Yr holl newyddion diweddaraf am iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Yr wythnos hon, daw carreg filltir bwysig i’r sefydliad, wrth iddynt gael eu cydnabod fel elusen gofrestredig – y cyntaf o’r fath yng Nghymru.
Mae rhybudd bod y pwysau ar ddynion ifanc i fagu cyhyrau mawr a delwedd arbennig yn arwain at iselder a defnydd o gyffuriau.
Dyma ddatganiad gan Amser i Newid Cymru yn dilyn cyhoeddiad diweddar gan raglen Time to Change Lloegr
Mae’r UK Trauma Council (UKTC) yn gorff arbenigol annibynnol newydd sydd â’r awdurdod a’r profiad i drafod effaith digwyddiadau trawmatig ar blant a sut i’w helpu.
Rydyn ni wedi bod yn cydweithio gyda Draenog yn ddiweddar i greu drychau bach gyda’r geiriau ‘Ti’n Ddigon’.
Mae Mind Cymru eisiau deall profiadau pobl ifanc o’r gwasanaethau iechyd meddwl sydd ar gael yng Nghymru trwy gyfrwng y Gymraeg.
Rydyn ni’n falch i gyhoeddi bod rhagor o gardiau post ar werth ar dudalen Etsy Heledd Owen, gyda 50% o’r elw i meddwl.org.
Mae’r pecyn cymorth newydd hwn gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys awgrymiadau a chyngor i bobl ifanc i gefnogi eu hiechyd meddwl.
Mae canllaw ymarferol ar-lein ynghylch byw gyda gofid a gorbryder yn ystod pandemig Covid-19 bellach ar gael yn Gymraeg.
Mae 70% o famau newydd a beichiog yn profi anhawster iechyd meddwl o ryw fath yn ystod neu ar ôl beichiogrwydd.
Rydyn ni’n falch i gyhoeddi bod y lluniau bellach ar gael i’w prynu fel cardiau post drwy dudalen Etsy Heledd Owen.
Yn 2016, collodd Sharon Marie Jones o Aberystwyth ei mab pump oed, Ned, mewn damwain ddifrifol.