Brwydro anorecsia

_98280998_charlotte1Mae bywyd yn frwydr i un fyfyrwraig o Gaerfyrddin, a hynny ers iddi ddioddef o afiechyd bwyta am flynyddoedd.

Er bod Charlotte May bellach ar y llwybr at wellhad, a’i phwysau hi mewn man diogel, dyw bywyd ddim yn fêl i gyd.

“Dwi’n teimlo fel person drwg, ac nad ydw i’n haeddu dim byd mewn bywyd,” meddai’r ferch 26 oed, sydd wedi bod yn sâl ers oedd hi’n 11 oed.

“Dwi’n brwydro bob dydd, ond dydy pobl ddim yn ystyried hynna o gwbl.

“Mae wedi bod yn ofnadwy, ac ar un pwynt, ro’n i’n meddwl y byddai fy nghalon yn stopio, ond ro’n i mor sâl, ro’n i tu hwnt i boeni am y peth.”

“Dyw pethau ddim yn hawdd o bell ffordd – does dim pwynt i mi wadu. Mae dyddiau anodd iawn, gyda fy mhen i’n dweud wrtha i i gymryd camau yn ôl bob dydd. Ond mae’r risg o golli popeth – bywyd prifysgol, bywyd yn gyffredinol, fy nghar a phob math o bethau. Dyw e jyst ddim werth e.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Anorecsia: ‘To The Bone’ a’r gwir y tu hwnt i’r sgrîn 

to-the-bone-620x412
Llun o’r ffilm ‘To the Bone’

Ar ôl dioddef ag anorecsia am dros ddegawd, gallech chi ddweud fy mod i’n arbenigwraig wrth drafod anhwylderau bwyta. Dwi wedi dioddef â dau math o anhwylder bwyta dros y blynyddoedd: anorecsia a bwlimia.

Dwi’n 25 oed bellach ac wedi gwella cymaint. Dwi yn y categori BMI iach ac mae fy arferion bwyta yn normal, ond mae’r portread o anhwylderau bwyta yn y cyfryngau ac ati yn parhau i achosi trafferth i mi.

Dwi am drafod y ffilm newydd ‘To The Bone’ ar Netflix, a’r effaith niweidiol y gallai gael ar ddioddefwyr. Dwi’n gobeithio y bydd hyn yn helpu’r rhai hynny sy’n dioddef i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch p’un ai i wylio’r ffilm neu beidio, ac yn bennaf dwi am i’r bobl sy’n creu’r math hwn o gynnwys i wneud hynny’n gyfrifol gan ystyried y rhai hynny sy’n dioddef yn eu bywyd go iawn.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Merch o Rhuthun yn helpu eraill i ddelio â salwch meddwl : BBC

_89367543_angharadmayMae merch o Rhuthun sy’n diodde’ o broblemau iechyd meddwl wedi dechrau ymgyrch i geisio helpu eraill i ddelio â’u salwch.

Mae salwch meddwl wedi effeithio ar Angharad May, 26 oed, ers pan oedd hi’n blentyn, ac mae’n diodde’ o sgitsoffrenia ac anorecsia.

Mwy: bbc.co.uk/cymrufyw/

Rhannu