Mwy o weinidogion yn mynychu sesiynau cwnsela : BBC Cymru Fyw

Mae hi wedi dod i’r amlwg bod mwy a mwy o weinidogion yr efengyl a chlerigwyr yn mynd i sesiynau cwnsela, a hynny’n aml oherwydd natur eu gwaith.

Mae tua 70 yn mynychu sesiynau Cynnal sydd dan ofal yr elusen Stafell Fyw. Mae’r gwasanaeth ar gael mewn pedair ardal ar hyn o bryd ond oherwydd y galw, y bwriad ydy ehangu i ardal Aberystwyth hefyd cyn hir.

Dyma Guto Llywelyn yn rhannu ei brofiad.

Erthygl a fideo : BBC Cymru Fyw


Rhannu

Hunan-ofal : Sionedigaeth

Sioned Mills yn siarad gyda Bryn Salisbury am les, hunan-ofal, straen yn y gwaith a defnyddio improv fel therapi, ar ei phodlediad, ‘Sionedigaeth’.


Rhannu

Rhys Dafis – Tashwedd : Hansh

Yn ystod mis Tachwedd, bu dynion yn tyfu mwstash i godi ymwybyddiaeth o gancr y prostad, cancr y ceilliau, problemau iechyd meddwl ac atal hunanladdiadau ymysg dynion. Dyma stori Rhys Dafis.


Rhannu

Rhyddhau’r Cranc – Malan Wilkinson : Llyfr yr Wythnos BBC Radio Cymru

Addasiad o lyfr Malan Wilkinson, Rhyddhau’r Cranc, oedd llyfr yr wythnos rhaglen Bore Cothi ar Radio Cymru yn ddiweddar. Mae’r llyfr yn cynnwys atgofion Malan sydd wedi byw â chyflyrau iechyd meddwl ers blynyddoedd.

Cliciwch ar y llun isod i wrando ar Malan yn darllen darnau o’i llyfr.

Parhau i ddarllen

Rhannu