Cyfweliad gyda chylchgrawn llenyddol Y Stamp

stamp-2I nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, fe wnaeth criw Y Stamp holi rhai cwestiynau i ddysgu rhagor am iechyd meddwl a gwefan meddwl.org.

Beth ydi’r prif heriau sy’n wynebu unigolion sy’n ceisio ymdopi â salwch meddwl?

Mae amrywiaeth o heriau yn wynebu unigolion sy’n delio â iechyd meddwl yn ddyddiol, ac mae’n anodd cyffredinoli gan fod pob profiad yn wahanol.  Un o’r heriau amlycaf ydi nad yw salwch meddwl na’i symptomau yn weladwy, sy’n golygu bod y cyfrifoldeb i gyd ar yr unigolyn sy’n dioddef i allu mynegi eu meddyliau ar yr hyn sy’n digwydd iddyn nhw.  Ar ben hynny, mae’n anodd iawn delio â diffyg dealltwriaeth eraill o faterion iechyd meddwl.  Yn ogystal â gorfod delio efo’r salwch a’r anawsterau sy’n dod efo fo, mae’r unigolyn hefyd yn trio ymdopi ag agweddau ac ymateb cyflogwyr, cydweithwyr, teulu, ac eraill, ac mae angen sicrhau bod gwybodaeth a chymorth ar gael i helpu pobl i wybod sut i gefnogi’r sawl sy’n dioddef mewn modd sensitif.

Darllenwch y cyfweliad llawn ar wefan Y Stamp

 

Rhannu

Gadael Ymateb