Oes gyda chi’r argraff anghywir am sgitsoffrenia? : BBC

Mae elusen iechyd meddwl wedi rhybuddio nad yw sgitsoffrenia yn golygu bod gennych chi bersonoliaeth ddeublyg nag eich bod yn dreisgar.

Yn ôl yr elusen Ailfeddwl Salwch Meddwl (Rethink) mae arolwg o 1,500 o bobl yn dangos fod y cyflwr yn cael ei gamddeall gan lawer.

Mae sgitsoffrenia yn aml yn achosi rhithweledigaethau, fel clywed lleisiau neu weld lledrithiau, ac mae’n gallu gwneud i bobl golli diddordeb mewn bywyd.

Ond, ni ddylai sgitsoffrenia fod “yn air budr neu’n sail i gam-drin geiriol” meddai’r elusen, a rhybuddiodd y sefydliad bod mythau felly’n beryglus.

Mae un o bob 100 o bobl yn cael eu heffeithio gan sgitsoffrenia yn ystod eu bywyd, ond mae 45% o’r rhai a holwyd yn meddwl bod y salwch yn llawer iawn mwy cyffredin na hynny.

Roedd hanner y rhai a holwyd yn gwneud y camgymeriad o feddwl bod y salwch yn cael ei ddiffinio gan bersonoliaeth ddeublyg a chwarter yn gwneud y camgymeriad o feddwl ei fod yn bendant yn arwain at ymddygiad treisgar.

Mae’r gwirionedd yn wahanol iawn, honnai ymgyrch newydd yr elusen.

Nid yw’n wir fod “rhywun sydd â sgitsoffrenia yn gallu ymddangos yn gwbl normal un eiliad, ac yn newid i fod yn berson gwahanol yr eiliad nesaf”, meddai Coleg Brenhinol y Seiciatryddion ar ei wefan.

Ac, er bod risg uwch o ymddygiad treisgar os oes gennych chi sgitsoffrenia, nid yw o reidrwydd yn gwneud pobl yn beryglus.

Mewn cymhariaeth, y mae cyffuriau ac alcohol yn achosi llawer mwy o drais.

Mae pobl sydd â sgitsoffrenia yn llawer iawn mwy tebygol o gael eu niweidio eu hunain gan bobl eraill nac y maen nhw o wneud niwed i bobl eraill, meddai’r Seiciatryddion.

Gall sgitsoffrenia effeithio ar y ffordd mae unigolion yn meddwl, teimlo ac ymddwyn.

Mae profi rhithweledigaethau yn gyffredin ac yn aml mae pobl yn clywed lleisiau sy’n swnio fel rhai  go iawn, ac yn gallu bod yn feirniadol ac yn ymosodol, er eu bod nhw i gyd yn y meddwl.

Gall lledrithiau ddigwydd hefyd, lle mae pobl yn credu rhywbeth yn llwyr ac yn teimlo fel nad oes neb arall yn y byd yn gweld pethau yn yr un modd.

Gall symptomau eraill gynnwys iselder, colli’r gallu i ganolbwyntio a theimlo yn anghysurus o amgylch pobl eraill. Mae rhai pobl hefyd yn teimlo poen.

Darllen rhagor : BBC