Deall y gwahaniaeth rhwng nerfusrwydd a gorbryder

(Daw’r wybodaeth isod o wefan blurtitout.org)

Mae’n gallu bod yn anodd deall weithiau ai nerfusrwydd neu gorbryder yr ydyn ni’n ei brofi.

Teimlad y bydd pawb yn ei brofi o bryd i’w gilydd yw nerfusrwydd. Gall gorbryder fod yn gyflwr meddygol y gellir ei ddiagnosio. Yn aml, byddwn yn troi at Google mewn ymgais i ddeall y broblem, ond gall hynny ein drysu’n llwyr oherwydd yr holl wybodaeth sydd ar gael ac oherwydd y byddwn ni’n profi nerfusrwydd yn aml wrth brofi gorbryder.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ymdopi â dibyniaeth

(Daw’r wybodaeth isod o blurtitout.org)

Pan fyddwn ni’n meddwl am ddibyniaeth neu gaethiwed, rydyn ni’n tueddu i feddwl am ddibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol, ond gall dibyniaeth ymwneud â sawl peth gwahanol: cyffuriau, alcohol, bwyd, ymarfer corff, pornograffi, gemau, cyfryngau cymdeithasol, tatŵs, hunan-niweidio, gamblo, siopa – unrhyw beth rydyn ni’n teimlo nad oes gennym reolaeth arno a rhywbeth sy’n effeithio ar ein hwyliau ac ar ein hymddygiad.

Gall dibyniaeth fod yn hynod o anodd ymdopi ag ef, yn enwedig pan fydd y pethau rydyn ni’n gaeth iddynt yn aml ar gael yn rhwydd. Parhau i ddarllen

Rhannu

Y Gwahaniaeth Rhwng Tristwch ac Iselder

(Daw’r wybodaeth isod o happiful.com)

Mae tristwch yn emosiwn sy’n gyffredin i bawb ac mae’n iach i ni gydnabod a pharchu ein hwyliau isel pan fo’r adegau hynny yn ein taro.

Deall pryd yr ydym angen cymorth yw’r rhan bwysig. Os mai tristwch yw eich emosiwn sylfaenol ac os ydych yn gorfod ymdrechu i fwynhau gweithgareddau o ddydd i ddydd, efallai eich bod yn dioddef o iselder.


Gwybod y Gwahaniaeth

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cymharol gyffredin. Yn wahanol i dristwch, nid yw’n emosiwn byrhoedlog. Gall wella neu waethygu ar adegau, ond yn aml bydd arnoch angen cymorth gan weithiwr proffesiynol.

Er bod amgylchiadau a phrofiadau pawb yn unigryw, mae’r canllaw cryno hwn yn egluro’r gwahaniaeth:

Parhau i ddarllen

Rhannu

Digwyddiadau yn Eisteddfod yr Urdd 2019

 

Dewch draw i wrando ar sgwrs am y neis a’r anodd mewn bywyd efo Osian Huw Williams

Dydd Mercher, 29 Mai, 2yp, Tipi Syr IfanC yn Eisteddfod yr Urdd

 

 

 


Ymunwch â ni i lansio ein pecyn cymorth Cymraeg i athrawon Cyfnod Allweddol 3 – ‘Mae gan bawb iechyd meddwl’

  • Sophie Ann (meddwl.org)
  • Aled Roberts (Comisiynydd y Gymraeg)
  • Dilwyn Roberts-Young (UCAC)
  • Ffion Griffith (Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Islwyn ac aelod o Bwyllgor Iechyd Meddwl y Senedd Ieuenctid)
  • Ethan Williams (Llywydd Urdd Gobaith Cymru a Chadeirydd Bwrdd Syr Ifanc)

Dydd Iau, 30 Mai, 2yp, Tipi Syr IfanC, Eisteddfod yr Urdd

Argraffwyd y pecyn diolch i grant gan Ras yr Iaith.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gofyn i oedolyn am gymorth

Daw’r wybodaeth isod o wefan Childline.

Os oes gen ti broblem na alli di ei datrys ar ben dy hun, mae’n syniad da i ofyn i oedolyn ‘rwyt ti’n ymddiried ynddynt am help. Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth i dy helpu ddod o hyd i’r person cywir i ofyn, ac yn awgrymu ffyrdd i ddechrau sgwrs anodd.

 

Sut gall siarad gydag oedolyn helpu?

Weithiau, gall rhywun arall dy helpu i weld dy broblem mewn ffordd wahanol. Gallen nhw roi syniadau newydd i ti am sut i ymdopi gyda phethau. Efallai eu bod nhw wedi bod drwy rywbeth tebyg eu hunain. Efallai eu bod nhw’n gwybod yn union beth i wneud neu yn gwybod am rywun all dy helpu.

Mae rhoi pethau i mewn i eiriau yn aml yn helpu. Weithiau, gall rhannu beth sydd ar dy feddwl fod yn llesol. Gallai siarad â rhywun wneud i ti deimlo nad oes rhaid i ti ddelio gyda phethau ar ben dy hun.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Effaith poen corfforol hirdymor ar ein hiechyd meddwl

(Daw’r wybodaeth isod o blurtitout.org)

Gall poen corfforol hirdymor effeithio ar ein hiechyd meddwl yn sylweddol. Gall fod yn rhwystredig, nid yn unig am y gall effeithio’n negyddol ar ein hwyliau, ond gall ein rhwystro rhag gwneud rhai pethau rydyn ni’n gwybod fyddai’n llesol i’n hwyliau. 

Gall ein perthynas â phobl eraill fod yn anodd 

Gall poen parhaus effeithio’n sylweddol ar ein perthynas gydag eraill. Gall ddwyn amser amhrisiadwy wrth ein rhwystro rhag gweld teulu a ffrindiau. Weithiau gallwn deimlo fel cymaint o fwrn ar y rhai o’n cwmpas y gallwn eu gwthio i ffwrdd. Dydyn ni ddim am i’n poen ni eu cyfyngu. Gall hynny wneud i ni deimlo’n ynysig.

Gall ein poen ein hatal rhag cyfarfod pobl ac atal neu effeithio ar unrhyw berthynas ramantaidd drwy’n hatal rhag gwneud pob mathau o bethau yr hoffem. Gall partner ddod yn ofalydd. Gall poen fod yn drydydd parti mewn perthynas, a gallwn ni ynysu’n hunain a chau partner allan neu orffen perthynas am nad ydyn ni am i’n poen ni atal ein partner rhag gwneud beth maen nhw ei eisiau.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Caffi Angau Caernarfon

Dyma Bet Huws, sylfaenydd a hwylusydd y Caffi Angau yng Nghaernarfon, yn rhoi ychydig o gefnir y caffi…

Daeth y syniad yn wreiddiol o’r Swistir gyda cafes mortel gŵr o’r enw Bernard Crettaz: ei fwriad oedd i gael pobl i siarad am farwolaeth wrth fwynhau bwyd a diod.

Datblygwyd y model gan Jon Underwood gan gynnal y Death Café cyntaf yn Llundain yn 2011. Bellach mae’n fudiad byd-eang ac ers dros flwyddyn bellach, mae Caffi Angau cyfrwng Cymraeg yn cael ei gynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon.

Bwriad y Caffi Angau yw creu gofod cyfeillgar i drafod marwolaeth dros banad a bisged: i rannu syniadau, profiadau, pryderon a gobeithion. Nid yw’n cynnig cwnsela, atebion nac agenda penodol.

‘Does dim strwythur ffurfiol ar gyfer y noson, dim ond gwahoddiad i sgwrsio o fewn grŵp bychan am unrhyw fater yn ymwneud â marwolaeth, galar, colled, angladdau, cofebion, a diwedd oes. ‘Dan ni yno i glywed straeon y naill a’r llall, a rhannu ein hofnau a’n dymuniadau.

Dau beth sicr i fywyd pob un ohonom yw’r ffaith ein bod yn cael ein geni a’n bod ni’n marw. Tra ddaw genedigaeth â pharatoadau a sgyrsiau lu yn ei sgil, prin yw’r gydnabyddiaeth o’r broses o farw yn ein cymdeithas bellach: gellir deud ei fod yn tabŵ.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cris Dafis yn trafod galar mewn dilyniant newydd o gerddi : Golwg360

Y brofedigaeth o golli cymar bron i bymtheg mlynedd yn ôl yw sail y dilyniant o gerddi gan Cris Dafis, sydd ar fin cael eu cyhoeddi.

Yn 2005, bu farw Alex yn sydyn o ganlyniad i ddamwain yn y môr tra roedd y ddau ohonynt ar wyliau ar Ynys Bali.

Mae Mudo, a gyhoeddir ar ddiwedd y mis gan Gyhoeddiadau’r Stamp, yn cynnwys 14 o gerddi yn ymateb i’r golled honno.

Thema amlycaf y cerddi yw adar yn mudo, ac mae gan y frân le canolog yn hynny, meddai’r bardd.

“Mae’r frân yn y cerddi yn rhyw fath o symbol o alar,” meddai. “Ro’n i’n ei weld e’n help i bersonoli galar, rhywsut.

Mae galar yn rhywbeth sy’n amgylchynu bywyd rhywun, ac mae’n mynd yn rhyw bŵer nebulous…

Roeddwn i’n ei weld e’n help i feddwl am alar fel rhywbeth diriaethol y gallwch chi gael gwared ohono fe.

Pan y’ch chi mewn cyfnod o alar, mae’n hawdd iawn i feddwl ‘dyma beth fydd fy mywyd i am byth’, math o beth, ond… yn y pen draw, mae brain yn marw, felly mae gobaith y bydd galar yn gallu diflannu hefyd.”

Darllen rhagor : Golwg360


Rhannu

Gweithgareddau i helpu plant sy’n galaru

(Daw’r wybodaeth isod o happiful.com)

Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i helpu’ch plentyn i alaru drwy weithio drwy eu hemosiynau, deall beth sydd wedi digwydd ac ymdopi â’u colled.

Er na allwn gael gwared ar y tristwch, fe allwn ni gefnogi plant i fynegi eu hemosiynau.

Ein greddf yw amddiffyn ein plant y gorau y gallwn, ond pan ddaw’n fater o brofedigaeth efallai nad yw eu cysgodi yn bosibl. Bydd 41,000 o blant yn dioddef profedigaeth bob blwyddyn yn y DU, ac yn syfrdanol, bydd 92% o bobl ifanc yn profi colled sylweddol erbyn iddynt gyrraedd 16 oed.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Mam o Ynys Môn yn siarad am ei phrofiad o broblemau iechyd meddwl ôl-enedigol : Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr

Mae mam o Ynys Môn a dechreuodd ddioddef o byliau o banig yn dilyn genedigaeth drawmatig ei phlentyn cyntaf wedi siarad am ei phrofiad i godi ymwybyddiaeth o broblemau iechyd meddwl a all effeithio ar famau newydd.

I nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Mamau, mae Michelle Wyn Jones wedi ymuno â gweithwyr proffesiynol iechyd Gogledd Cymru i alw ar famau newydd a darpar famau i fod yn agored am eu hanawsterau.

Dechreuodd Michelle gael ôl fflachiadau a phyliau o banig yn gyntaf wedi genedigaeth drawmatig ei mab cyntaf Caleb ym mis Chwefror 2017.

“Dechreuais gael ôl fflachiadau’n syth, yn enwedig yn ystod y nos lle’r oeddwn yn gweld yr enedigaeth dro ar ôl tro ac yn fanwl fel gwylio ffilm.

Roedd popeth mor fyw – wynebau, lleisiau, offer, goleuo, amgylchiadau, a byddai’n sbarduno teimladau o banig ynof.

Roeddwn yn cael trafferth siarad am yr enedigaeth, ac roeddwn yn osgoi sgyrsiau pobl eraill am eni plant.”

Mae problemau iechyd meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at 20% o ferched yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn ar ôl geni. Maent yn cynnwys ystod o gyflyrau sydd wedi’u cysylltu’n benodol â beichiogrwydd neu eni plant, fel iselder amenedigol, gorbryder amenedigol, seicosis ôl-eni ac anhwylder straen wedi trawma ôl-eni.

Darllen rhagor : Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr


Rhannu