Unigrwydd: Cannoedd o blant yn ffonio llinell gyswllt : BBC Cymru Fyw

_95627005_mediaitem92445572Mae cannoedd o blant wedi bod yn cysylltu â llinell gyswllt oherwydd eu bod nhw’n unig neu’n teimlo pwysau, yn ôl elusen.

Dywedodd Childline bod eu cwnselwyr wedi derbyn 150 o alwadau gan blant o Gymru yn 2016/17 – gyda’r ffigwr go iawn yn debygol o fod yn llawer uwch gan fod rhai heb ddweud o ble roedden nhw’n ffonio.

Cafodd dros 4,000 o blant a phobl ifanc yn y DU y sesiynau cwnsela gan wasanaeth yr NSPCC yn y flwyddyn ddiwethaf – gyda merched bum gwaith yn fwy tebygol o gysylltu.

Dywedodd Childline mai dyma’r flwyddyn gyntaf iddyn nhw gofnodi unigrwydd fel problem, gyda phlant nawr yn trafod problem sydd yn cael ei gysylltu fwy â chenedlaethau hŷn.

Roedd llawer o blant a phobl ifanc yn cysylltu i ddweud eu bod nhw’n teimlo’n anweledig, fod pobl ddim yn deall eu teimladau, neu fod ffactorau fel y cyfryngau cymdeithasol yn gwneud iddyn nhw deimlo’n hyll neu amhoblogaidd.

“Does dim un rheswm penodol pam fod cymaint o bobl ifanc yn dioddef o unigrwydd, ac o ganlyniad does dim ateb syml i’r broblem,” meddai Des Mannion, pennaeth NSPCC Cymru. “Beth sy’n amlwg yw bod y byd yn dod yn le mwy cymhleth i dyfu fyny, gyda phlant a phobl ifanc yn teimlo pwysau yn ddyddiol i gyrraedd diffiniad cymdeithas o fywyd llwyddiannus – graddau, perthnasau, sut mae rhywun yn edrych. Mae’n hanfodol felly bod gan blant a phobl ifanc bobl o’u cwmpas, yn enwedig rhieni, y gallan nhw fod yn agored â nhw ynglŷn â sut maen nhw’n teimlo.”

Darllen mwy: BBC Cymru Fyw

Rhannu

Gadael Ymateb