Comisiynydd y Gymraeg yn galw am fwy o siaradwyr Cymraeg ym maes iechyd meddwl

Meri Huws

Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae canran y staff ym maes iechyd meddwl sy’n gallu siarad Cymraeg yn isel iawn – gyda’r ganran cyn ised â 1.9% mewn rhai byrddau iechyd.

Yn ystod trafodaeth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws fod hyn yn ‘annerbyniol, eilradd a pheryglus’ a rhannwyd profiadau personol dioddefwyr oedd wedi gorfod trafod eu pryderon a’u meddyliau tywyllaf yn eu hail iaith.

Yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws:

“Gan nad yw iechyd meddwl yn rhywbeth y gallwch ei weld, mae’n rhaid siarad i gyfleu a disgrifio’r teimladau a’r meddyliau tywyllaf a mwyaf personol – ac mae gwneud hynny mewn ail iaith yn boen a straen ychwanegol nad yw claf bregus ei angen.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

Samariaid yn ceisio cynnig gwasanaeth Cymraeg : Golwg360

Samaritans_Cymru_RGB_logoMae’r Samariaid yng Nghymru yn gobeithio gallu cynnig gwasanaeth 24 trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond, mae un arweinydd lleol wedi pwysleisio y bydd angen rhagor o wirfoddolwyr sy’n medru’r iaith er mwyn i’r elusen llinell argyfwng allu cyflawni hynny.

Y gobaith yw cyfuno adnoddau mewn gwahanol fannau ar hyd a lled y wlad, meddai Elwyn Jones, un o arweinwyr y Samariaid ym Mangor.

“Mae’r Samariaid yn ganolog yn gwneud ymchwil rŵan i ffeindio faint o siaradwyr Cymraeg sydd mewn canolfannau eraill er mwyn cynnig gwasanaeth llawn.”

“Mae o’n hollol bwysig gallu cynnig gwasanaeth Cymraeg nid yn unig o ran egwyddor ond er mwyn cynnig gwasanaeth go iawn,” meddai Elwyn Jones. “Dydi pobol mewn argyfwng yn aml ddim yn gallu mynegi eu hunain yn iawn yn Saesneg.

Darllen rhagor : Golwg360

Llinell ffôn Gymraeg y Samariaid : 0808 164 0123 (7pm i 11pm, 7 diwrnod yr wythnos)

Llinell ffôn Saesneg y Samariaid : 116 123 (24/7)

Rhannu

Annerbyniol, eilradd, peryglus: gwasanaeth iechyd meddwl mewn ail iaith

Meri HuwsBob hyn a hyn mae rhywun yn gweld neu’n clywed rhywbeth sy’n creu argraff, sy’n gymysgedd o ysgytwad ac ysbrydoliaeth, ac sy’n ei wneud yn fwy penderfynol nag erioed i weithredu er mwyn gwella pethau.

Profiad o’r fath ges i un prynhawn Gwener gwlyb yn ddiweddar. Y lleoliad oedd y tu allan i stondin Cymdeithas yr Iaith ar faes Eisteddfod yr Urdd a’r pwnc dan sylw oedd pwysigrwydd gofal iechyd meddwl yn Gymraeg.

Criw bychan ohonom oedd yno – â phawb, rwy’n tybio, yn rhannu’r un farn ynglŷn â phwysigrwydd darparu gwasanaethau iechyd meddwl yn y Gymraeg. Er hynny, roedd clywed y siaradwyr yn dweud eu stori yn brofiad dirdynnol. Gadawodd gadernid a dewrder y bobl hyn, sawl un ohonyn nhw’n bobl ifanc, argraff ddofn arna i, a bydd eu geiriau yn aros gyda fi.

Roedd y cyflyrau a’r salwch yn amrywio, ond roedd y profiadau’n gyson. Methu â chael gwasanaeth iechyd meddwl yn y Gymraeg.

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna?”

IMG_20160430_103050

“Ti yn y lle mwyaf bregus…pam gosod rhwystr yna? Dyna pryd ma’ iaith yn dod yn rhwystr, ond dyna pryd ddylia iaith fyth fod yn rhwystr.”

Pan ddois i wybod am wefan meddwl.org, ro’n i’n eithriadol o falch a diolchgar i’r sylfaenwyr am greu adnodd mor angenrheidiol.  Mae’n rhyfedd a dweud y gwir dydi, sut ein bod ni’n ymateb i adnodd Cymraeg fel tasa ni ‘di darganfod aur, a ninna’n cymryd y mynydd o adnoddau Saesneg yn gwbl ganiataol.

Yn anffodus, dyma adlewyrchiad perffaith o’r sefyllfa yn ei chyfanrwydd.  ‘Da ni gyd yn gwybod am fodolaeth gwasanaethau iechyd meddwl, am psychiatrists, psychologists, counsellors, meds. Ond gofynna am seiciatrydd, seicolegydd neu gwnselydd, ac mi wyt ti wirioneddol yn cloddio am aur.

Beth am y rheiny felly sydd angen gwasanaethau iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg?

Penderfynais fynd ati i gwblhau darn o waith ymchwil ar arferion ac anghenion cyfathrebu siaradwyr Cymraeg wrth iddyn nhw dderbyn gwasanaethau iechyd meddwl yng Ngwynedd fel rhan o’m cwrs MA yn 2015, ac roedd canfyddiadau arwyddocaol sy’n gofyn am newid.

Darllen mwy….

 

Rhannu

Cyfrol yn torri tabŵ galar a chynnig cymorth ymdopi yn Gymraeg : Y Lolfa

galar-a-fi-esyllt-maelorMae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri’r tabŵ sydd o amgylch galar gan gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r rhai sydd yn ymdopi ag ef.

Mae Galar a Fi yn cynnwys ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar – a’r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â’u galar. Mae’r ymatebion i galar yn y gyfrol yn amrywio o gerddi, llythyron, dyddiadur, ysgrifau i straeon byrion.

Golygwyd y gyfrol gan Esyllt Maelor, sydd wedi profi galar ei hun.

Daw’r llyfr ar ôl cyhoeddi Gyrru drwy Storom (y Lolfa) yn 2015 – cyfrol oedd yn cyflwyno profiadau dirdynnol o fyw trwy salwch meddwl.

“Yn ei rhagair i’r gyfrol honno nododd Alaw Griffiths iddi fethu dod o hyd i wefannau a llyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg. A does dim byd bron ar gael yn y Gymraeg am alar chwaith,” eglurodd Esyllt. “Os yw darllen yn un ffordd o gwnsela, roeddwn am ddarllen yn Gymraeg. Cwestiynau cwnsela oedden nhw, a minnau eisiau atebion, eisiau gwybod.”

“Fel gyda salwch meddwl, mae tabŵ yn perthyn i alar hefyd. Ymgais i roi llais i’r di-lais yw’r gyfrol hon,” meddai Esyllt.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Diffygion difrifol gwasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg : Cymdeithas yr Iaith

urdd manon 3Mae diffyg darpariaeth ddigonol o wasanaethau iechyd meddwl yn Gymraeg, dyna oedd neges ymgyrchwyr mewn digwyddiad ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (2 Mehefin).

Cafodd gwefan meddwl.org, y wefan iechyd meddwl Gymraeg, ei lansio yn swyddogol yn ystod y digwyddiad ar stondin Cymdeithas yr Iaith. Mae’r wefan yn cynnwys manylion cyswllt elusennau all gynnig cymorth iechyd meddwl drwy gyfrwng y Gymraeg, gwybodaeth am gyflyrau iechyd meddwl, blogiau am brofiadau unigolion, fforwm drafod, ac adran newyddion –  i gyd yn Gymraeg.

Ychwanegodd Hedydd Elias, a fu’n siarad am ei phrofiadau yn ystod y digwyddiad:

Dros y ddegawd rwyf wedi bod yn derbyn cymorth a thriniaeth iechyd meddwl, dim ond unwaith rwyf wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg a hynny gyda chwnselydd ysgol; dyw hyn ddim yn ddigon da, dylai cymorth craidd fod ar gael yn y Gymraeg i’r rheiny sydd yn ei mofyn. Roedd fy apwyntiad gyntaf, pan roeddwn yn 12eg mlwydd oed, gyda seiciatrydd plant doedd ddim yn medru’r Gymraeg; nid yn unig doedd hyn ddim yn deg i berson bregus, ond doedd ddim yn deg ar blentyn doedd ddim gyda geirfa digon eang i ddeall popeth oedd yn cael ei ddweud. Erbyn heddiw, mae’n well gen i siarad am fy iechyd meddwl yn Saesneg, achos yn Saesneg rwyf wedi derbyn cymorth dros y ddegawd diwethaf. Credaf yn gryf byddai pethau’n wahanol pe byddwn wedi derbyn cymorth drwy’r Gymraeg o’r cychwyn.’

Darllen rhagor : Cymdeithas yr Iaith

Rhannu

Lansiad meddwl.org : David Williams

‘Ma’ iaith yn bwysig, ma’ wir yn gallu achub bywydau’

David yn sôn am ba mor anodd yw siarad am broblemau iechyd meddwl, a pha mor bwysig yw gallu gwneud hynny yn eich dewis iaith

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Lansiad meddwl.org : Hedydd Elias

‘Pam ydw i wedi gorfod dod yn gyfarwydd gyda derbyn triniaeth a chymorth ar gyfer mater fi ddim hyd yn oed yn deall drwy iaith sy’n anghyfarwydd i fi?’

Hedydd Elias yn rhannu ei phrofiadau, gan esbonio pa mor anodd yw cael triniaeth a chymorth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu