Profiad hunan-niweidio: ‘Cwbl rydym eisiau yw diflannu’ : BBC Cymru Fyw

Mae Angharad May yn 28 oed, ac wedi bod yn anafu ei hun ers yn chwech oed. Gallwch gwrando arni’n siarad am ei phrofiadau ar Radio Cymru yma.

Mae’r heddlu yng Nghymru yn galw am well addysg iechyd meddwl mewn ysgolion ar ôl cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n cael eu cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae Samariaid Cymru hefyd wedi dweud eu bod nhw wedi gweld mwy o bobl ifanc yn dioddef o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta a hunan-niweidio.

Rhannu

Beirniadu S4C am beidio rhoi rhybudd cyn dangos hunan-niweidio : Golwg360

Ymwadiad: Mae’r erthygl hon yn cyfeirio at hunan-niweidio. Gallai’r tudalennau yma fod o gymorth: cymorthTechnegau ymdopi gyda hunan-niweidio. 

Llun: S4C

Mae S4C wedi cael ei chyhuddo o fod yn “ansensitif” ac yn “anghyfrifiol”, ar ôl peidio â rhoi rhybudd i wylwyr ar ddechrau cyfres ddrama newydd sy’n cynnwys golygfeydd o hunan-niweidio.

Yn ôl un gwyliwr, mae un olygfa yn y rhaglen sy’n dangos cymeriad yn niweidio ei hun mewn ôl fflachiad, wedi achosi gofid iddi, ac mae’n gresynu nad oedd S4C wedi rhoi rhybudd i’r gwylwyr ar ddechrau neu ar ddiwedd y rhaglen.

Yn ôl Hedydd Elias o Aberystwyth, er iddi gael ei rhybuddio gan ffrind am yr olygfa dan sylw, roedd y profiad o’i gwylio yn dal yn “sioc” iddi:

“Dw i’n ei weld braidd yn anghyfrifol ac ansesitif i ddangos yr olygfa heb roi rhybudd ar ddachre’r rhaglen. Gallith e fod yn trigger i rywun. Mae’n rhywbeth anodd i’w weld os ydych chi mewn lle bregus – gallith e wir effeithio ar rywun.

“Dw i’n deall pam nethon nhw ddangos e, achos bo pobol ishe shock factor ac yn y blaen, ond ro’n i’n meddwl ei fod e’n ddiangen. Os oedden nhw’n mynnu cadw’r olygfa yn y rhaglen, sef yr hyn naethon nhw, fe ddylen nhw’n bendant wedi dweud bod yna olygfeydd anodd i’w gwylio yn y rhaglen, jyst er mwyn i bobol fod yn ymwybodol a gallu gwneud y penderfyniad, ‘wel dw i ddim eisiau gweld rhywbeth na fydda i’n gallu ymdopi ag e’.

“Fe ddylai’r rhybudd fod yna, dw i’n credu.”

Parhau i ddarllen

Rhannu

Technegau ymdopi gyda hunan-niweidio

23416151_10155753919630011_1702957728_n

Rhybudd: mae’r tudalen hwn yn cynnwys gwybodaeth am hunan-niweidio all eich atgoffa o deimladau anodd.

Fe all hunan-niweidio deimlo fel ffordd o ymdopi gyda rhywbeth anodd, ond mae yna ffyrdd arall o ymdopi. Pan fyddwch yn cael teimladau sy’n eich gwneud eisiau hunan-niweidio, mae’n dda ffeindio ffordd gwahanol o ymdopi.

Beth i wneud os ydych yn teimlo…

Yn unig neu’n ynysig

Beth am: siarad â rhywun, ysgrifennu eich teimladau, mynd a’r ci am dro, lapio eich hunan mewn blanced, cwrdd â ffrind, neu gwneud ymarfer corff.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Plant mor ifanc â chwech oed wedi hunan niweidio : BBC Cymru Fyw

_92886217_2ed50340-927e-416d-85b8-642b7e224bdbMae plant mor ifanc â chwech oed wedi hunan niweidio mewn ysgolion yng Nghymru, yn ôl ymchwil gan BBC Cymru.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro bod 48 digwyddiad yn ei ysgolion yn 2016-17 – wyth oedd y ffigwr yn 2014-15 – a’u bod oll wedi eu cyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol. Roedd yr ieuengaf o’r 48 yn chwe blwydd oed.

Mae undeb addysg yr NEU wedi annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno swyddogion llesiant mewn ysgolion. Dywedodd y llywodraeth bod yr ysgrifennydd addysg a’r ysgrifennydd iechyd wedi cynnal trafodaethau ac y byddan nhw’n gwneud “cyhoeddiad pwysig yn fuan”.

Cymru yw’r unig wlad yn y DU ble mae’n rhaid i ysgolion gynnig gwasanaethau cwnsela i blant ysgol uwchradd, ond dywedodd Comisiynydd Plant Cymru bod hynny bellach “ddim yn ddigon”.

“Rydyn ni, mwy na thebyg, angen therapyddion mewn ysgolion gydag amryw o wahanol sgiliau a chefnogaeth,” meddai’r Athro Sally Holland.

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Gwybodaeth am hunan-niweidio, gan gynnwys manylion ar sut i gael cymorth

Rhannu

Bywyd dau begwn : BBC Cymru Fyw

_96682900_gwen1

Mae mawr angen siarad yn fwy am anhwylder deubegwn (‘bipolar disorder’), yn ôl un fenyw o Gwmbrân.

“Mae’n syndod i fi fy mod i’n dal i fod yn fyw, gyda rhai o’r eithafion isel dwi wedi eu profi,” meddai Gwen Goddard, 30.

Yr unig wahaniaeth rhwng iselder ac anhwylder deubegwn, meddai Gwen, yw’r eithafion uchel. Ac weithiau, mae mynd i’r uchelfannau hynny’n gallu bod yn beryglus.

“Ges i ddim diagnosis iawn nes i mi fod yn tua 25 mlwydd oed ar ôl sawl blwyddyn o ddioddef cylchredau’r salwch.”

“Does dim digon yn cael ei wneud o gwbl, ond yn anffodus bai ar lywodraeth a chyllid ydy hynny,” meddai Gwen.

Pam fod yna dal cymaint o stigma o gwmpas? Pam fod yna dal gymaint o ddiffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol? Pam fod rhaid i unigolion aros am fisoedd er mwyn cael gweld rhywun ynglŷn â’u problemau, ac wedyn weithiau misoedd arall ar ben hynny cyn gweld unrhyw un am driniaeth?

“Heb sôn am y nifer sydd yn ei gweld hi’n anodd trafod eu problemau trwy gyfrwng y Saesneg. Os ydyn nhw eisiau gweld rhywun trwy gyfrwng y Gymraeg, ry’n ni’n sôn am fwy o amser aros eto,” meddai. “Mae hyn yn ystod adeg lle nad ydy llawer o’r bobl sy’n dioddef yn teimlo’n ddigon cryf i frwydro, i fynnu gwasanaethau’n gyflymach neu yn y Gymraeg. Dyw’r sefyllfa ddim yn ddigon da.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Lansio cynllun newydd i amddiffyn pobl ifainc sy’n hunan-niweidio : Cambrian News

aj230317-self-harmBydd gan bob ysgol uwchradd yn Nwyfor Meirionnydd o leiaf dau aelod o staff sydd wedi eu hyfforddi i helpu myfyrwyr sydd mewn perygl o niweidio eu hunain. Bob blwyddyn bydd cannoedd o bobl ifanc yng Nghymru yn hunan-niweidio, ac yn aml yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw le i fynd i ofyn am gymorth.

Er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon, bydd pob ysgol uwchradd yn yr etholaeth yn cyd-weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ogystal â gwasanaethau addysg Gwynedd a Môn, er mwyn gwella’r gofal a ddarperir i fyfyrwyr sydd mewn perygl o hunan-niweidio. Bydd yr ysgolion yn cyd-weithio gyda Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS) y bwrdd iechyd lleol er mwyn adnabod myfyrwyr sydd mewn perygl, a sicrhau eu bod yn derbyn y gefnogaeth fwyaf effeithiol.

Wrth siarad yn lansiad y cynllun yn ddiweddar, dywedodd Elin Sanderson, uwch ymarferydd addysg / CAMHS sydd ynghlwm â’r cynllun:

“Gall hunan-niweidio olygu bod pobl ifainc yn niweidio eu hunain fel ffordd i ddygymod â theimladau anodd, atgofion poenus neu sefyllfaoedd llethol a phrofiadau sy’n teimlo allan o’u rheolaeth. Rydyn ni’n gwybod bod hunan-niweidio ymhlith pobl ifainc yn broblem sy’n cael ei chuddio i raddau helaeth, ac ymddengys ei fod ar ei waethaf yn ystod llencyndod, felly mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n gweithio gydag ysgolion er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt ar y cyfle cynharaf posib.”

Erthygl wreiddiol : Cambrian News

Rhannu

‘Hunan niweidio yn waeth nag mae’n ymddangos’ : Golwg360

dideitl

Yn dilyn cyhoeddiad ystadegau gan yr NSPCC mae Comisiynydd Plant Cymru yn dadlau bod hunan niweidio yng Nghymru yn waeth nag mae ystadegau yn awgrymu.

Mae Sally Holland wedi dweud wrth golwg360 mai ond “cyfran fach o blant sydd yn hunan niweidio” sydd yn niweidio’i hunain gymaint bod yn rhaid iddyn nhw fynd i’r ysbyty, sy’n golygu gall fod y ffigwr llawer uwch nac mae ystadegau yn awgrymu.”

Dywedodd mai “nifer isel o’r plant sydd yn niweidio’i hunain sydd gorfod mynd i’r uned damwain ac argyfwng, a’r ysbyty” a gan fod “hunan niweidio yn aml yn weithred breifat a chudd” mae ehangder y broblem mwy na thebyg heb ei hadlewyrchu yn iawn yn adroddiad yr NSPCC.

Mwy: Golwg360

Mae manylion cyswllt elusennau allai gynnig cymorth os ydych chi, neu rhywun sy’n agos atoch, yn hunan-niweidio yma

Rhannu

Pryder am achosion cynyddol o blant yn hunan-niweidio : BBC

_92886217_2ed50340-927e-416d-85b8-642b7e224bdb

Mae o leiaf 3,000 o blant yng Nghymru wedi cael triniaeth ysbyty yn ystod y tair blynedd diwethaf ar ôl hunan-niweidio, yn ôl ffigyrau gan yr NSPCC.

Mae ystadegau gan fyrddau iechyd wnaeth roi gwybodaeth ar gyfer ymchwil yr elusen yn dangos fod o leiaf 1,193 o blant a phobl ifanc yng Nghymru wedi cael triniaeth ar ôl niweidio ei hunain y llynedd.

Mae hynny yn gynnydd o bron i 350, neu 41%, yn y tair blynedd diwethaf.

Mae’r NSPCC yn disgrifio’r ffigyrau fel rhai “pryderus

Mwy: bbc.co.uk/cymrufyw/

Mae manylion cyswllt elusennau allai gynnig cymorth os ydych chi, neu rhywun sy’n agos atoch, yn hunan-niweidio yma

Rhannu