Diwrnod Iechyd Meddwl : Galw am fwy o gymorth yn Gymraeg

logo-diwrnod-iechyd-meddwlAr Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd, mae sefydlwyr a chefnogwyr gwefan iechyd meddwl yn galw am ragor o wasanaethau Cymraeg.

Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016 mewn ymgais i fynd i’r afael â’r diffyg cymorth a gwybodaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Mae’r wefan yn darparu gofod i bobl drafod, rhannu profiadau a chael gwybodaeth am iechyd meddwl yn Gymraeg.

Dywedodd Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org:

“Mae’r sefyllfa yn gwbl annigonol. Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg yn fater o angen, nid dewis. Rydyn ni’n gobeithio bod y profiadau sy’n cael eu rhannu ar meddwl.org yn dystiolaeth i’r Byrddau Iechyd a llunwyr polisïau pa mor bwysig, ac angenrheidiol, yw derbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Y Cynnig Rhagweithiol yw’r unig ffordd i sicrhau gwasanaethau ac hawliau heb eu cyfaddawdu.”

Heddiw, yng Nghaerdydd, cynhaliwyd digwyddiad dathlu a gwobrwyo strategaeth Mwy na Geiriau… Llywodraeth Cymru.  Strategaeth yw hon ar gyfer y Gymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu