“Erfyniaf i’th gael yn ôl o afael dy uffern di-enaid” – Iwan Foulkes

Darn bach o ryddiaith greadigol i Mam a phawb arall o’r Fuchedd hon sy’n cael eu llethu gan Iselder dwys:

Neithiwr, yn nyfnderoedd ymysgaroedd ei meddwl pell ni allai heddiw fod. Ni allai, ar erchwyn anfarwol tragwyddol gywilydd ond derbyn tranc ei thynged. Ymroi yn urddasol a diymdroi i’r un weithred eithaf honno, anfadwaith a gynlluniodd yn ei huffern ddaearol gryn fil a mwy o weithiau mewn amryw ffyrdd… ond cilio a wnaeth, ymwrthod mewn ennyd o resymoldeb. Fe giliodd y gysgadwraig i nawdd cyfarwydd, dyddiol, nosweithiol ei gwely. Derbyn ei phoen a wnaeth a do, heddiw, y bore hwn fe ddaeth yn well, fe aeth llaw Angau drachefn am dymor arall.

Fe ddeil y Gwanwynau drachefn wedi hirlwm Gaeaf, fe rown y Byd i’th gael yn ol, am un hirddydd Haf, Ti, fy Mam a Nain fy Mhlant. Ti, yr hon a sychodd ddagrau fy mhlentyndod yn dy fynwes na all lefain ym mhruddglwyf dy fod di-deimlad. Ti a gynilodd y punnoedd i mi fwynhau’r materol fodd, fe rown bopeth, pob darn arian i weld llonder yng ngwyn dy lygaid.

Penliniaf, erfyniaf, nid am felys gwrdd eneidiau tros yr wybren ar Fynydd Seion yn y Dwyrain draw, ond am ddyfodol gwell. I’th gael yn ol o afael dy uffern di-enaid. Anrhydeddodd Dad yr addewidion ar fore’r Briodas gydag arddeliad, er gwell, er gwaeth, i’th gynnal a’th gadw, o am welliant yn Haf dy fod cyn i henaint ddyfod.

Hunllef yw’r A5 i mi, nid oes Lon Goed ar ei llwybr er harddwch ei hafnau. Bydd cenllysg Capel Curig yn bythol greithio’n eirias a chreigiau Nant Ffrancon yn oesol bwyso arnaf. Yr eangderau braf, ymron llesmeiriol yn cau amdanaf, yn borth i ledrith uffern ‘Un Nos Ola’ Leuad’ Caradog. Nefolaidd fan yn burdan cyn tanchwa dorcalonnus.

Chwedl adfyd ydyw ‘Hergest’, chwedl afiach na allaf fyth, hyd na fyddaf, ei anghofio. Nid oes yno Bair y Dadeni, dyma isfyd y cantrefi nad oes ei ddyfnach mewn adfyd. Mil sgrech gyfarwydd yn mileinio ar alawon awelon annaturiol, yn un ysbeilgar iasol fonllef y tu hwnt i borth caeedig Deddf Gwlad. Er nad wyf amddifad, yn ddyn, yr wyf ymbil yn ddifai am fy Mam. Nid yw dy enw mewn beddargraff, dim ond dy enaid ar ddifancoll, yn ddim ond llwch.

Iwan Foulkes


Rhannu

‘Rhyddhau’r Cranc’ – Malan Wilkinson : Heno S4C

Lansiodd Malan Wilkinson o Gaernarfon ei chyfrol gyntaf, ‘Rhyddhau’r Cranc‘, yn ddiweddar, sy’n sôn am ei brwydr hi â’i hiechyd meddwl.

‘Mae wedi bod yn frwydr hir, ond dwi’n meddwl bod rhannu wedi fy helpu i ar hyd y daith’


Rhannu

Effaith cerddoriaeth – Rich Jones : Hansh

Rich Jones yn esbonio sut mae cerddoriaeth yn ei helpu i ddelio â chyflyrau iechyd meddwl.


Rhannu

Gorbryder Cymdeithasol – Arddun Rhiannon

Arddun Rhiannon yn trafod ei gorbryder cymdeithasol mewn sgwrs agored a gonest ar Radio Cymru.


Rhannu

Catherine yn rhannu ei phrofiad o iselder ôl-enedigol : Ffit Cymru

Ar Ffit Cymru, mae Catherine yn agor fyny am ei phrofiad o iselder ar ôl geni wrth iddi gael sgwrs gyda Rae.


Rhannu

Gorbryder a phrifysgol: cyngor Arddun Rhiannon

Dyma Arddun Rhiannon yn trin a thrafod materion iechyd meddwl a hefyd yn sôn am ei phrofiadau ym Mhrifysgol Bangor.

Roedd Arddun yn poeni wrth baratoi at ei hamser fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Bangor, sut y byddai’n ymdopi â’r gorbryder roedd hi wedi bod yn byw ag o ers rhai blynyddoedd, a sut byddai’n cadw rheolaeth arno. Fel myfyrwraig drydedd blwyddyn bellach, mae’n adrodd nad oedd y profiad yn un negyddol o gwbl, a dyma hi’n egluro pam:


Rhannu

Stori Curtis – FFIT Cymru

Mae Curtis Lewis wedi bod yn byw ag Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD) ers rhai blynyddoedd. Yn ei fideo isod mae’n siarad â Lisa Gwilym, cyflwynydd FFIT Cymru, am ei brofiadau â’r cyflwr a sut mae’n effeithio ar ei fywyd ef.


Dolenni perthnasol:

Rhannu