“Dim cywilydd mewn llefain” : BBC Cymru Fyw

_98696604_gwenanRoedd colli Ray Gravell yn ergyd fawr i nifer o Gymry, ond doedd y golled yn ddim i’w chymharu â’r golled bersonol i Mari, ei wraig, a’i ferched, Manon a Gwenan.

Dim ond naw oed oedd Gwenan pan fu farw ei thad, ac roedd Manon yn 12. Ddeng mlynedd ers ei phrofedigaeth mae Gwenan, sy’n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn trafod ei phrofiad o ddelio gyda galar a’r angen am gefnogaeth i blant eraill yng Nghymru sy’n canfod eu hunain mewn sefyllfa debyg.

 


Rhannu

“Mae hi’n iawn i grio” : BBC Cymru Fyw

_96284766_39960f99-bdcb-4fbf-841b-5d52dfb4d850Mae hi wedi bod yn bum mis anodd i Rebecca Williams a’r plant ar ôl colli Irfon Williams fis Mai.

“Mae’n bwysig iawn siarad am alaru a bod yn onest. Mae galar yn brofiad anodd iawn, mae’n cael effaith mawr ar y corff a iechyd meddwl. Mae’n bwysig i bobl siarad am hynny a bod yn onest.Mae’n bwysig i grio, mae’n bwysig i adael i’r emotions fynd allan. Y neges dwi’n ceisio rhoi i’r hogiau ydy ei bod hi’n iawn i hogyn mawr i grio ac i ddweud dy fod ti’n teimlo’n drist. I ddweud fod ti’n methu Dad. Hynna ydy’r peth dewr i’w wneud.

“Dwi ddim yn licio’r neges, ‘tyrd rŵan, hogyn mawr, paid â crio’… ‘di hwnna ddim yn iawn, ac mae ‘na dal stigma o gwmpas crio dwi’n meddwl, yn enwedig efo hogia.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Gwybodaeth am Brofedigaeth a Galar ar meddwl.org

Rhannu

Iechyd Meddwl a Cholled

#CefaisGamesgoriadYn ôl y Miscarriage Association, mae un o bob pedwar beichiogrwydd yn dod i ben drwy gamesgoriad (miscarriage). Ond does neb yn siarad am hynny.

Mae’r rheol o beidio cyhoeddi eich beichiogrwydd cyn deuddeg wythnos yn achosi straen enfawr i’r rhai sy’n profi camesgoriad, a’r disgwyliad yw i barhau â’ch bywyd fel petai popeth yn iawn. Yn anffodus, nid yw mor hawdd â hynny.

Dwi’n gwybod hyn oherwydd dwi’n un o’r rhai hynny, dwi’n un o bob pedwar, dwi wedi cael camesgoriad. Mae rhannu’r holl manylion personol hyn yn teimlo’n rhy ymwthiol i oddef, ond dwi’n teimlo dyletswydd i wneud yn y gobaith y bydd o gysur i rywun arall ac yn chwalu’r stigma sy’n bodoli.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu

18813683_10211383724846268_6592034178850789351_nProfedigaeth. Yn anffodus, dio’m yn wbath fedrith rywun osgoi. Ond eto’i gyd, mae o’n dipyn o bwnc tabŵ o fewn ein cymdeithas dwi’n teimlo. Ma’n effeithio pawb, ond dewis cadw fo i ni’n hunain yda ni.

‘Nath o gymryd blynyddoedd imi allu siarad yn agored yn dilyn y profedigaeth cynta’ geshi. ‘Doni methu dirnad â’r peth. Dwi’n berson sy’n teimlo bron popeth i’r byw, a dwi dal ddim yn siwr os ‘di hynny’n beth da neu ddim i fod yn onest. Ar un llaw, ma’n dangos bo’ chi’n poeni am bobl ac ella’n fwy emotionally intelligent na’r person cyffredin, ond ar y llaw arall, mae’n gallu’ch g’neud chi’n fwy agored i niwed.

Wrth gwrs, mae galar yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Mae’n achosi teimlad o unigrwydd llethol, ac mewn rhai achosion, mae hynny’n gallu datblygu i iselder. Ma’ gorfod dysgu byw heb rywun oedda chi’n meddwl y byd ohonyn nhw, a mynd yn ôl i normal yn uffernol o tough. Ond yn amlwg, fedrith petha’ byth fynd ‘yn ôl i normal’.Ma’ popeth yn newid. Mae’r ddeinameg yn wahanol. Pan ‘dach chi’n ca’l newyddion da neu efo rhyw gossip diddorol i rannu – tydi’r person ‘dach chi isho deud wrth fwya’, ddim yno. Tydi achlysuron arbennig byth ‘run peth – ‘Dolig/penblwydd yn enwedig. Ma’ rheiny’n gallu bod yn anodd ofnadwy i ddeud gwir – ma’na gymaint o bwyslais ar yr elfen deuluol ac ati, mae o fatha bo’ chi’m yn ca’l bod yn drist ar yr adega’ hyn, mae o’n erbyn y rheola’.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Galar a Fi – Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru? : Y Lolfa

Daw’r darn isod o gyfrol newydd Y Lolfa, ‘Galar a Fi‘, sy’n trafod profiadau ingol o fyw gyda galar.

Beth ddylwn i ei ddweud wrth rywun sy’n galaru?

galar-a-fi-esyllt-maelorMae geiriau fel hyn yn gallu brifo:

Maen nhw yn well eu lle.

Rhaid i ti symud mlaen.

Dwi’n deall sut wyt ti’n teimlo.

Paid â bod yn ddigalon.

Rhaid i ti ddechrau mynd allan eto.

Mae angen i ti ailafael mewn pethau.

Byddi di’n well ar ôl y flwyddyn gyntaf.

Bydd pethau’n gwella gydag amser.

Mae yna reswm tu ôl i bopeth.

Mi gei gau’r drws rŵan, yn cei.

Bydd ddewr.

Paid â throi pob dim yn dy feddwl.

Mi ddoi di drosto.

Ti yw ‘dyn’ y tŷ rŵan. Rhaid i ti fod yn gefn i…

Parhau i ddarllen

Rhannu

“Nerth mewn galar” : BBC Cymru Fyw

_97083457_eifionarteuluYm mis Hydref y llynedd bu farw Eifion Gwynne wedi iddo gael ei daro gan gar yn Sbaen. Roedd yn 41 oed, yn drydanwr adnabyddus, yn gyn-chwaraewr rygbi ac yn briod â thri o blant ifanc.

Yr wythnos hon mae cyfrol, Galar a Fi, yn cael ei chyhoeddi sy’n cynnwys cyfraniadau gan 14 o bobl sydd wedi profi galar. Un o’r cyfranwyr ydy Nia Gwyndaf, gweddw Eifion, ac mae hi’n rhannu ei stori gyda Cymru Fyw.

Darllenwch am ei phrofiad ar BBC Cymru Fyw

Gwybodaeth am Brofedigaeth a Galar ar meddwl.org

Rhannu

Cyfrol yn torri tabŵ galar a chynnig cymorth ymdopi yn Gymraeg : Y Lolfa

galar-a-fi-esyllt-maelorMae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri’r tabŵ sydd o amgylch galar gan gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i’r rhai sydd yn ymdopi ag ef.

Mae Galar a Fi yn cynnwys ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar – a’r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â’u galar. Mae’r ymatebion i galar yn y gyfrol yn amrywio o gerddi, llythyron, dyddiadur, ysgrifau i straeon byrion.

Golygwyd y gyfrol gan Esyllt Maelor, sydd wedi profi galar ei hun.

Daw’r llyfr ar ôl cyhoeddi Gyrru drwy Storom (y Lolfa) yn 2015 – cyfrol oedd yn cyflwyno profiadau dirdynnol o fyw trwy salwch meddwl.

“Yn ei rhagair i’r gyfrol honno nododd Alaw Griffiths iddi fethu dod o hyd i wefannau a llyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg. A does dim byd bron ar gael yn y Gymraeg am alar chwaith,” eglurodd Esyllt. “Os yw darllen yn un ffordd o gwnsela, roeddwn am ddarllen yn Gymraeg. Cwestiynau cwnsela oedden nhw, a minnau eisiau atebion, eisiau gwybod.”

“Fel gyda salwch meddwl, mae tabŵ yn perthyn i alar hefyd. Ymgais i roi llais i’r di-lais yw’r gyfrol hon,” meddai Esyllt.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Colled Cudd

14961572_10154693340207070_1962823455_nNid yn aml byddaf yn trafod fy emosiynau, ond yn dilyn iselder difrifol, dwi’n meddwl bod angen.

Byddai’n syndod i sawl un sy’n nabod fi fel person gwenog, ond dw i wedi diodde’n fawr o iselder dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf. Yn aml, mae salwch meddwl yn peth preifat iawn, cyn i’r sefyllfa mynd yn annioddefol.

Nes i fyth wir atgyfodi ar ôl colli ffrind mewn damwain car ar ddiwedd 2013, ac roeddwn yn stryglo gyda bron popeth. Roedd safon fy ngwaith a fy ngallu i ganolbwyntio ar unrhyw beth yn sylweddol is, ac roeddwn yn flinedig ac heb mynadd yn weddol gyson. Ar y blwyddiant cyntaf, mi oeddwn i’n sâl iawn am gyfnod go sylweddol er enghraifft. Erbyn wythnos cyn yr ail blwyddiant, ro’n i mewn cyflwr waeth hyd yn oed. Ro’n i’n eistedd yn ddifywyd am gyfnodau o 20 munud ar y tro, crynu’n gyson ac nes i ddechrau tripio wrth gerdded a dringo grisiau.

Parhau i ddarllen

Rhannu