Sut i reoli pyliau o banig

23415983_10155753919625011_275648689_n

Gall pyliau o banig wneud i anadlu ymddangos yn anodd. Gallwch deimlo eich bod am lewygu neu hyd yn oed mygu. Weithiau, teimla pobol yn sâl neu’n chwyslyd pan maent yn cael pwl o banig. Ond sut bynnag bydd eich pyliau o banig yn effeithio arnoch, mae yna ffyrdd o ddelio â nhw. Gallwch ddysgu sut i reoli pyliau o banig a chadw rheolaeth arnynt.

3 ffordd i helpu rheoli pwl o banig

  1. Canolbwyntiwch ar eich anadlu – Cymerwch anadl ddofn ac araf drwy eich trwyn ac allan o’ch ceg
  2. Trowch eich sylw at rywbeth arall -Cyfrwch bethau, cyfansoddwch gerdd, dychmygwch am hafan ddiogel
  3. Meddyliwch am bethau positif

Parhau i ddarllen

Rhannu

Agoraffobia

AgoraffobiaYn aml caiff ei ddisgrifio, yn anghywir, fel ‘ofn llefydd agored’, ond mae agoraffobia mewn gwirionedd yn anhwylder gorbryder llawer mwy cymhleth.

Beth yw agoraffobia?

Agoraffobia yw ofn bod mewn sefyllfa wael na allwch ddianc yn hawdd oddi wrtho. Fel arfer mae gan bobl sydd ag agoraffobia lefydd y maent yn teimlo’n ‘ddiogel’ (e.e. eu hystafell wely, neu eu cartref) a llefydd maent yn teimlo’n ‘anniogel’ (e.e. trafnidiaeth gyhoeddus, sinemâu a thorfeydd).


Beth sy’n achosi agoraffobia?

Yn aml caiff agoraffobia ei achosi gan byliau o banig (neu’r ofn o gael pwl o banig), sy’n arwain at symptomau brawychus o orbryder pan fydd dioddefwyr yn mynd i lefydd ‘anniogel.’ Mae pobl sydd ag agoraffobia yn aml yn osgoi sefyllfaoedd sy’n gwneud iddynt deimlo’n bryderus. Mewn achosion eithafol, gall hyn waethygu i’r fath raddau nad yw dioddefwyr byth yn gadael eu cartrefi.


Sut ydw i’n gwybod bod gen i agoraffobia?

Efallai eich bod yn dioddef o agoraffobia os ydych yn osgoi’r sefyllfaoedd canlynol oherwydd ofn:

  • Bod mewn torfeydd
  • Mynd tu allan i’ch cartref
  • Bod yn gaeth mewn naill ai llefydd cyfyng fel twneli, neu lefydd eang agored fel caeau mawr

Y ffordd orau i ddarganfod ydych chi’n dioddef ydy i ymweld â’ch meddyg teulu. Fodd bynnag, os ydy gadael y tŷ yn anodd i chi, efallai nad yw hyn yn bosib. Os ydy hyn yn wir, ffoniwch eich meddygfa leol a gofyn am apwyntiad dros y ffôn.


Sut mae gwella o agoraffobia?

Cydnabod bod angen help arnoch yw’r cam pwysicaf, wedyn trafod gyda’ch meddyg. Efallai y byddant yn rhoi cyngor i chi ar sut i ddelio â phyliau o banig, cynnig cwnsela hunangymorth ar-lein, rhagnodi cwrs o Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), a/neu ragnodi meddyginiaeth.


A fydd gen i agoraffobia am byth?

Os ydych chi wedi cael agoraffobia yn difetha eich bywyd, mae’n naturiol i boeni y bydd yn dychwelyd. Ond bydd bod yn ymwybodol o’ch sbardunau (‘triggers’) a’r help sydd ar gael i chi o gymorth i’w gadw dan reolaeth.

Gwybodaeth o themix.org


Mae testun y cofnod hwn wedi’i ryddhau dan y drwydded Creative Commons BY-SA 4.0, sy’n eich caniatáu i’w ail-ddefnyddio a’i newid mewn unrhyw ffordd os ydych yn rhoi cydnabyddiaeth ar ffurf dolen i’r dudalen hon, ac yn trwyddedu eich fersiwn ddeilliadol yn yr un modd. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Rhannu

Delio efo panig : CymruFyw

1 (21)

Mae dadwireddu yn fath o anhwylder datgysylltiol ac yn perthyn i Anhwylder Dadbersonoli-Dadwireddu (Depersonalisation-Derealisation Disorder). Dyma Manon Elin, un o sylfaenwyr Meddwl.org yn rhannu ei phrofiad gyda Cymu Fyw:

Cefais fy mhwl cyntaf o banig ddeng mlynedd yn ôl, pan o’n i’n 12 oed. Ar y pryd, ac am flynyddoedd wedyn, doedd dim syniad gen i beth oedd y teimladau hyn. Wnes i ddim sôn wrth braidd neb am hyn am flynyddoedd.

Gyda fi, mae’r dadwireddu yn symptom o or-bryder a phyliau o banig yn hytrach nag yn anhwylder yn ei hun. Mae’n deimlad o fod mewn breuddwyd, fel bod pethau o fy nghwmpas yn ymddangos yn ddieithr, yn bell ac yn afreal. Fel nad ydw i wir yno. Dwi’n teimlo fel ‘mod i ar goll, er fy mod i’n gwybod yn iawn ble ydw i, teimlo fel petawn i  mewn swigen, a bod pawb a phopeth o’m cwmpas yn teimlo’n bell. Fel petawn i’n breuddwydio, ond yn ymwybodol o beth sy’n digwydd ar yr un pryd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Disgyblion mor ifanc â phedair oed yn cael pyliau o banig : BBC

_92886217_2ed50340-927e-416d-85b8-642b7e224bdbMae plant mor ifanc â phedair oed yn dioddef o broblemau iechyd meddwl megis pyliau o banig, gorbryder ac iselder, yn ôl undeb athrawon.

Canfu arolwg gan yr undeb athrawon NASUWT bod:

  • 98% o athrawon wedi dod i gyswllt â disgyblion sy’n profi problemau iechyd meddwl, gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn bobl ifanc yn eu harddegau.
  • 18% o’r athrawon a ymatebodd i’r arolwg wedi dod i gyswllt â phlant 4 – 7 oed oedd yn dangos problemau iechyd meddwl, a bod 35% wedi gweld problemau ymhlith plant rhwng 7 – 11.
  • 9 o bob 10 ymatebwr wedi gweld disgybl o unrhyw oed yn dioddef o byliau o banig a gorbryder.
  • 79% yn ymwybodol o ddisgybl oedd yn dioddef o iselder.
  • 64% yn ymwybodol o berson ifanc oedd yn hunan-niweidio.
  • 49% yn ymwybodol o blant ag anhwylderau bwyta, a 47% yn gwybod am berson ifanc ag anhwylder gorfodaeth obsesiynol.

Darllen mwy: BBC (Saesneg)

Rhannu

Emetoffobia: ‘Mae arna’i ofn chwydu’ : BBC

_94919095_hannah2

Does neb yn hoffi bod yn sâl, ond mae ar Hannah Ellis ofn chwydu i’r fath raddau bod arni ofn ieir, ac mae hi’n mynd i banig os oes ffrind iddi neu aelod o’r teulu yn mynd yn sâl. Mae gan y ferch 19 mlwydd oed o Sheffield Emetoffobia, cyflwr sy’n effeithio ar filoedd o bobl yn y DU.

“Mae’n siŵr bod fy ffrindiau’n pendroni pam ‘mod i’n bwyta pasta a saws tomato am y bedwaredd noswaith yn olynol. Nid oherwydd ‘mod i’n dlawd, y gwir yw bod ieir, neu feddwl am ailgynhesu bwyd, yn fy nychryn. Mae fy ffobia o chwydu – mae hyd yn oed y gair yn troi fy stumog – yn rheoli bron pob agwedd o ‘mywyd.

Parhau i ddarllen

Rhannu