Lansio’r gyfrol gyntaf ar salwch meddwl yn y Gymraeg : Golwg360

y-lolfaFe fydd cyfrol yn cael ei lansio ar faes yr Eisteddfod heddiw sydd yn cynnwys profiadau nifer o Gymry amlwg yn trafod salwch meddwl.

Bwriad y gyfrol Gyrru Drwy Storom, sy’n cael ei chyhoeddi gan y Lolfa, yw ceisio chwalu’r stigma o siarad am broblemau iechyd meddwl.

Ymysg y rheiny sydd wedi cyfrannu at y gyfrol, a olygwyd gan Alaw Griffiths, mae Llŷr Huws Gruffydd, Caryl Lewis, Geraint Hardy, Malan Wilkinson, Hywel Griffiths, Bethan Jenkins, Angharad Gwyn, Angharad Tomos, Iwan Rhys a Dr Mair Edwards.

Mwy: golwg360.cymru

Rhannu

Gadael Ymateb