Wythnos Gwrth-Fwlio 2017

Llun: criw Ymbarel Prifysgol Abertawe
Llun: criw Ymbarel Prifysgol Abertawe

Mae grŵp Ymbarel, grŵp o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe sydd wedi dod ynghyd gyda’r gobaith o estyn cymorth i helpu pobl yn eu harddegau â materion iechyd meddwl, a hynny’n y Gymraeg.

Gydag Wythnos Gwrth-Fwlio 2017 yn brysur mynd rhagddi, mae’n nhw wedi bod wrthi yn cynnig cyngor ar sut allwch CHI helpu i nodi’r wythnos a lledaenu’r neges.

Sut gallwch chi gymryd rhan yn wythnos gwrth-fwlio?

  • Gall plant enwebu eu hathro/ aelod o staff ar gyfer y wobr flynyddol ‘Power of Good’
  • lawrlwytho logos swyddogol wythnos gwrth-fwlio 2017 a rhannu ar eich gwefannau a chylchlythyrau
  • Ar wefan Anti Bullying Alliance mae syniadau ac adnoddau defnyddiol am wythnos gwrth-fwlio
  • Arddangos poster swyddogol wythnos wrth-fwlio 2017
  • Rhannwch eich cynlluniau a gweithgareddau wythnos gwrth-fwlio ar-lein (@ABAonline) gan ddefnyddio #AntiBullyingWeek #AllDifferentAllEqual
  • Codi arian ar gyfer gwaith Anti-Bulling Alliance

Parhau i ddarllen blog criw Ymbarel

Darllen rhagor am fwlio

Rhannu

Gadael Ymateb