Gallai treulio amser gydag anifeiliaid helpu

Mae llawer ohonom yn caru anifeiliaid, a gall ein hanifeiliaid anwes wir ein helpu i deimlo’n well am ein hunain, ac am fywyd. Gall eu presenoldeb godi ein hwyliau a bod yn gysur i ni.

Sut maen nhw’n helpu?

Mae nifer y ffyrdd y gall anifeiliaid ein helpu. Gallant wella ein hwyliau, ein tawelu, a bod yn ffrind gorau i ni.

Daearu (grounding)

Weithiau gallwn deimlo ‘allan ohoni’, neu wedi ein datgysylltu oddi wrth y byd. Gall rhoi mwythau, neu gysylltu ag anifail wir helpu i’n daearu a’n hail-gysylltu ni â’r byd o’n cwmpas.

Lleihau teimladau o unigrwydd

Gall salwch meddwl ein hynysu ni. Gall ei wneud yn anodd i ni i weld pobl ac i wneud pethau. Weithiau, gall bod yng nghwmni ein cyfaill blewog leihau pa mor unig y teimlwn. Yn ychwanegol, gall ein hanifeiliaid ein cyflwyno i bobl eraill sydd â rhywbeth yn gyffredin â ni – bydd cŵn yn aml yn gwneud ffrindiau â chŵn eraill, sy’n medru ein cyflwyno ni i’w perchnogion. Gall anifeiliaid mwy, fel ceffylau, ein cyflwyno i bobl eraill yn y stablau. Mae cyfarfod â’r bobl hyn yn wych gan fod gennym bwnc trafod hawdd – ein hanifeiliaid.

Parhau i ddarllen

Rhannu

10 Celwydd y Bydd Iselder yn ei Ddweud Wrthym

Bwli yw iselder. Mae’n dweud celwydd wrthym ni o hyd ac o hyd. Mae’n dweud pethau ofnadwy wrthym.

Gallwn anwybyddu’i eiriau am dipyn bach, ond pan fydd iselder yn ailadrodd y celwydd drosodd a throsodd, byddwn ni’n dechrau’i gredu. Ymhen dim o dro, gall deimlo fel pe bai ein pen yn llawn o gelwyddau.

 

1. Mae iselder yn ceisio ein darbwyllo nad ydym ni’n sâl mewn gwirionedd

Bydd iselder yn ceisio ein darbwyllo’n aml ein bod ni ddim yn sâl. Mae’n dweud wrthym nad oes iselder arnom ni, mai dim ond diog ydyn ni. Ein bod ni’n gorymateb ac yn gwneud ffws. Ein bod ni’n gwneud hyn i ennill sylw. Ac am nad ydym ni’n sâl, taw ein bai ni yw’r ffordd rydym ni’n teimlo. Am nad ydyn ni’n sâl, dydyn ni ddim yn haeddu cael help na chymorth.

Dyma gelwydd peryglus. Salwch yw iselder, ac nid ein bai ni. Dydyn ni ddim wedi dyfeisio hwn ar gyfer rhesymau hunanol. Dydyn ni ddim yn dyfeisio’r peth. Rydym ni’n sâl ac mae angen help arnom ni, ac mae angen cefnogaeth arnom ni i wella. Efallai y bydd angen moddion arnom ni i’n helpu i ddygymod. Efallai y bydd angen i ni gael amser o’r gwaith nes i ni ddod i le ble gallwn ni weithio eto. Mae salwch arnom ni.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Ymwybyddiaeth Ofalgar

(Gwybodaeth o’r Sefydliad Iechyd Meddwl)

Dull o ganolbwyntio ein sylw ar y funud honno, sy’n defnyddio technegau fel myfyrdod, anadlu ac ioga yw ymwybyddiaeth ofalgar (Mindfulness). Mae’n ein helpu i ddod yn fwy ymwybodol o’n meddyliau a’n teimladau er mwyn ein rhoi mewn sefyllfa gwell i’w rheoli, yn hytrach na chael ein llethu ganddynt.

Sut gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu?

Gellir defnyddio ymwybyddiaeth ofalgar fel modd i reoli ein lles a’n iechyd meddwl. Er bod gwaith ymchwil ym maes ymwybyddiaeth ofalgar yn parhau, mae tystiolaeth wedi awgrymu ei fod yn llesol i iechyd a lles: dengys y canlyniadau effeithiau cadarnhaol ar sawl agwedd ar iechyd, gan gynnwys y meddwl, yr ymennydd, y corff, ymddygiad, a pherthnasoedd pobl ag eraill.

Dangoswyd hefyd fod ymwybyddiaeth ofalgar yn helpu i atal nifer o gyflyrau, gan gynnwys straen, gorbryder, iselder, ymddygiadau caethiwus tebyg i gam-drin alcohol neu sylweddau, gamblo, problemau corfforol fel gorbwysedd, clefyd y galon a phoen cronig.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cyfreithiau a Strategaethau ynghylch Iechyd Meddwl

Mae’r erthygl hon yn rhoi crynodeb o’r deddfau, y strategaethau a’r canllawiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl yng Nghymru.

Y prif gyfreithiau sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yw:

  • Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010
  • Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a’r Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid
  • Deddf Iechyd Meddwl 1983 (a gafodd ei diwygio yn 2007)

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ddarnau eraill o ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar wasanaethau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Arian ac Iechyd Meddwl

Mae arian ac iechyd meddwl yn aml yn gysylltiedig. Gall iechyd meddwl gwael wneud rheoli arian yn anoddach, ac mae poeni am arian yn gallu gwneud eich iechyd meddwl yn waeth.

Mae’r erthygl hon yn cynnwys gwybodaeth am y berthynas rhwng problemau ariannol ac iechyd meddwl, ynghyd ag awgrymiadau am sut i’w wynebu.

Dyma rai enghreifftiau o sut all eich iechyd meddwl a phroblemau ariannol effeithio ar ei gilydd:

  • Os nad ydych yn gallu gweithio neu’n gorfod cymryd amser i ffwrdd o’r gwaith, efallai bydd eich incwm yn cael ei effeithio.
  • Os ydych yn teimlo’n ‘uchel’ yn ystod cyfnod o mania neu hypomania, gall hyn arwain at benderfyniadau brys am arian sy’n gwneud synnwyr ar y pryd ond sy’n eich gadael mewn dyled.
  • Efallai byddwch yn gwario arian i wneud eich hun deimlo’n well. Gall wario arian roi teimlad ‘uchel’ dros dro i chi.
  • Efallai eich bod yn teimlo’n bryderus am wneud pethau fel siarad ar y ffôn, mynd i’r banc neu agor amlenni.
  • Efallai byddwch yn teimlo dyletswydd i wneud swydd nad ydych yn mwynhau er mwyn talu’r biliau neu’r ddyled.
  • Efallai byddwch yn colli’r cymhelliant i gadw rheolaeth o’ch arian.
  • Efallai bydd gwario arian neu bod mewn dyled yn gwneud i chi deimlo’n bryderus iawn – hyd yn oed os oes digon o arian gennych.
  • Gall ddefnyddio’r system buddion neu fod mewn dyled wneud i chi deimlo straen neu bryder am y dyfodol.
  • Efallai nad oes digon o arian gennych am bethau angenrheidiol neu bethau sy’n sicrhau eich llesiant fel cartref, bwyd, a gwres.
  • Gall problemau ariannol effeithio ar berthnasau a’ch bywyd cymdeithasol, sy’n gallu cael effaith uniongyrchol ar eich iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dynes ifanc yn disgrifio’i brwydr ag anhwylder bwyta : WalesOnline

Llun: Izzy Harris

Mae Izzy Harris yn 20 mlwydd oed ac yn dod o Abertawe. Dyma ei disgrifiad dewr hi o’i phrofiad ag anorecsia a bwlimia.

Ers i mi gofio, rwyf wedi bod yn hunanymwybodol am fy nghorff, felly, pan ddechreuais gymharu fy mhwysau a fy maint â’r merched eraill yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn hoffi’r hyn roeddwn i’n ei weld yn y drych. Roeddwn i ychydig fodfeddi yn dalach na’r cyffredin, felly roedd fy nghoesau ychydig yn fwy, fy stumog ychydig yn fwy crwn, a fy ngwasg ychydig yn fwy llydan na phawb arall.

Pan oeddwn i’n 15 oed dechreuais fynd ar ddeiet. Roeddwn i’n gwneud llawer o ymarfer corff ac yn cyfri pob calori gydag ap ar fy ffôn. Aeth fy mhrydau bwyd yn llai a dechreuais hepgor rhai pethau o’m deiet.

Roedd y glorian yn dweud bod fy mhwysau yn lleihau, ond ni allwn weld y gwahaniaeth yn y drych o ddydd i ddydd, felly wnes i barhau.

Fe wnes i roi’r gorau i fwyta brecwast a chinio. Roeddwn i’n gwneud ymarfer corff am oriau bob dydd. Gwnes fy hun yn sâl er mwyn lleihau’r nifer o galorïau roeddwn i’n eu bwyta.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Magu hyder a hunan-barch

Ydych chi o hyd yn meddwl y gwaethaf o’ch hun? Neu ydych chi’n teimlo nad oes hyder gyda chi? ‘Dydych chi ddim ar ben eich hun – mae llawer o bobl yn teimlo fel hyn o dro i dro.

Hunan-barch yw sut ydyn ni’n meddwl am ein hun. Mae bod yn hyderus yn golygu bod yn gyfforddus gyda sut ydyn n’n edrych ac yn teimlo. Mae’n golygu teimlo’n dda am ein hun, ein meddyliau, a’r hyn y gallwn ei wneud. Gall magu hyder gymryd amser, ond gall gymryd camau bychain arwain at newid mawr yn y pendraw.

Awgrymiadau ar sut i fagu hyder:

Edrychwch ar eich hun yn wahanol

Waeth sut ydych chi’n teimlo, ceisiwch feddwl am un peth ‘rydych chi’n hoffi am eich hun. Gall fod eich gwallt, eich synnwyr digrifwch neu eich sgiliau pêl-droed. Unwaith ‘rydych chi wedi dechrau ar hyn, gallwch ddechrau feddwl am fwy o bethau a chreu delwedd bositif o’ch hun.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Charlotte Church yn chwilio am atebion iechyd meddwl : BBC

Llun: BBC

Wedi gwylio ei mam yn brwydro â phroblemau iechyd meddwl, mae Charlotte Church yn edrych ar ymchwil i mewn i driniaethau newydd.

Yn y rhaglen Charlotte Church: Inside My Brain, mae’r gantores yn cyfarfod â Dr John Atack o Brifysgol Caerdydd, sy’n gweithio ar gyffuriau newydd i drin cyflyrau seiciatrig. Dywed Dr Atack:

“Nid oes gennym y ddealltwriaeth sylfaenol o’r hyn sy’n mynd ymlaen yn ymennydd pobl sydd ag iselder. Rydyn ni’n credu bod lleihad yn eu lefelau o seretonin, felly mae meddyginiaethau SSRI yn adfer y lefel hwnnw o seretonin i’r lefel normal. Ond beth sy’n achosi hynny – ym mha ran o’r ymennydd mae hyn yn digwydd? Nid ydym yn deall y cwestiynau hollbwysig hyn.”


Rhannu

Profiad hunan-niweidio: ‘Cwbl rydym eisiau yw diflannu’ : BBC Cymru Fyw

Mae Angharad May yn 28 oed, ac wedi bod yn anafu ei hun ers yn chwech oed. Gallwch gwrando arni’n siarad am ei phrofiadau ar Radio Cymru yma.

Mae’r heddlu yng Nghymru yn galw am well addysg iechyd meddwl mewn ysgolion ar ôl cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae Samariaid Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi gweld mwy o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a hunan-niweidio.

Rhannu

Sut beth yw bod yn un o wrandawyr y Samariaid?

Llun: WalesOnline

Mewn tŷ teras cyffredin yn Heol Ddwyreiniol y Bont-faen y mae cangen Caerdydd a’r Cyffiniau y Samariaid. Y tu mewn, mae’r gwirfoddolwyr yn gweithio’n ddiflino i gynnig clust i bobl yn ystod eu cyfnodau tywyllaf.

Bydd rhywun yn galw’r Samariaid bob chwe eiliad, ac atebodd gwirfoddolwyr 5.7 miliwn o alwadau yn y DU yn 2016 i gefnogi pobl a oedd yn cael trafferth ymdopi.

Ers newid i linell ffôn am ddim fis Medi 2015, mae’r Samariaid wedi cael llif o alwadau – cynnydd o 300,000 yn 2016 yn unig. Yng Nghaerdydd, mae’r ffôn yn canu o’r eiliad y caiff ei droi ymlaen.

Gall galwadau amrywio o fod yn rhai munudau i fod mor hir â dwy neu dair awr, felly mae’n anodd dweud sawl galwad y bydd y gwrandawyr yn eu hateb. Yn ogystal â’r galwadau hyn, mae hefyd llif o e-byst a negeseuon testun yn dod i mewn.

Parhau i ddarllen

Rhannu