Ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd, mae sefydlwyr a chefnogwyr meddwl.org yn galw am ragor o wasanaethau Cymraeg.
Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn.
Dylai bod yr iaith Gymraeg yn cael ei thrin fel mater “canolog” i wasanaeth iechyd meddwl Cymru, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.
Mae pobl yn gweld siarad am broblemau iechyd meddwl yn anodd beth bynnag y sefyllfa. Ychwanegwch at hyn y boen a’r straen ychwanegol o orfod gwneud hynny yn eich ail iaith.