Ymdrech

llyfrau-beniwaered-swnPan oeddwn i tua deuddeg fe wnes i fynd yn unswydd at Mam a dweud wrthi nad oeddwn i’n hoffi darllen ragor ac na fyddwn i’n darllen mwy. Ro’n i â’n nhrwyn mewn llyfr y bore wedyn.

Pan oeddwn i’n adolygu at gyfer arholiadau TGAU ces i brynu llyfr ar yr amod na fyddwn i’n ei ddarllen e nes ar ôl yr arholiadau. Cymaint o rebel a phleser deimles i yn darllen y llyfr ‘ar y slei’ yn lle adolygu.

Heblaw am ambell gyfnod prysur alla i ddim cofio peidio darllen am fwy na dau neu dri dwrnod. Doeddwn i byth yn dda iawn am ddarllen un llyfr ar y tro chwaith. Fel rheol bydda i’n mynnu gorffen y mwya’ diflas o lyfrau – y cyffro o benderfynu ar y nesaf a dechrau arno yn fy nghadw i ddarllen.

Ond ers rhai misoedd dyw’r syniad o ddarllen ddim yn apelio o gwbl, a’r syniad o ddarllen yn ymdrech. Er i fi agor ambell lyfr, allaf i ddim yn fy myw darllen mwy na phennod neu ddau ar y tro, a hynny yn ysbeidiol.

Fe dorrais i ‘nghalon rhyw noson pan ddaeth hanner ysfa i ddarllen. Es i at y silff o lyfrau a gweld y llyfrau oedd yn aros i gael eu darllen, rhai rydw i wedi dechrau arnyn nhw, ond wedi ildio o golli diddordeb.

Fel arfer methu penderfynu pa un fyddai orau gyda fi fyddwn i ond y tro hyn, allwn i ddim yn fy myw â chofio beth ddenodd fi at yr un ohonyn nhw.

Pleser arall oedd mynd i siop lyfrau. Byddwn i weithiau’n mynd i siop lyfrau dim ond i edrych. Gallwn i dreulio sbel hir yn edrych ar lyfrau, yn nodi teitlau mewn llyfr nodiadau i’w prynu rywdro eto. Weithiau mynd yno i brynu un a dod oddi yno â thri fyddwn i. A weithiau mynd i brynu llyfr penodol a dod oddi yno gyda llyfr cwbl wahanol a’m cyfareddodd gyda chlawr, geirda neu frawddegau agoriadol wnes i. Ond pleser oedd e, bob tro.

Yr un llyfrau sydd ar fy rhestr ddarllen ers misoedd, a’r enwau’n ddim ond geiriau. A’r tro diwetha’ i fi fynd i siop lyfrau bu raid i fi adael heb lyfr. Roedd edrych ar yr holl deitlau yn llafurus, a’r rhes o lyfrau yn fy atgoffa o’r pentwr oedd gyda fi adref heb eu darllen, a phob un fel petai’n fy ngwawdio, yn fy atgoffa o’r hyn rwy wedi ei golli. Fethais i aros yn hir. Bron i fi redeg o’r siop, fy nghalon wedi ei thorri eto a’m stumog yn glymau i gyd.

Dydy peidio darllen ddim yn ddiwedd byd ond dychmygwch fod heb eich pleser pennaf, neu unrhyw un arall o ran hynny. Dim ond ar ôl sylwi nad oeddwn i’n darllen bellach y gwnes i sylwi i fi golli diddordeb yn y rhan fwyaf o bethau oeddwn i’n arfer eu gwneud hefyd. Dydy hynny ddim yn rhywbeth sydd yn cael ei gysylltu gydag iselder yn aml. Ond o golli diddordeb ym mhleserau bywyd mae colli diddordeb mewn bywyd hefyd.

Ac ambell ddiwrnod gallwn innau’n hawdd gyfnewid y gair ‘darllen’ gyda ‘bywyd’ yn un o frawddegau agoriadol y blog hyn:

“Ers rhai misoedd dyw’r syniad o fyw ddim yn apelio o gwbl, a’r syniad o fyw yn ymdrech.”

Wnes i ddim sylwi’n iawn nad oeddwn i’n darllen a bod rhywbeth yn bod am sbel, ac rwy’n siŵr na wna i sylweddoli’n iawn ‘mod i’n gwella nes ‘mod i hanner ffordd drwy lyfr ac yn dechrau meddwl am y nesaf.

Rhannu

Gadael Ymateb