Ymdopi gydag Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD)

dfsdfdfMae rhai ohonom yn sylwi nad ydym yn teimlo gystal yn ystod misoedd y gaeaf. Gall hyn effeithio ar ein bywyd – mae rhai yn dweud ei fod yn teimlo “fel gaeafgysgu”. Yr enw ar hyn yw Anhwylder Affeithiol Tymhorol (SAD).

Mae prif symptomau SAD yn debyg iawn i iselder, ond maent yn digwydd yn y gaeaf.

Os oes gennych SAD, efallai y byddwch yn ei chael hi’n anodd deffro ar fore yn y gaeaf, ac yn teimlo’n gysglyd yn ystod y dydd. Efallai y byddwch yn crefu am siocled a bwyd sy’n uchel mewn carbohydradau, fel bara gwyn neu fwydydd llawn siwgr. Mae SAD yn gwella yn y gwanwyn. Yn wir, mae tua thraean o bobl sydd â SAD yn cael cyfnod o deimlo fod ganddynt fwy o egni na’r arfer yn ystod y gwanwyn a’r haf.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Iselder: Sut a phryd i ofyn am gymorth

Iselder_ Sut a phryd iofyn am gymorthGall iselder fod yn salwch unig iawn. Gall ofyn am gymorth gan eraill ein helpu i gario ymlaen. Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod pryd i ofyn amdano, a sut i wneud hynny.

Pryd i ofyn am gymorth

Mae’r GIG yn dweud ei fod yn bwysig i ofyn am gymorth gan feddyg teulu cyn gynted ag ydym ni’n credu ein bod yn dioddef ag iselder. Mae amrywiaeth o symptomau yn gysylltiedig ag iselder. Mae’r rhain yn cynnwys, ond nid yn gyfyng iddynt:

  • Teimlo’n isel neu’n drist
  • Teimlo’n emosiynol yn aml
  • Hunan-barch isel
  • Teimlo’n euog
  • Diffyg cymhelliant i wneud unrhyw beth
  • Diffyg wrth wneud penderfyniadau
  • Meddyliau o hunanladdiad
  • Poenau nad ydych yn gallu esbonio
  • Diffyg cwsg neu gysgu’n ormodol

Parhau i ddarllen

Rhannu

Un Mewn Pedwar

6d5d0SiA_400x400

Dwi’n dallt.

Dwi’n gwbod sut beth ydi deffro heb egni. Dwi’n gwbod sut beth ydi dyheu ca’l mynd yn ôl i baradwys trwmgwsg, lle does ‘na’m cyfrifoldeba’, problema’ na disgwyliada’.

Dwi’n gwbod pa mor anodd ydi o i ti beintio’r wên ‘na ar dy wyneb 7 diwrnod yr wythnos. Dwi’n ‘nabod y blinder. Dwi’n ‘nabod y pwysa’. Ma’r tasgau bach yn ymddangos fel mynydd i ddringo ar rai diwrnoda’. Ma’ bob dim oeddat ti’n arfar ei fwynhau wedi troi’n llwyd. Does ‘na’m lliw. Ti’n teimlo fel bo’ chdi’m angen neb, ond ar yr un pryd, ti angen pawb. Ma’n anodd siarad am y peth.

Ti ‘sho dianc, ond ti’m isho gada’l.

Ti’n poeni lot ond eto ti’n poeni dim.

Ti ‘sho cwmni ond ti hefyd isho llonydd.

Tydi dy ora’ di byth ddigon da. (Wel, yn ôl y llais bach yng nghefn dy feddwl di beth bynnag)

Ma’n haws deud wrth bawb bo’ chdi’n “iawn sdi” na gorfod esbonio bo’ chdi’n teimlo fwy fflat na crempog. Ma’n haws beio bob dim o dy gwmpas yn lle cyfadda’ bod genti broblam. Ma’n haws smalio bo’ ‘na ddim byd yn bod, gwthio fo i’r ochr a gobeithio fydd o ‘di mynd os ti’n ei anwybyddu o ddigon. Ond dio’m yn gweithio fel ‘na. Do’dd o byth.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Chwarter o ferched ifanc 14 mlwydd oed yn ‘arddangos symptomau o iselder’ : BBC

medlYn ôl ymchwilwyr y DU, mae chwarter o ferched a bron i un ym mhob deg bachgen yn arddangos symptomau o iselder mor fuan â 14 mlwydd oed.

Roedd yn ymddangos bod hanu o gefndir tlawd neu o gefndir ethnig gwyn neu gymysg yn cynyddu’r risg.

Yn aml, nid oedd rhieni’n sylwi’r straen yr oedd eu merched yn ei brofi ond roedd ganddynt bryderon am eu meibion nad oedd y bechgyn eu hunain yn eu lleisio.

Dywedodd Dr Praveetha Patalay, y Prif Ymchwilydd o Brifysgol Lerpwl, fod plant yn eu harddegau, ac yn enwedig merched, yn wynebu mwy o anawsterau iechyd meddwl na chenedlaethau blaenorol – er nad oedd yr astudiaeth wedi ymchwilio i hyn.

Creda’r arbenigwyr y gall sawl ffactor gyfrannu, gan gynnwys straen arholiadau a phryderon am ddelwedd corfforol.

Fodd bynnag, gall y cynnydd fod o ganlyniad i well parodrwydd gan gymdeithas i gydnabod problemau iechyd meddwl.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu

Iechyd Meddwl a Cholled

#CefaisGamesgoriadYn ôl y Miscarriage Association, mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad (miscarriage). Ond does neb yn siarad am hynny.

Mae’r rheol o beidio cyhoeddi eich beichiogrwydd cyn deuddeg wythnos yn achosi straen enfawr i’r rhai sy’n profi camesgoriad, a’r disgwyliad yw i barhau â’ch bywyd fel petai popeth yn iawn. Yn anffodus, nid yw mor hawdd â hynny.

Dwi’n gwybod hyn oherwydd dwi’n un o’r rhai hynny, dwi’n un o bob pedwar, dwi wedi cael camesgoriad. Mae rhannu’r holl manylion personol hyn yn teimlo’n rhy ymwthiol i oddef, ond dwi’n teimlo dyletswydd i wneud yn y gobaith y bydd o gysur i rywun arall ac yn chwalu’r stigma sy’n bodoli.

Parhau i ddarllen

Rhannu