teulu a ffrindiau

teuluGallwch roi cymorth i ffrind neu aelod o’r teulu drwy adnabod arwyddion problemau iechyd meddwl a’u cysylltu gyda’r sawl gall roi cymorth proffesiynol.

Gall siarad â ffrindiau a theulu am broblemau iechyd meddwl fod yn gyfle i ddarparu gwybodaeth, cefnogaeth, ac arweiniad.

 


 Ydych chi’n poeni am rywun?

Os ydych yn poeni am iechyd meddwl ffrind, perthynas neu rywun annwyl, a dydych chi ddim yn gwybod beth i’w wneud, mae cyngor isod ar sut i ddechrau sgwrs anodd.

Ceisiwch eu cael nhw i siarad â chi.

  • Yn aml mae pobl eisiau siarad, ond maen nhw’n aros i rywun ofyn sut y maen nhw. Ceisiwch ofyn cwestiynau agored, fel ‘Beth ddigwyddodd am ……’, ‘Dywedwch wrtha i am ……’, ‘Sut ydych chi’n teimlo am……’
  • Ailadroddwch yr hyn maen nhw’n ei ddweud i ddangos eich bod yn deall, ac wedyn gofynnwch fwy o gwestiynau.
  • Canolbwyntiwch ar deimladau eich ffrind yn hytrach na cheisio datrys y broblem. Gall hyn fod yn fwy o gymorth a bydd yn dangos bod ots gyda chi.
  • Rhaid parchu’r hyn maen nhw’n ei ddweud wrthoch chi. Weithiau mae’n hawdd ceisio trwsio problemau pobl, neu roi cyngor iddynt. Gadewch iddynt wneud eu penderfyniadau eu hunain.

Sut gallaf helpu rhywun arall i ofyn am help?

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n dioddef problem iechyd meddwl yn siarad â’i ffrindiau a theulu cyn siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol, felly gall y cymorth rydych yn ei gynnig fod yn werthfawr iawn. Mae gan Mind ganllaw ar sut i gynnig cymorth emosiynol ac ymarferol, beth i’w wneud mewn argyfwng, a sut i sicrhau eich bod yn gofalu am eich hun.

Sut y gallaf helpu rhywun arall i ofyn am help? (Mind)


23414323_10155753919635011_1591827808_nSut mae modd i mi gychwyn sgwrs gyda rhywun rwy’n poeni amdanynt?
Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gwybod sut i helpu rhywun, oherwydd nad ydych yn gwybod beth i ddweud wrthynt neu sut i ddatrys eu problemau. Nid oes angen i chi fod yn arbenigwr.

Chwiliwch am amser da a lle da
Dewiswch rywle lle mae’r person arall yn teimlo’n gyfforddus a bod amser ganddynt i siarad.

Gofynnwch gwestiynau caredig, a gwrandewch yn ofalus
Efallai eich bod yn teimlo nad ydych yn gwybod sut i helpu rhywun, oherwydd nad ydych yn gwybod beth i’w ddweud wrthynt. Ond ni ddylech ddweud unrhyw beth wrthynt. Y ffordd orau i helpu yw gofyn cwestiynau. Wrth i chi ofyn cwestiynau, bydd y bobl yr ydych yn siarad â nhw yn darganfod eu hatebion eu hunain.

Mae cwestiynau agored yn well

  • Pryd – ‘Pryd wnaethoch chi sylweddoli?’
  • Ble – ‘Ble wnaeth hynny ddigwydd?’
  • Beth – ‘Beth arall ddigwyddodd?’
  • Sut – ‘Sut roedd hynny’n teimlo?’
  • Pam – byddwch yn ofalus gyda hon achos gall wneud rhywun yn amddiffynnol. Mae ‘Beth wnaeth i chi ddewis hwnnw?’ neu ‘Am beth oeddech chi’n ei feddwl ar y pryd?’ yn fwy effeithiol.

Gwnewch yn siŵr eu bod yn gwybod ble mae help ar gael
Os ydy rywun wedi teimlo’n isel eu hysbryd am beth amser, mae’n debyg ei bod yn syniad da iddynt gael cymorth, gan siarad â rhywun fel cwnselydd neu gael cymorth ymarferol. Mae cwestiynau defnyddiol y gallech ofyn iddynt megis:

  • ‘Oes modd i chi fynd at rywun rydych chi’n ymddiried ynddynt?’
  • ‘Ydych chi wedi siarad â rhywun arall am hyn?’
  • ‘Hoffech chi gael help?’
  • ‘Fyddech chi’n hoffi imi i ddod gyda chi?’
  • ‘Os bydd yn helpu, gallwch siarad â mi unrhyw bryd.’

Edrychwch ar ôl eich hun, a siaradwch â rhywun arall
Mae clywed am bryderon neu broblemau rhywun arall yn gallu effeithio arnoch hefyd. Cymerwch amser i chi’ch hun i wneud y pethau rydych chi’n mwynhau eu gwneud, ac os bydd angen i chi siarad, ffeindiwch rywun rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw.

Darllen rhagor : Sut mae dechrau sgwrs anodd?


Sut alla i helpu fy mhlentyn?23364804_10155753919485011_1626299631_n

Gall darganfod bod plentyn yn cael trafferth ymdopi fod yn ofidus i rieni. Mae siarad â’ch plentyn mewn ffordd dderbyniol ac agored yn gam pwysig er mwyn goresgyn y sefyllfa.

Gwrandewch yn ofalus ar yr hyn maent yn ei ddweud
Gofynnwch sut y maent yn teimlo. Os byddwch yn ofalus ac yn ddigynnwrf mae’n iawn i drafod hunan-niweidio neu hunanladdiad.

Ceisiwch fod yn dderbyniol ac yn agored
Hysbyswch eich plentyn eich bod chi yna iddyn nhw, a’ch bod yn eu caru. Sicrhewch eu bod yn gwybod ei bod hi’n iawn i drafod eu gofidiau ac eich bod yn eu cefnogi.

Cynigiwch eu helpu
Gallwch gynnig cysylltu â Samaritans, meddyg teulu neu gwnselydd. Ceisiwch osgoi cymryd rheolaeth – mae nifer o bobl sy’n hunan-niweidio yn ei ddefnyddio fel ffordd o gael rhyw fath o reolaeth dros eu bywyd.

Peidiwch â’i chymryd hi’n bersonol
Efallai na fydd eich mab neu eich merch am siarad â chi gan eich bod yn rhy agos atynt. Os yw hyn yn wir, efallai byddwch am eu hannog i siarad â rhywun y maent yn teimlo’n gyfforddus â nhw.

Darllen rhagor : Sut alla i helpu fy mhlentyn?


Iselder – sut alla’i helpu?helpu iselder(1)

Gall cefnogaeth ffrindiau a theulu fod yn hynod o bwysig a gwerthfawr i rywun sy’n gwella o iselder. Dyma rai awgrymiadau ar sut gallwch chi helpu:

  • Eu cefnogi i gael cymorth
  • Bod yn agored am iselder
  • Gwrando
  • Cadw mewn cysylltiad
  • Peidio â beirniadu
  • Cadw cydbwysedd
  • Ceisio deall
  • Edrych ar ôl eich hun

(darllen rhagor)


helpu gorbryderGorbryder a Phyliau o Banig – Sut gall pobl eraill helpu?

Gall fod yn anodd pan fydd rhywun annwyl i chi yn profi gorbryder neu byliau o banig, ond mae pethau y gallwch chi eu gwneud i’w helpu.

  • Peidiwch â rhoi pwysau arnynt
  • Ceisiwch ddeall
  • Gofynnwch sut gallwch chi helpu
  • Cefnogwch nhw i gael cymorth
  • Edrychwch ar ôl eich hun

Helpu rhywun sy’n cael pwl o banig

  • Peidio â chynhyrfu
  • Gadael iddynt wybod eich bod chi yno iddyn nhw
  • Eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn – efallai bydd cyfri yn uchel yn helpu
  • Eu hannog i eistedd i lawr mewn man tawel tan eu bod yn teimlo’n well

Darllen rhagor : Gorbryder a phyliau o banig – sut gall pobl eraill helpu?


PTSD – Sut alla’i helpu? 25530226_10155868429300011_803410429_n

Gall fod yn anodd iawn i weld rhywun annwyl i chi yn profi symptomau Anhwylder Straen wedi Trawma (PTSD), neu PTSD cymhleth. Mae’r erthygl hon yn cynnig rhai awgrymiadau ar gyfer ffyrdd y gallwch eu cefnogi tra’ch bod chi hefyd yn edrych ar ôl eich hunan.

  • Gwrandewch arnynt
  • Ceisiwch beidio â barnu
  • Dysgwch beth sydd yn cael effaith arnynt
  • Parchwch eu gofod personol
  • Gofalwch am eich hunan

Awgrymiadau ar gyfer helpu rhywun sy’n cael ôl-fflachiau

Mae ôl-fflachiau yn brofiadau byw lle mae rhywun yn ail-fyw agweddau o ddigwyddiad trawmatig. Gall fod yn anodd gwybod sut i helpu, ond nid oes angen hyfforddiant arbennig i gefnogi rhywun sy’n cael ôl-fflachiau.  Gallwch helpu drwy:

  • ceisio aros yn ddigyffro
  • dweud wrthynt yn dyner eu bod yn cael ôl-fflachiau
  • osgoi gwneud unrhyw symudiadau sydyn
  • eu hannog i anadlu’n araf ac yn ddwfn
  • eu hannog i ddisgrifio eu hamgylchedd.

Darllen rhagor : PTSD – Sut alla’i helpu?


OCD – Sut alla’i helpu? 25519999_10155868438595011_503808446_n

Os oes rhywun sy’n agos i chi wedi cael diagnosis o Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), gall fod yn anodd gwybod sut i’w cefnogi. Ond gall eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth chi wneud gwahaniaeth enfawr, ac mae ’na bethau y gallwch chi eu gwneud i helpu.

  • Byddwch yn agored am OCD
  • Byddwch yn amyneddgar
  • Peidiwch â cholli tymer, a pheidiwch â barnu
  • Dysgwch gymaint ag y gallwch am OCD
  • Dewch o hyd i ffyrdd o ddelio â’r ysfeydd gyda’ch gilydd
  • Helpwch nhw i gael mynediad i driniaeth
  • Gofalwch amdanoch eich hun

Darllen rhagor : OCD – Sut alla’i helpu?


Dolenni eraill:

Rhannu