Adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru

_98341608_gettyimages-645276762Mae Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru.

Yn ôl yr adroddiad, mae angen mwy o fuddsoddiad i fynd i’r afael ag amrywiadau mewn gofal a gaiff ei brofi gan fenywod sy’n wynebu salwch meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl rhoi genedigaeth.

Rhybuddiodd y pwyllgor hefyd fod y diffyg gofal arbenigol i gleifion mewnol yng Nghymru, ar gyfer y rheiny sydd â’r symptomau mwyaf difrifol, yn annerbyniol.

Mae’r Aelodau Cynulliad wedi galw am ailagor uned mam a baban (MBU) yn ne Cymru – ers 2013 mae mamau wedi gorfod teithio i Loegr am wasanaeth.

Darllen rhagor : Cynulliad Cymru

Darllen yr adroddiad : Cynulliad Cymru

Iselder ôl-enedigol : meddwl.org

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu

Dim digon o gefnogaeth iechyd meddwl i famau newydd : BBC Cymru Fyw

_97114072_gettyimages-180930072
getty images

Does dim digon o gefnogaeth iechyd meddwl i famau newydd yng Nghymru, yn ôl ymgyrchwyr.

Cafodd yr unig uned seiciatryddol mam a phlentyn yn y wlad ei chau yn 2013, ac mae’n rhaid i famau nawr deithio i Loegr.

Fe ddywedodd un fam ei bod wedi cuddio ei symptomau achos pryder y byddai rhywun yn mynd â’i phlentyn oddi arni.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn buddsoddi £1.5m y flwyddyn ar wasanaethau iechyd meddwl amenedigol.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae rhwng 3,328 a 6,656 mam newydd y flwyddyn yn cael problemau iechyd meddwl ôl-enedigaeth, gan gynnwys iselder.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Gwybodaeth ar iselder ôl enedigol : meddwl.org

 

Rhannu

Newid byd: profiad o iselder ôl-enedigol

19894316_10154805549332947_389867101_nMae cadw trefn a sicrhau bod pawb yn hapus wedi bod yn bwysig i fi erioed. Dwi’n mwynhau cymdeithasu, yn mwynhau bod yng nghanol pobol, ac mae llwyddo’n bwysig. Ond wedi geni fy ail ferch yn Nhachwedd 2014, fe wnaeth popeth newid.

Roedd ‘na anhrefn, ro’n i’n casáu bod yng nghanol pobol, a do’n i’n sicr ddim yn teimlo fel mod i’n llwyddo mewn unrhyw ffordd. Ddim yn llwyddo i fod yn fam, ddim yn llwyddo i fod yn wraig, ddim yn llwyddo yn fy nyletswyddau i ofalu ar ôl y merched, ddim yn cyrraedd unman ar amser, methu bwydo’r babi, methu cadw’r tŷ yn lân, methu cael swper ar y bwrdd… ac roedd y rhestr yn ddiddiwedd. Ro’n i’n teimlo’n fethiant llwyr.

Pan anwyd fy merch, wrth gwrs ro’n i wrth fy modd. Teimlais ryddhad ei bod hi yma’n ddiogel, llawenydd bod gyda ni ferch fach arall, ac roedd cael ei dangos hi i’r byd yn fy llenwi â balchder. Wnes i ddim sylwi i ddechrau mod i’n cael cyfnodau, diwrnodau, o beidio â bod yn ‘iawn’. Ro’n i’n beio’r diffyg cwsg, y problemau gyda’r bwydo, y crio diddiwedd, y cyfrifoldeb o ymdopi â babi newydd a merch fach ddwyflwydd oedd hefyd angen fy holl sylw.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Tad ar chwâl : BBC Cymru Fyw

iselder

Ar ôl genedigaeth ei fab ddeuddeg mlynedd yn ôl, aeth byd un tad ar chwâl.

“Rwy’n cofio cael breuddwydion ar y pryd am fy ngwraig a fy mab bach. A’u bod nhw wedi marw yn y theatr,” meddai Mark Williams, sy’n 43 oed o Ben-y-bont ar Ogwr.

“Ro’n i’n cael meddyliau byw o weld y cyllyll ar y bwrdd, wrth fy ymyl i.”

Er mai gyda merched fyddai rhywun fel arfer yn cysylltu iselder ôl-geni, neu post-natal depression, mae dynion hefyd – gan gynnwys Mark – yn dioddef.

“Yn anffodus, aeth [fy ngwraig] Michelle ymlaen i ddioddef o iselder ôl-geni difrifol iawn, ac fe wnaeth hynny siglo fy myd, a newid pethau’n llwyr,” meddai Mark.

Ag yntau’n 30 oed ar y pryd, doedd ganddo ddim syniad beth oedd y salwch.

“Do’n i ddim yn adnabod neb a oedd yn dioddef o iselder ôl-geni, nag iselder nag unrhyw fath o salwch meddwl, a bod yn onest,” meddai Mark Williams.

“Roedd rhaid i mi fod yn gryf er mwyn gofalu amdani hi, a fy mab bach. Ond mewn gwirionedd, do’n i ddim mewn hwyliau da chwaith.”

“Wnes i fyth ofyn am help. Wnes i jest cadw’n dawel, yn sgil y stigma. Wnaeth fy iechyd meddwl ddirywio gymaint.

“Rhaid sicrhau bod dynion yn siarad am eu teimladau, ac yn dod i adnabod y symptomau yn gynt,” meddai Mark.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu