Y Pris ‘Dan Ni’n Dalu

18813683_10211383724846268_6592034178850789351_nProfedigaeth. Yn anffodus, dio’m yn wbath fedrith rywun osgoi. Ond eto’i gyd, mae o’n dipyn o bwnc tabŵ o fewn ein cymdeithas dwi’n teimlo. Ma’n effeithio pawb, ond dewis cadw fo i ni’n hunain yda ni.

‘Nath o gymryd blynyddoedd imi allu siarad yn agored yn dilyn y profedigaeth cynta’ geshi. ‘Doni methu dirnad â’r peth. Dwi’n berson sy’n teimlo bron popeth i’r byw, a dwi dal ddim yn siwr os ‘di hynny’n beth da neu ddim i fod yn onest. Ar un llaw, ma’n dangos bo’ chi’n poeni am bobl ac ella’n fwy emotionally intelligent na’r person cyffredin, ond ar y llaw arall, mae’n gallu’ch g’neud chi’n fwy agored i niwed.

Wrth gwrs, mae galar yn gallu cael effaith sylweddol ar eich iechyd meddwl. Mae’n achosi teimlad o unigrwydd llethol, ac mewn rhai achosion, mae hynny’n gallu datblygu i iselder. Ma’ gorfod dysgu byw heb rywun oedda chi’n meddwl y byd ohonyn nhw, a mynd yn ôl i normal yn uffernol o tough. Ond yn amlwg, fedrith petha’ byth fynd ‘yn ôl i normal’.Ma’ popeth yn newid. Mae’r ddeinameg yn wahanol. Pan ‘dach chi’n ca’l newyddion da neu efo rhyw gossip diddorol i rannu – tydi’r person ‘dach chi isho deud wrth fwya’, ddim yno. Tydi achlysuron arbennig byth ‘run peth – ‘Dolig/penblwydd yn enwedig. Ma’ rheiny’n gallu bod yn anodd ofnadwy i ddeud gwir – ma’na gymaint o bwyslais ar yr elfen deuluol ac ati, mae o fatha bo’ chi’m yn ca’l bod yn drist ar yr adega’ hyn, mae o’n erbyn y rheola’.

Os ‘dach chi’n debyg i fi, y petha’ bach syn cymell y galar rhan fwya’ o’r amser. Er enghraifft, mynd i siop a gweld y pacad o fisgits odda chi’n arfar ga’l yn eu tŷ nhw bob tro, ogla persawr arbennig, clwad rhyw ddywediad oedd yn arwyddocaol i chi a’r unigolyn hwnnw ayyb.

Dwi ‘di trio meddwl am yr hyn sy’n fy helpu i, ac yn gysur pan ma’ hiraeth yn taro, a’u nodi nhw isod. Dwi’m yn gwbod os fydd hyn o help o gwbl, ond, fel dywed Tesco – ‘every little helps’.

  • Pan dwi’n mynd drw’ gyfnod calad, dwi’n meddwl am be fysa eu cyngor nhw imi – ro’dd yr unigolion dwi ‘di golli yn uffernol o ddoeth, a ‘swn i ‘di gallu troi atyn nhw motch pryd na be oedd yn bod. Ma’ dychmygu be ‘sa nhw’n ddeud/g’neud yn fy nghario i – yn atal fi rhag rhoi’r gora’ iddi.
  • Dwi’n argymell i chi wrando ar ‘Everglow’ gan Coldplay. Cân am golled, a byw heb rywun arbennig ydio a ma’r geiria’ mor dlws a theimladwy. 10/10.
  • Crio. Na, go iawn. Does ‘na’m byd o gwbl yn bod ar grio – weithia’ dyna’r oll sydd angan.
  • Er bod ‘na’m byd yn bod mewn hiraethu am y gorffennol, ma’n bwysicach os wbath i drysori’r presennol. Oni’n un gwael am fyw yn y foment – oni arfer unai meddwl yn ôl, neu’n meddwl gormod ymlaen. Ma’r ddau yr un mor ddi-bwynt â’i gilydd ar ddiwedd y dydd – dio’m am newid dim o gwbl. G’neud y mwya’ o be sgena chi rwan sy’n bwysig – achos pan ‘dach chi *yn* sbio nôl, ma’ difaru peidio gwneud y mwya’ o’r adega’ hynny yn dor-calonnus.
  • Ma’r dywediad ‘Galar ydi’r pris ‘dan ni’n dalu am gariad’ yn hollol wir. I deimlo colled mor ddwfn, mae’n rhaid ein bod ni wedi cael ein bendithio efo cariad go arbennig – dwi’n meddwl am y dywediad yna reit aml.

Darllen rhagor : arddunrhiannon.wordpress

Rhannu

Gadael Ymateb