Cerdd i Meddwl.org: cyfraniad gan fardd Her 100 Cerdd 2017

Yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy am hanner dydd, dydd Mercher y 27ain o Fedi 2017, dechreuodd Her 100 Cerdd 2017 wrth i bedwar bardd ddod ynghyd i gyfansoddi 100 o gerddi gwreiddiol mewn 24 awr.  Beirdd 2017 yw Karen Owen, Rhys Iorwerth, Iestyn Tyne a Gwynfor Dafydd.

Gyda penblwydd cyntaf y wefan ar ei ffordd ynghyd â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10fed Hydref), addas oedd gofyn i’r beirdd gyfansoddi cerdd i ddathlu llwyddiant Meddwl.org yn ein hymgais i lenwi’r bwlch mewn gwybodaeth, cyngor a chefngoaeth sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.

Iestyn Tyne yw’r bardd a gydiodd yn yr her o fynd ati i gyfansoddi ar y testun heriol hwn, ac yn bendant fe lwyddodd.  Cyfansoddodd gerdd hyfryd ac hynod berthnasol, sy’n taro deuddeg ag ystod eang o’n cynulleidfa a’n cefnogwyr.

Hoffem ddiolch o galon i Llên Cymru am greu’r cyfle, ac yn benodol i Iestyn am ymgymryd â’r dasg hon mewn modd mor sensitif.

Mwynhewch, a rhannwch!

Cerdd: Iestyn Tyne
Cerdd: Iestyn Tyne
Rhannu

Recriwtio staff iechyd meddwl i weithio mewn ysgolion : BBC Cymru Fyw

Llun BBC Cymru Fyw
Llun BBC Cymru Fyw

Bydd arbenigwyr iechyd meddwl yn cael eu recriwtio yn benodol i weithio mewn ysgolion fel rhan o gynllun newydd gwerth £1.4m.

Mewn tair ardal wahanol bydd y staff yn gweithio law yn llaw gyda athrawon fel rhan o’r cynllun peilot gan Lywodraeth Cymru.

Byddant yn cynnig cymorth i ddisgyblion sy’n isel eu hysbryd; yn bryderus neu’n bygwth niweidio’u hunain.

Y bwriad ydy cynnig help yn gynnar mewn ysgolion er mwyn atal unrhyw broblemau mwy difrifol wrth iddyn nhw dyfu’n hŷn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu