Clywed Lleisiau; beth sydd o gymorth?

Ymwadiad: Mae gwrthiselyddion yn driniaeth gyffredin ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl, ac mae’n bwysig iawn trafod hyn gyda’r meddyg ac i beidio â stopio cymryd tabledi eich hunain.

Mae’n siŵr eich bod wedi clywed am rai sy’n clywed lleisiau nad oes neb arall yn eu clywed neu gweld pethau sy’n anweledig i bawb arall neu, hyd yn oed, teimlo cyffyrddiad pan nad oes neb yn bresennol. Beth yw eich barn am hyn tybed? Eu bod yn bobl sy’n dioddef o gyflyrau dwys? Nad ydyn nhw o’ch cwmpas chi ac nad ydych yn adnabod neb sy’n dioddef fel yna?

Efallai y cawn ni i gyd sioc o ddeall peth mor gyffredin ydi ‘lleisiau’ fel hyn. Ac ar ben hynny, nad ydi hyn yn gyfyngedig i rai sy’n byw â phroblemau iechyd meddwl yn unig. Mae’n brofiad eithaf cyffredin ond, er hynny, yn brofiad cyfrinachol iawn. Pam hynny tybed? A ydym ni, nad ydym yn clywed lleisiau fel hyn, yn ofnus o unrhyw un sy’n ddigon dewr i gamu ‘mlaen a dweud yn onest am eu profiad? Mae’n amser i ni fod yn agored a derbyn ein bod, fel unigolion, yn wahanol i’n gilydd. Mae’n bryd hefyd i ni groesawu unrhyw un sy’n fodlon rhannu eu profiad a derbyn yr hyn a ddywedant fel ffaith. Ydych chi’n cofio’ch ffrind dychmygol pan oeddech yn blentyn ifanc? Mi fydde hwnnw’n cael eich sylw ac yn ennyn sgwrs hirfaith ar brydiau. Beth sy’n digwydd i chi mewn hunllef ganol nos? Oni fyddwch yn gwrando ar leisiau adeg hynny ac yn ymateb gyda geiriau, sy’n dawel yn eich meddwl gan amlaf, ond sydd dro arall i’w glywed gan eraill o’ch cwmpas? Fe dderbyniwn y ffrind dychmygol a’r cnaf mewn hunllef …….pam bod oedolyn effro sy’n clywed lleisiau yn ein dychryn gymaint tybed? Beth allwn ni ei wneud i fod yn fwy derbyniol o’r sefyllfa?  Parhau i ddarllen

Rhannu