Neil McEvoy: “Mae angen trafod hunanladdiad ymysg dynion” : Golwg360

galwad-am-help-hunanladdiad-afiechyd-meddwl-llun-CC0-640x426

Mae angen siarad am hunanladdiad ymysg dynion yn ôl Aelod Cynulliad sy’n trefnu digwyddiad yn y Senedd ddydd Gwener (Tachwedd 17) i drafod y pwnc.

“Mae yna lawer o bethau sydd angen siarad amdanyn nhw a dw i’n meddwl y bydd y digwyddiad yn helpu pobol i wneud hynny.” meddai Neil McEvoy.

“Mae e’n dabŵ, dyw pobol ddim yn siarad amdano. Mae yna stereoteipiau rhywiaethol bod rhaid i chi “ymddwyn fel dyn” a delio â phob dim, felly mae dynion yn dueddol o beidio siarad am bethau wedyn.”

Hunanladdiad yw prif achos marwolaethau dynion rhwng 20 a 34 oed ac mae Neil McEvoy yn dweud ei fod am weld mwy o gymorth ar gael sydd wedi’i deilwra ar eu cyfer.

Rhannu

Gadael Ymateb