Fy Nhaith gydag Anhwylder Deubegynnol – Gwen Goddard

gwenlanding-3108

Mae Gwen yn siarad am ei thaith gydag anhwylder deubegynol a’r hyn y mae wedi ei ddarganfod ar hyd y ffordd a sut y mae hi’n helpu i ofalu am ei hiechyd meddwl. Mae hyn wedi at arwain at yrfa ym maes iechyd meddwl.

Helo, Gwen ydw i.

Rwyf wedi cael problemau iechyd meddwl ers fy mod yn 18 oed. Es i weld y meddyg a chefais ddiagnosis o iselder ond weithiau byddwn yn teimlo yn eithaf ‘uchel’. Nid oedd fy ffrindiau na fy nheulu yn deall llawer am iechyd neu salwch meddwl felly pan fyddwn yn mynd yn orfywiog, roeddent yn arfer meddwl, ‘Dyna i chi ymddygiad arferol Gwen.’

Yna, pan oeddwn yn 25 cefais ddiagnosis o anhwylder deubegynol. Tua’r un amser, bu farw rhywun agos i mi drwy hunanladdiad ac achosodd hynny hyd yn oed fwy o ofid meddwl i mi. Roedd fy emosiynau’n rasio ac roeddwn yn cael pyliau deubegynol cymysg ac roeddwn yn cymryd llawer o dabledi. Ar yr un pryd, roeddwn hefyd yn hunan-niweidio.

Parhau i ddarllen

Rhannu

Cwsg a Hwyliau gydag Anhwylder Deubegynol : Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

deubegwnMae tystiolaeth yn awgrymu y gall colli cwsg, yn ogystal â bod yn symptom craidd ac yn arwydd cynnar o gyfnodau diffyg hwyl ymysg pobl ag anhwylder deubegynol, hefyd achosi ailwaeledd, gorffwylledd yn arbennig.

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan y British Journal of Psychiatry, yn awgrymu y gall un ym mhob pedwar unigolyn ag anhwylder deubegynol fod mewn perygl o gyfnod o hwyliau uchel yn dilyn colli cwsg.

O dan arweiniad y myfyriwr PhD, Katie Lewis, dyma’r astudiaeth fwyaf hyd yn hyn sydd yn adrodd ar fynychder colli cwsg fel ysgogydd ymysg unigolion ag anhwylder deubegynol.

Dyma hefyd yw’r astudiaeth gyntaf i archwilio colli cwsg fel ysgogydd cyfnodau gorffwyll ac isel ymysg sampl mawr o unigolion ag anhwylder deubegynol.

Darllen rhagor : Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru

Rhannu

Bywyd dau begwn : BBC Cymru Fyw

_96682900_gwen1

Mae mawr angen siarad yn fwy am anhwylder deubegwn (‘bipolar disorder’), yn ôl un fenyw o Gwmbrân.

“Mae’n syndod i fi fy mod i’n dal i fod yn fyw, gyda rhai o’r eithafion isel dwi wedi eu profi,” meddai Gwen Goddard, 30.

Yr unig wahaniaeth rhwng iselder ac anhwylder deubegwn, meddai Gwen, yw’r eithafion uchel. Ac weithiau, mae mynd i’r uchelfannau hynny’n gallu bod yn beryglus.

“Ges i ddim diagnosis iawn nes i mi fod yn tua 25 mlwydd oed ar ôl sawl blwyddyn o ddioddef cylchredau’r salwch.”

“Does dim digon yn cael ei wneud o gwbl, ond yn anffodus bai ar lywodraeth a chyllid ydy hynny,” meddai Gwen.

Pam fod yna dal cymaint o stigma o gwmpas? Pam fod yna dal gymaint o ddiffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth ynglŷn â phroblemau iechyd meddwl yn gyffredinol? Pam fod rhaid i unigolion aros am fisoedd er mwyn cael gweld rhywun ynglŷn â’u problemau, ac wedyn weithiau misoedd arall ar ben hynny cyn gweld unrhyw un am driniaeth?

“Heb sôn am y nifer sydd yn ei gweld hi’n anodd trafod eu problemau trwy gyfrwng y Saesneg. Os ydyn nhw eisiau gweld rhywun trwy gyfrwng y Gymraeg, ry’n ni’n sôn am fwy o amser aros eto,” meddai. “Mae hyn yn ystod adeg lle nad ydy llawer o’r bobl sy’n dioddef yn teimlo’n ddigon cryf i frwydro, i fynnu gwasanaethau’n gyflymach neu yn y Gymraeg. Dyw’r sefyllfa ddim yn ddigon da.”

Darllen rhagor : BBC Cymru Fyw

Rhannu

Lansiad meddwl.org : David Williams

‘Ma’ iaith yn bwysig, ma’ wir yn gallu achub bywydau’

David yn sôn am ba mor anodd yw siarad am broblemau iechyd meddwl, a pha mor bwysig yw gallu gwneud hynny yn eich dewis iaith

Cliciwch yma i weld rhagor o fideos o’r digwyddiad.

Rhannu

Banciau a iechyd meddwl : Newyddion9

Mae Mind Cymru yn galw ar fanciau i ddangos mwy o gydymdeimlad tuag at bobl sydd â salwch meddwl. Dyma brofiad un gŵr.

Rhannu

Anhwylder Affeithiol Deubegwn

llyfrau-beniwaered-swnCes i ddiagnosis o Anhwylder Deubegwn tua 4 mis yn ôl. Ond nid am 4 mis yn unig dwi wedi cael yr anhwylder wrth gwrs. Ar gyfartaledd mae’n cymryd 8 mlynedd i gyrraedd diagnosis cywir yn y D.U. Mae llawer o bobl, gan gynnwys finnau, yn cael diagnosis o iselder yn y lle cyntaf (ac yn cael y meddyginiaeth anghywir fel canlyniad).

Mae fy mhrofiad fy hun yn un o gael cyfnodau o iselder a chyfnodau o hypomania neu ‘mania ysgafn’. Ar y pryd mae’n teimlo fel peth da – anhygoel o dda weithiau! Sai’n teimlo fel dwi’n dost, dwi jyst yn teimlo fel mae lot o egni gyda fi, dwi’n gallu gwneud unrhywbeth, s’dim angen lot o gwsg arnai – dwi jyst moyn gwneud pethau!

Dwi’n siarad yn glouach, symud yn glouach, mae pawb arall yn symud rhy araf ac maen nhw gyd yn fy ffordd. Dwi’n ffaelu canolbwyntio ar unrhywbeth, dechrau pethau ond heb eu gorffen nhw, methu gorffen erthygl dau baragraff oherwydd dydy fy ymennydd ddim yn stopio symud, a dwi yr un peth. Mae llawer o bethau yn cael eu gwneud, jobsys sydd wedi bod ar y rhestr ers sbel!

Parhau i ddarllen

Rhannu

O Brofiad

amsterdamnedDwi’n ddyn hanner cant oed ac mi ddechreuodd fy mhrofiadau iechyd meddwl pan oeddwn yn dair ar ddeg oed. Mi ges is fy medyddio yn David ond newidiais fy enw i Dafydd. Mi ges i addysg Gymraeg tan yn saith oed ac wedyn addysg gwbwl Saesneg. Dwi’n beio’r profiad yma o gael fy llusgo o’m gwreiddiau Cymraeg a’r ffaith fod yr addysg mewn Ysgol Fonedd ar yr Afiechyd.

Mi ges i fy ‘breakdown’ cyntaf pan yn 21 a rhoiodd y Seiciatrydd pryd hynny ddiagnosis o ‘extreme sensitivity’ i mi! Deunaw mlynedd wedyn mi es i garchar yn yr Iseldiroedd oherwydd fy mod wedi dioddef o ‘Drug Induced Psychosis’. Canabis cryf roeddwn yn defnyddio i leddfi fy mhoen meddwl.

Ers tair ar ddeg oed mi roeddwn yn dioddef o rywbeth maent nawr yn galw ‘Pure O’ sydd ar sbectrwm OCD. Intrusive thoughts neu feddyliau cas a milain roeddwn ddim yn gallu gwneud dim amdanyn nhw. Os roeddwn yn ymladd y meddyliau mi roedden nhw yn mynd yn waith. Ar ôl un ar hugain mi roeddwn yn yfed yn drwm ar y penwythnosau ac yn defnyddio canabis i leddfi’r poen ond yn ddiarwybod i mi roedd y canabis cryf yn Amsterdam wedi troi fi mewn i ryw fath o ‘ticking time bomb’.

Parhau i ddarllen

Rhannu