Barddoniaeth, ysgrifau, gwaith celf a cherddoriaeth sy’n ymwneud ag iechyd meddwl.
Dwi ond yn gofyn I fod yn iawn. Am ddiwrnod heb boeni, A lle di’r ymennydd ddim yn llawn.
Gydag amser, amynedd ac ymwybyddiaeth Daw Maddeuant – i raddau Dealltwriaeth – bron iawn Derbyn – hyd braich.
Dim digon o “likes” Dim digon o sylwadau, Pryd ‘di’r amser i agor ein llygadau?
*Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio* Gwên ffug feunyddiol i osgoi’r cwestiynau; Ond dw i ffili, jest stopio – Oherwydd ma’r gaethiwed ‘ma yn obsesiwn.
Casglaf law, fel petawn i’n gwmwl wrth i’m hemosiynau dywyllu fy meddwl, a phan ddaw popeth yn ormod, bob hyn a hyn, pan dw i’n teimlo’n drwm, gadawaf i’r dŵr ddisgyn.
Weithiau ti’n ofnus, a ti ddim yn siŵr pam. Weithiau ti ond isho aros efo mam.
Wy ti ‘di ymgartrefi ger bron Duw, a minnau’n aros yn dy ‘stafell fyw?
Yn dy ben troella’r gwenwyn, dy chwerthiniad mor wag ag adfail, dy feddyliau yng nghlwm yn nwylo’r cythraul.
Fe gofiwn am anwyliaid cu A gollwyd ‘leni’n greulon Trysorwn yr atgofion lu A’u cadw’n nwfn ein calon.
Does dim angen bod yn ferthyr. Gwisgo gwên, cael hwyl a sbri. Bydda’n glên a thi dy hunan. Gwna yr hyn sy’n iawn i ti.
Un anrheg yn llai dan y goeden. Un gadair yn llai wrth y bwrdd. Un cerdyn yn llai i’w ‘sgrifennu. Un annwyl yn llai yn y cwrdd.
Pan fo’r ffliw yn ein llethu gall meddygon ei drechu.