ned, wedi cael ei ladd mewn damwain car.

 

Be ‘di galar?

Poen. Poen anioddefol sy’n fy ngwasgu’n dynn ac yn atal anadl. Poen sy’n gwneud i mi ddal fy hun mewn pelen tynn ar dy wely. Poen sy’n gosb am dy garu â’m holl calon.

 

Be ‘di galar?

Dagrau. Dagrau sy’n llifo’n ddyddiol ac yn gadael eu holion hallt ar fy mochau. Dagrau sy’n llifo’n dawel ac yn ddirybudd.

 

Be ‘di galar?

Tywyllwch. Tywyllwch anhydraidd. Tywyllwch y nos yn fy mygu tra’n gorwedd a’m llygaid yn led-agored.

  Parhau i ddarllen

Rhannu

Mae’n amser i chi wybod y gwir – Luned Gwawr Evans

Nid yw teitl y blog hwn yn ymgais i chi feddwl fy mod i wedi bod yn cadw rhyw gyfrinach fawr dan gaead bedd na dim byd felly.. Ond gobeithio mi fydd e’n ddigon i roi’r wefr i chi gario ‘mlaen i ddarllen am gwpwl o funudau.

Mae’r blog yma am iechyd meddwl.. Weithiau, dyw bywyd tu ôl i’r wyneb ddim yn hunky dory.

Cwestiwn neu ddau..

Pa mor dda ydych chi’n fy nabod i? Neu hyd yn oed, pa mor dda ydych chi’n adnabod eich hunan?

Hoffwn i rannu gyda chi rhywbeth nad oes ond rhai pobl yn gwybod amdana i, sef fy mod i’n dioddef o Orbryder Cymdeithasol neu Social Anxiety.

*Noder- Nid cais am dosturi neu sylw personol yw’r darn hwn..

Y diffiniad

Diffiniad yr NHS am Orbryder Cymdeithasol ydy:

Mae pryder cymdeithasol neu ffobia cymdeithasol yn anhwylder hir dymor, sy’n peri i’r person sy’n dioddef i deimlo ofn llethol o sefyllfaoedd cymdeithasol.

Rwyf yn rhoi’r argraff fy mod i’n unigolyn sy’n ddigon hapus mewn sefyllfa gymdeithasol, ond mewn gwirionedd, rwyf wedi dringo mynyddoedd enfawr i gyrraedd y pwynt ydw i heddiw. Parhau i ddarllen

Rhannu

Dychwelyd i’r gwaith.

Dychwelyd i’r gwaith yn dilyn salwch meddwl

Dwy flynedd yn ôl, yn syth ar ôl i mi raddio o’r brifysgol, dechreuais fy swydd ‘go iawn’ gyntaf. Doedd dim byd o’i le ar yr arwyneb, ac am yr wythnosau cyntaf, roeddwn i’n hapus fy myd yn mynd i’r gwaith ar y daith fer o’m fflat newydd i ganol y ddinas. Dwi wedi byw â phyliau o banig ers wyth mlynedd bellach, ond doedden nhw erioed wedi effeithio ar fy mywyd gwaith tan ychydig o wythnosau ar ôl i mi ddechrau’r swydd honno. Cefais bwl o banig gwael iawn ar y trên ar y ffordd i’r gwaith, ac fe achosodd hyn i mi fod yn hwyr, a minnau’n teimlo mwy a mwy o orbryder y mwyaf hwyr yr oeddwn i. Dwi’n cofio dod oddi ar y trên, o hyd mewn cyflwr bregus, a jyst yn rhewi yn y fan a’r lle, yn ansicr a oeddwn i hyd yn oed yn mynd i allu cyrraedd y swyddfa. Roedd yn gylch cythreulig o banig a phoeni ‘mod i’n mynd i ymddangos yn annibynadwy i’m cyflogwyr newydd. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, dechreuodd y trên fod yn rywbeth oeddwn i’n ofni i raddau, er mai dim ond pedair munud oedd y daith. Roedd ‘na rhywbeth yn fy mhen i’n dweud trên = panig. A doedd dim byd oeddwn i’n rhoi cynnig arni’n gweithio. Ymarferion anadlu, dulliau tynnu sylw fel gwrando ar bodcast neu gerddoriaeth, dulliau daearu. Doedd dim byd hyd yn oed yn crafu’r wyneb. Parhau i ddarllen

Rhannu

Cost Anxiety

Yndi mae o’n swnio yn rhyfadd, a fwya’ dwi’n sbio arna fo ‘dio ddim yn neud sens. Cost Anxiety. Be dwi’n feddwl ydi mewn ffordd ydi be ma anxiety yn gostio i fi. Neu ella fwy syml, be dwi ‘di golli oherwydd yr anxiety neu be mae o wedi ei ddwyn gena i.

I fi yn bersonnol ma’r anxiety wedi costio lot, neu wedi effeithio ar fy mywyd i mwy na neshi ella erioed sylwi o’r blaen. Pan dwi meddwl nol dros y blynyddoedd hydnoed i pan oni yn ysgol gynradd odd yr anxiety ma yna, yn gysgod. Mae o ‘di bod yna erioed, ond nes i fi gyrraedd “breaking point” a pobl arall yn dechra’ sylwi, nath o erioed fod yn fwy na dim ond yr “ofn” ma, o bob dim. Dim jesd ofn fel ofn fod hi am fwrw glaw pan tidi fake tanio dy goesa’n barod i wisgo sgert newydd, neu ofn fod dy hoff dîm am golli mewn gêm. Ofn sy’n cymryd drosodd pob rhan o dy gorff. Mae o’n cymryd drosodd dy gorff, y ffordd ti’n anadlu, BOB DIM.

Parhau i ddarllen blog Peth meddal di’r meddwl


Rhannu

Iselder – no way ydw i’n gadael iddo ennill!

Helo!

Enw fi di Catrin Edwards a dwi ar fin cychwyn fy mlwyddyn ola’ yn neud y gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yn wreiddiol o Ynys Môn. Dwi erioed ‘di sgwenu rywbeth fel hyn, ond wedi bod isio rhannu fy ‘stori’ ers ‘chydig o wythnosau bellach. Dwi am rannu efo chi be oedd blwyddyn gwaetha’ mywyd i.  Dwi’n gobeithio ella fydd rhywun yn ‘comforted’ gan y blog ‘ma gan wybod bod nhw ddim ar ben ei hun, fel dwi wedi bod tra’n darllen ambell i flog arall dros y misoedd diwethaf.

Digwyddiadau Newidiodd fy Mywyd

Oce, here goes. Nes i ddechrau teimlo’n reit isel dechrau’r ail flwyddyn yn Gaerdydd. Oedd pwysau’r gwaith yr hyn oni’n ddisgwyl, ond be oedd yn rili stressio fi allan oedd y pwyslais ar neud ceisiadau am bethau fel vacation schemes (sef profiad gwaith) a training contracts, sydd bron yn amhosib i’w cael. Oni’n teimlo fel bod pawb arall yn gwybod be i neud ac yn llwyddo i neud hynny a gneud yr holl waith ar gyfer y tiwtorialau a seminarau hefyd. Doni’m digon da i neud y gyfraith, heb sôn am llwyddo yn y broses ceisiadau. Nath hyn arwain ata i’n treulio oriau yn y llyfrgell, o 9 yn y bore i bron i 10 yn y nos, felly doni’m yn bwyta’n iawn na’n cysgu llawer. Parhau i ddarllen

Rhannu

‘Cyfnerthiadau Positif’ – Bugail neu fradwr?

Os rhoddwch y term ‘positive affirmations’ ym mheiriant Google, cewch ganlyniad o tua 75,300,000 awgrym. Mae bron pawb yn derbyn pwysigrwydd ‘PMA’ (Positive Mental Attitude) yn ddiamod. Mae dyfyniadau a chyfnerthiadau (affirmations) i’n hysbrydoli dros ein ffrydiau amser ar draws ffotograffau trawiadol o fynyddoedd, dolffiniaid neu hâd dant y llew yn chwythu yn y gwynt. Maent yn datŵs ac ar grysau-t ac mewn caneuon a dywediadau. Y cwestiwn ydi- oes tystiolaeth bod y pethau hyn yn ein helpu ni?

Yn y darn hwn mi fyddai’n esbonio sut roeddwn i’n defnyddio cyfnerthiadau yn y ffordd anghywir, yr effaith a gafodd arna i, gwaith ymchwil am y pwnc ac argymhellion ar ffyrdd mwy effeithiol o’u defnyddio. Parhau i ddarllen

Rhannu