Hunan-ofal

Mae hunan-ofal yn ddull sy’n ein helpu i fodloni ein hanghenion corfforol, emosiynol, seicolegol a chymdeithasol.

Mae Jayne Hardy, sefydlwr The Blurt Foundation, yn dadlau mai dyma’r ffordd ataliol orau o frwydro yn erbyn gorflino, straen a salwch, yn ein bywydau prysur heddiw. Ar ôl gweithio drwy’r dydd, astudio, neu ofalu am ein plant, mae’n iawn i deimlo bod angen egwyl arnoch. Gyda’r holl ddyletswyddau hyn, mae’n hawdd anghofio bod angen gofalu am ein hunain hefyd.

Mae nifer ohonom yn teimlo’n euog wrth dreulio amser arnom ni’n hunain, naill ai drwy wneud rhywbeth rydym yn ei fwynhau neu wrth ymlacio, ond mae hyn yn hanfodol er mwyn rheoli symptomau iechyd meddwl, yn ogystal â gwarchod ein lles yn gyffredinol.

Mae yna gysyniad niweidiol sy’n bodoli bod hunan-ofal yn rhywbeth diangen a bod blaenoriaethu ein hunain yn hunanol. Ond mewn gwirionedd, mae’r weithred o benodi amser i ofalu am eich hun yn eich galluogi i ddianc y cylch cythreulig o deimlo’n rhwystredig, ac yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch lles meddyliol. Wrth i ni dynnu at derfyn 2017 felly, pam na wnewch chi ymuno â ni a blaenoriaethu hunan-ofal fel adduned blwyddyn newydd? Gofynnwyd i ddarllenwyr meddwl.org i rannu eu hawgrymiadau hunan-ofal â ni, ac felly dyma nhw isod fel ysbrydoliaeth i chi.

Hawys Haf Roberts

Mae angen cofio bod yn garedig wrthoch chi eich hun, ac weithie mae angen dweud bod ‘digon da yn ddigon da’. I fi mae bod yn garedig wrthyf i fy hun yn golygu neud amser i ymlacio, rhoi fy hun yn gynta ambell waith, ac anadlu’n ddwfn os oes pwl o banig yn digwydd. Mae glasied o win a llyfr da yn help hefyd!’

Parhau i ddarllen

Rhannu

Delio efo panig : CymruFyw

1 (21)

Mae dadwireddu yn fath o anhwylder datgysylltiol ac yn perthyn i Anhwylder Dadbersonoli-Dadwireddu (Depersonalisation-Derealisation Disorder). Dyma Manon Elin, un o sylfaenwyr Meddwl.org yn rhannu ei phrofiad gyda Cymu Fyw:

Cefais fy mhwl cyntaf o banig ddeng mlynedd yn ôl, pan o’n i’n 12 oed. Ar y pryd, ac am flynyddoedd wedyn, doedd dim syniad gen i beth oedd y teimladau hyn. Wnes i ddim sôn wrth braidd neb am hyn am flynyddoedd.

Gyda fi, mae’r dadwireddu yn symptom o or-bryder a phyliau o banig yn hytrach nag yn anhwylder yn ei hun. Mae’n deimlad o fod mewn breuddwyd, fel bod pethau o fy nghwmpas yn ymddangos yn ddieithr, yn bell ac yn afreal. Fel nad ydw i wir yno. Dwi’n teimlo fel ‘mod i ar goll, er fy mod i’n gwybod yn iawn ble ydw i, teimlo fel petawn i  mewn swigen, a bod pawb a phopeth o’m cwmpas yn teimlo’n bell. Fel petawn i’n breuddwydio, ond yn ymwybodol o beth sy’n digwydd ar yr un pryd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diwrnod Iechyd Meddwl : Galw am fwy o gymorth yn Gymraeg

logo-diwrnod-iechyd-meddwlAr Ddiwrnod Iechyd Meddwl y byd, mae sefydlwyr a chefnogwyr gwefan iechyd meddwl yn galw am ragor o wasanaethau Cymraeg.

Sefydlwyd gwefan meddwl.org fis Tachwedd 2016 mewn ymgais i fynd i’r afael â’r diffyg cymorth a gwybodaeth sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl. Mae’r wefan yn darparu gofod i bobl drafod, rhannu profiadau a chael gwybodaeth am iechyd meddwl yn Gymraeg.

Dywedodd Hedd Gwynfor, un o sylfaenwyr gwefan meddwl.org:

“Mae’r sefyllfa yn gwbl annigonol. Mae darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg yn fater o angen, nid dewis. Rydyn ni’n gobeithio bod y profiadau sy’n cael eu rhannu ar meddwl.org yn dystiolaeth i’r Byrddau Iechyd a llunwyr polisïau pa mor bwysig, ac angenrheidiol, yw derbyn gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg : Cymdeithas yr Iaith

urdd manon 3Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (2 Mehefin).

Cafodd gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.

Ychwanegodd Hedydd Elias, a fu’n siarad am ei phrofiadau yn ystod y digwyddiad:

Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol; dyw hyn ddim yn ddigon da, dylai cymorth craidd fod ar gael yn y Gymraeg i’r rheiny sydd yn ei mofyn. Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud. Erbyn heddiw, mae’n well gen i siarad am fy iechyd meddwl yn Saesneg, achos yn Saesneg rwyf wedi derbyn cymorth dros y ddegawd diwethaf. Credaf yn gryf byddai pethau’n wahanol pe byddwn wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg o’r cychwyn.’

Darllen rhagor : Cymdeithas yr Iaith

Rhannu

Lansiad meddwl.org : Manon Elin

‘Ma’ gwefan meddwl.org yn dystiolaeth i’r gwasanaethau iechyd pa mor bwysig yw gofal Cymraeg, a’r gwahaniaeth mae iaith yn ei gael ar y broses o wella.’

Manon Elin yn sôn am wefan meddwl.org, a pha mor bwysig yw gallu trafod materion iechyd meddwl yn Gymraeg.

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg

manon-elinWrth drafod iechyd meddwl, un o’r pethau pwysicaf yw’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol er mwyn mynegi teimladau, meddyliau ac emosiynau. Mae hyn yn cynnwys yr iaith a ddefnyddir.

Wrth drafod â’r gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol, wnaeth neb ofyn na chynnig i mi siarad â rhywun yn Gymraeg, a doeddwn i ddim mewn sefyllfa i ofyn. Roeddwn i’n teimlo y dylwn i fod yn falch ac yn ddiolchgar o gael unrhyw gymorth. Gan fod rhestrau aros am therapïau siarad mor hir beth bynnag, ro’n i’n poeni y byddai’n rhaid i mi aros hyd yn oed hirach i weld cwnselydd yn Gymraeg petawn i’n gofyn.

Roedd ceisio mynegi teimladau personol mewn iaith dw’i ddim yn teimlo’n gyfforddus yn ei siarad yn brofiad hynod o rwystredig. Mae’n ddigon anodd yn Gymraeg! Rwy’n meddwl yn Gymraeg, mae’r salwch yn digwydd yn Gymraeg, ac mae trio cyfleu hynny yn Saesneg yn teimlo’n ddieithr ac anghyfarwydd.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Gorbryder

manon-elinMae gorbryder yn aml yn cael ei gamgymryd am nerfusrwydd neu boeni gormod, ond mae’n gyflwr llawer mwy difrifol a chymhleth. 

Ges i’r panic attack cynta’ yn 2007 yn 12 oed, a hyd heddiw mae gorbryder yn rhywbeth sy’n rhan o ‘mywyd i.

Mae’r symptomau corfforol yn ddigon gwael: crynu, crychguriadau, coesau’n teimlo’n wan, teimlo ‘mod i ar fin colli rheolaeth, ma ‘nghalon i’n curo’n gynt a dwi’n ysu i ddianc.

Ond y symptom gwaetha a fwyaf brawychus o gorbryder a phanig i fi yw ‘dadwireddu’ (‘derealisation’). Mae’n deimlad o fod mewn breuddwyd, wedi datgysylltu o ‘nghorff a’r byd o ‘nghwmpas, a bod pethau’n teimlo’n ddieithr ac yn afreal. Hyd yn oed ar ôl bron deng mlynedd, dyw e ddim yn dod yn llai brawychus.

Parhau i ddarllen

Rhannu