Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban – Heledd Tomos

cai-ioan1Roedd wythnos 9fed – 15fed o Hydref yn Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban. Roedd yr wythnos yn gorffen  gyda’r ‘Wave of Light’ gyda phobl yn cynnau cannwyll er cof am fabanod a gollwyd yn rhy fuan.

Teimladau cymysg oedd gennyf wrth weld yr holl ganhwyllau, yr holl oleuni. Mor falch fod pobl yn rhannu y neges, yn rhannu eu colled, yn codi ymwybyddiaeth ac yn agor y drafodaeth o golli babanod. Ond ar y llaw arall mor drist i weld bod gymaint o bobl wedi bod trwy yr un profiad erchyll â ni.

Fe gollon ni ein mab annwyl Cai Ioan ar yr 31ain o Ionawr 2015 pan oeddwn yn 22 wythnos yn feichiog. Ein beichiogrwydd cyntaf, ein plentyn cyntaf. Gwnaeth fy nghalon dorri yn ddeilchion, doeddwn i ddim yn gwybod fod y fath boen yn bodoli. I feddwl fod gymaint o famau a thadau eraill wedi neu yn mynd trwy yr un boen a ninnau. Efallai gwnaf ysgrifennu eto am ein stori ni ond y tro hyn rwyf am ysgrifennu am yr Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban.

Mae’r wythnos yn gallu bod yn anodd, i ni rieni, sydd yn y ‘Clwb’ hyn. Y clwb does neb byth eisiau bod yn rhan ohoni. Ond wedyn mae bob wythnos yn anodd i ni. Nid ydym byth yn anghofio fod un o’n plant ddim gyda ni, fod un o’n plant ddim yn mynd i wenu arno ni y bore hwnnw, ein bod byth yn mynd i weld y plentyn hwnnw yn mynd i’r ysgol. Nid ydym yn anghofio y pethau hyn. Felly nid yw Wythnos Ymwybyddiaeth yn ein hatgoffa ni o’r pethau yma ond mae efallai yn atgoffa eraill.

Dywedodd un o fy ffrindiau da mewn neges ata ei bod yn meddwl amdano ni a Cai ac ‘yn diolch i ti am fod mor agored ac onest am ein taith uffernol o anodd.  Mae siarad am eich colled wir yn helpu eraill. Rydw i nawr yn llawer mwy ymwybodol o’r strygl sydd yn wynebu rhai mamau a thadau bob dydd.’ Ai hwn felly yw holl bwrpas Wythnos Ymwybyddiaeth? Er ein bod ni wedi bod yn agored o’r cychwyn am ein colled, ond mae yn rhoi cyfle i eraill efallai i fod yn agored ac i siarad am eu profiadau nhw mewn awyrgylch ddiogel.

Roedd pob llun o gannwyll ar y gwefannau cymdeithasol yn gyfle i rieni sôn am ei baban ac i ddangos i eraill, yn anffodus, fod nifer fawr o ni yn mynd trwy’r un profiad. Hefyd, mae yn gyfle i ni ddangos nad ydym yn ofn siarad am ein baban ac os neith ffrind dweud ei enw ni fydd ‘yn agor clwyfau’. Nid yw’r clwyfau byth yn mynd i gau ac felly dyw osgoi y pwnc ddim yn mynd i leihau y boen, mewn ffordd mae’n gwneud y boen yn waeth. Mae’n gwneud i ni deimlo fod ein plentyn wedi mynd yn angof, fod ein galar wedi mynd yn angof. Ond rydym yn byw bob dydd yn dysgu sut i fyw gyda’r boen a’r galar ac ar yr un pryd yn dysgu sut i fod yn hapus eto.

Rydym ni wedi bod yn lwcus i gael plentyn arall, ein babi enfys (dyna elwir y baban a ddaw ar ôl colled), ac rydym yn disgwyl ein trydydd, mae bod yn feichiog ar ôl colled yn fyd llawn pryder a gorbryder, ac yn gallu bod yn dywyll iawn ar adegau, ond af i ddim mewn i hynny nawr. Rydw i hefyd yn ymwybodol iawn fod nifer o fy ffrindiau yn y ‘Clwb’ dal yn aros am eu babi enfys nhw. Mae’n daith anodd, hir, gydol oes ac efallai y peth lleiaf allwn ni gyd wneud yw cydnabod pob colled, dim ots pa mor gynnar yn ystod beichiogrwydd, a dweud ein bod ni’n flin am y golled.

Felly dyna yw fy ngobaith i ar ôl Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Baban yw fod pobl yn cofio am ein plant, yn cofio fod nifer fawr o rieni yn ceisio byw gyda’r galar, dywedwch eu henwau a dangoswch eich bod chi hefyd yn cofio.

Heledd Tomos

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan y stori, neu os ydych chi angen cyngor neu wybodaeth bellach, ewch i wefan www.uk-sands.org neu ffoniwch llinnell gymorth Sands UK ar 0808 164 3332.

Fe ymddangosodd y blog yma yn wreiddiol ar wefan mamcymru.wales

Rhannu

Gadael Ymateb