Iechyd meddwl a’r Gymraeg

Iechyd meddwl a’r Gymraeg
2yp, dydd Gwener, 2 Mehefin
Stondin Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd

Siaradwyr: Alaw Griffiths, Joe Williams (Amser i Newid Cymru), Hedydd Elias ac eraill.

Lansiad swyddogol gwefan meddwl.org, sgyrsiau am brofiadau gan Alaw Griffiths a Hedydd Elias, a thrafodaeth ar iechyd meddwl dan ofal Amser i Newid Cymru.

Caiff gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion – i gyd yn Gymraeg.

Yn dilyn lansiad y wefan, bydd yr elusen Amser i Newid Cymru yn arwain trafodaeth ar iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc. Bydd y sgwrs hon yn gyfle i glywed profiadau pobl eraill, yn ogystal â rhannu eich profiad eich hun.

Yn ogystal, bydd Alaw Griffiths a Hedydd Elias yn rhannu eu profiadau gan sôn am bwysigrwydd gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymraeg.

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook