Ydy cymdeithas ar fai?

Mae’r gair ei hun yn un crac a blêr. Mae yna ddicter yn y gair a dyna sut dwi yn edrych ar iechyd y meddwl. Nid Iechyd Meddwl ond iechyd *y* meddwl. Iechyd sydd yn perthyn i’r meddwl. Dwi’n dod o gyfnod y punks ble roedd y neges yn y gerddoriaeth ac yn y wisg.

Capel ar y Sul a safety pins gweddill yr wythnos! As if! Na, os dwi’n debyg i chi dwi’n hanu o deulu a thraddodiad parchus Cymraeg, ond dydy iechyd y meddwl ddim yn barchus.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cerdded a Gweithio

Ben WimbushMae’r dyn yma, Ben Wimbush, yn ysbrydoliaeth i mi. Mae o yn anfon negeseuon i mi ar y cyfryngau cymdeithasol i ofyn a ydwyf wedi gwneud fy #20isplenty – ugain munud o ymarfer corff bob dydd. Ar ôl neges ddoe mi es i allan i gerdded llwybr cyhoeddus yng Ngheredigion a sylweddoli fod o’n iawn.

Roedd ugain munud yn ddigon i wneud i mi deimlo’n well. Felly dyma fi yn cyfieithu #20isplenty i #20ynddigon a deud wrth Ben faswn yn ceisio ysgogi fy nghyd Gymry i ddilyn y mantra.

Gyda gwaith a chyfrifoldebau a bwyta a siopa mae’n hawdd anghofio fod ymarfer corff ym mha bynnag ffordd yn gallu fod yn iachus iawn i’r enaid ac i’r meddwl. Dwi ddim yn or-hoff o bethau ffurfiol felly cerdded yw fy newis i o ymarfer corff. Ble bynnag allai mi gerdda’i.

Nid oes gan Ben y dewis yna, felly ar ei beiriant ymarfer corff aiff o bob dydd ac ar ei wefannau mae o yn dangos ac ysgogi pobol eraill ac yn deud “os allai wneud o allwch chi”.

Mae mor hawdd mewn pwl o iselder i wneud dim. Dim dewis ydy iselder ond mae o yn ddewis i frwydro fo neu beidio yn fy mhrofiad i. Mi allwn i gymryd y tabledi a thynnu yn ôl o fywyd, eistedd ar y soffa a gadael i’r meddyliau pyli. Mae ‘na le i hwnna ond hefyd mae ‘na le i gerdded ac i seiclo ac i yoga.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Dwi’n ddig Mary Ellen, dwi’n ddig!

Jack-PleasantsDwi’n ddig, dim fel y dug Caeredin wrth gwrs ond mae o yn ddyn digon dig ei hunan. Mae dicter ac anfodlonrwydd yn cwrso trwy fy ngwythiennau ac dwi am gymryd perchnogaeth o’r teimlad hollol naturiol yma.

Rydym wedi cael ein hannog i guddio ein dicter. Dydy o ddim yn rhywbeth i ddangos yn gyhoeddus ond faint o bobol sydd yn ddyddiol ar fin berwi drosodd fel sosban fach yn berwi ar y tân neu sosban fawr yn berwi ar y llawr?

Yn America mae o yn fis ymwybyddiaeth iechyd meddwl, yn y deyrnas ranedig gawn ni wythnos, ag yn ôl y sôn fydd S4C yn dangos rhaglenni am y pwnc. Ni fyddaf yn gweld yr un oherwydd dwi’n beio’r peiriant propaganda yma am achosi gymaint o anfodlonrwydd a dicter yn y byd. Y gobaith nol yn 1982 oedd fasa mwy o Gymraeg ar y cyfryngau yn annog mwy o bobol i siarad Cymraeg yn eu bywyd bob dydd ond yn anffodus efelychu’r diwylliant Eingl Americanaidd arwynebol mae o wedi gwneud.

Oherwydd dwi ddim yn defnyddio meddyginiaeth i fy nghyflwr iechyd meddwl bellach mae fy nheulu annwyl wedi bod yn dyst i ‘angry outbursts’. Dwi fel matchen chi! Chwythu fyny ar y pethau mwyaf dibwys ond dwi yn gweld o’n llesol. Dim iddyn nhw wrth gwrs, ond mae o allan o fy system yn syth yn lle mwydro fy mhen fel yn yr hen ddyddiau ac wedyn cymryd cyffuriau i dawelu beth sydd yn hollol naturiol. Dicter! Anger!

Parhau i ddarllen

Rhannu