Pornograffi – dros ddegawd o gaethiwed

Blog PornograffiDydw i ddim yn cofio yn union pryd y gwnes i sylweddoli mod i’n gaeth i bornograffi, mae’n rhaid ei bod hi dros ddeg mlynedd yn ôl bellach. Does neb yn y byd yn gwybod am fy mrwydyr dyddiol gyda phornograffi.

Yn allanol o leiaf, rwyf wedi bod yn hynod llwydiannus yn cuddio’r broblem. Yn y blynyddoedd ers i mi sylweddoli fod gen i broblem, dwi wedi priodi, cael teulu, meithrin gyrfa lwyddiannus, ac o’r tu allan mae gen i’r bywyd perffaith.

Dechreuodd pethau’n weddol ddiniwed am wn’i, fel llawer o fechgyn fy nghenhedlaeth; gweld delweddau o ferched hanner noeth mewn ‘lads mags’ a Page 3, neu raglenni teledu hwyr y nos.

Roeddwn i yn fy arddegau pan gafon ni gysylltiad i’r rhyngrwyd adra – cysylltiad araf ‘dial-up’ i ddechrau, ac o edrych yn ôl, daeth hi’n haws ac yn haws o hynny ymlaen i gael mynediad at filiynau ar filiynau o ddelweddau neu fidios pornograffig. Daeth band-llydan yn lle ‘dial-up’, wedyn cysylltiad di-wifr, a chysylltiad preifat yn y brifysgol ble’r oedd posib cloi fy hun ffwrdd am oriau o flaen y cyfrifiadur yn gwylio porn. Dim byd eithafol nac anghyfreithlon, dim ond merched noeth neu bornograffi proffesiynol, masnachol.

Erbyn heddiw mae hyd yn oed haws byth – hefo ‘smartphone’ neu gyfrifiadur tabled, mae miloedd o wefannau pornograffig ar gael yn llythrennol ar flaenau’r bysedd.

Am flynyddoedd, trwy f’arddegau a’r cyfnod yn y brifysgol, roeddwn i’n meddwl mod i’n hollol normal. Roedd fy ffrindiau i gyd yn siarad am bornograffi’n agored, rhai’n rhannu DVD’s ac ati rhwng ei gilydd fel rhyw lyfrgell gyhoeddus od o ferched noeth a chyfathrach rywiol.

Doeddwn i’n sicr ddim yn gweld unrhyw ochr negyddol i wylio pornograffi bryd hynny. Doedd dim sgil-effeithiau corfforol i’w gweld, a phan oeddwn i’n mynd allan i yfed a chymdeithasu, ro’n i’n dal i weld merched yn ddeniadol, ac roedd rhai ohonynt yn cymryd diddordeb ynddo i hefyd.

‘Bu sawl noson ble treuliais i, yn llythrennol, y noson gyfan yn gwylio porn tan ei bod hi’n olau dydd tu allan.’

Ond yn amlach na pheidio yn y brifysgol, mynd adra ar fy mhen fy hun fyddai fy hanes ar ddiwedd noson allan, a tharo’r cyfrifiadur ymlaen i wylio porn. Bu sawl noson ble treuliais i, yn llythrennol, y noson gyfan yn gwylio porn tan ei bod hi’n olau dydd tu allan. Delwedd ar ôl delwedd, tudalen ar ôl tudalen, fidio ar ôl fidio, yn chwilio am bob dim, a dim byd ar yr un pryd. Ar ôl bod ar ddihun drwy’r nos, cysgu wedyn am oriau trwy’r dydd, methu darlithoedd neu ymarfer corff. Yn raddol, dois yn ymwybodol nad oedd fy arferiad porn i’n iach. Doedd treulio oriau di-ri yn edrych ar ddelweddau pornograffig yn gwneud dim lles i mi’n gymdeithasol, yn academaidd nac yn gorfforol.

Yn y degawd, a mwy, sydd wedi mynd heibio ers i mi sylweddoli mod i’n gwneud drwg i’n hun, y cyfnod hiraf i mi fedru mynd heb wylio pornograffi yw 14 diwrnod. Ni hoffwn feddwl faint o oriau dwi wedi’u treulio, neu eu gwastraffu y dylwn i ddweud, dros y ddegawd dwytha’ yn gwylio porn. Mae hynny ynddo’i hun yn codi ofn arnai – un bywyd ‘da ni’n gael, un cyfle ar y ddaear i wneud y mwya’ ohono – a dwi eisoes wedi treulio cyfnod helaeth o mywyd yn syrffio’r wê yn gwylio porn.

Dwi wedi trio atal rhagddo sawl gwaith. Roeddwn i’n meddwl y byddai symud i fyw gyda’r wraig (cariad ar y pryd) yn helpu i mi roi’r gorau i’r peth. “Fydd na ddim amsar i lol felna” medda fi wrtha’n hun, neu, “fydd dim posib cuddio’r peth pan ti’n byw hefo hi felly fydd just rhaid stopio”. Ond mae realiti’n llawer anos. Wrth gwrs daeth cyfnodau pan ro’n i adra ar fy mhen fy hun, pan fo’r wraig yn mynd allan ar benwythnos gyda’i ffrindiau ella, neu i weld ei theulu ac ati. Pan ‘roedd genai’r tŷ i fi’n hun, dim ond un peth oedd amdani – taro sgrin y cyfrifiadur ymlaen.

Dwi wedi trio ffyrdd eraill i atal fy hun hefyd, gosod ‘filters’ ar gysylltiad y rhyngrwyd i atal gwefannau pornograffig er enghraifft, ond mae’n llawer rhy hawdd newid rhain pan fo’r awydd yn gryf. Dwi wedi ymuno â gwefannau a fforymau sy’n cefnogi pobl sydd â chaethiwed i bornograffi, i geisio cyngor eraill, ond heb fawr o lwyddiant. Mae’r llywodraeth yn cymryd camau rŵan i’w gwneud yn anoddach cael mynediad at bornograffi, ac mae cyfraith ar ei ffordd fydd yn golygu y bydd angen rhoi manylion cerdyn banc er mwyn profi oedran cyn cael mynediad. Byddai hyn o bosib yn help mawr i mi – fyddwn i byth yn rhannu’r fath fanylion oherwydd y risg iddynt gael eu dwyn a’u gwneud yn gyhoeddus. Y realiti ydi fodd bynnag na fydd y fath system yn gweithio – mae cymaint o bornograffi allan yna ar y rhyngrwyd, o bob cwr o’r byd, does dim gobaith monitro bob gwefan – mae llywodraethau wastad flynyddoedd ar ei hôl hi pan mae’n dod at geisio rheoleiddio’r rhyngrwyd.

‘Mae porn mor hawdd cael gafael arno erbyn hyn mae’n rhaid fod miloedd o ddynion a merched ifanc yn gaeth iddo’

Yn ogystal â mhryderon fy hun, dwi wir yn poeni hefyd am y genhedlaeth nesaf sy’n dod yn oedolion – mae porn mor hawdd cael gafael arno erbyn hyn mae’n rhaid fod miloedd o ddynion a merched ifanc yn gaeth iddo. Mae’n anodd gwybod beth yw’r ateb. Tydi cael cymaint yn gaeth i born yn gwneud dim lles i gymdeithas, ond ar yr un pryd, dwi’n siwr bod miloedd o bobl yn medru ei fwynhau yn ddiniwed. Yn union fel dwi’n medru mwynhau alcohol heb fynd yn gaeth iddo. Fyddai’n deg gwahardd alcohol i bawb dim ond achos fod canran fach o bobl yn mynd yn or-ddibynnol arno?

Dwi wedi darllen llyfrau hefyd, ‘Recovery’ gan Russell Brand yw’r un mwyaf diweddar i mi ei ddarllen. Mae’r cynnwys oll yn gwneud synnwyr perffaith i mi, a dwi’n medru uniaethu gyda bron bob gair, ond tydi o ddim yn ddigon i helpu fi ddod dros fy mhroblem.

Ro’n i’n meddwl hefyd y byddai dod yn riant yn fy helpu i. Hynny ydi, y cyfrifoldeb newydd yn fy ysgwyd i allan o’r peth. Amser tyfu i fyny go iawn, a medru canolbwyntio ar deulu, sicrhau mod i’n gwneud y gorau drostynt ymhob rhan o mywyd. Wnaeth hynny ddim digwydd yn anffodus, ac mae’n gywilydd gen i ddweud na lwyddais i dreulio diwrnod geni fy mhlentyn heb droi at porn. Dim hyd yn oed y diwrnod hwnnw o bob diwrnod.

‘Dwi wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cuddio’r peth’

Soniais uchod mod i’n llwydiannus yn cuddio’r broblem, ac mae hynny’n wir. Tydi hynny ddim yn golygu nad oes yna sgil-effeithiau gwirioneddol i’r broblem fodd bynnag. Tydi fy mherthynas rhywiol gyda’r wraig ddim mor iach ac y dylai fod. Dim syndod wrth gwrs a minnau’r treulio oriau yn cael pleser rhywiol yn gwylio porn. Mae esgusodion yn dod yn llawer rhy hawdd – wedi blino, pwysau gwaith ac ati. Mae effaith ar y corff a ffitrwydd hefyd wrth gwrs – tydi gorwedd ar eich cefn am oriau yn symud dim ond eich garddwn ddim yn mynd i roi ‘six-pack’ i chi na’ch paratoi a redeg marathon!

Caiff ddylanwad ar fy ngwaith hefyd. Eto, dwi wedi bod yn llwyddiannus iawn yn cuddio’r peth, ond does dim cwestiwn bod oriau o waith a bod yn gynhyrchiol yn cael eu colli’n wythnosol. I’r rhan fwyaf o bobl, dwi’n llwydiannus iawn yn fy ngwaith, ond dwi’n meddwl yn aml pa mor lwyddiannus yn wirioneddol y gallwn i fod petawn i’n cael gwared o’r ‘mwnci’ yma oddi ar fy nghefn.

Tydw i chwaith ddim yn berson eithriadol o gymdeithasol bellach, a chriw bychan iawn o ffrindiau sydd gen i. Ffrindiau y byddai’n eu hesgeuluso pan yn eu cwmni. Cyn heddiw, ar benwythnos i ffwrdd gyda’n ffrindiau – penwythnosau ‘stag’ ac ati, dwi wedi eu gadael yn fuan iawn yn y noson i ddychwelyd i’r gwesty i wylio porn ar fy ffôn symudol neu dablet. Gwneud esgusodion mod i wedi blino neu’n teimlo’n sâl, er mwyn cael sleifio i ffwrdd a bod ar fy mhen fy hun gyda porn.

‘Cywilydd, dicter gyda fy hun am fod yn wan a rhoi mewn, iselder ac anobaith

Wrth gwrs, yn dilyn sesiwn o wylio porn, daw teimladau negyddol dros ben drostaf. Cywilydd, dicter gyda fy hun am fod yn wan a rhoi mewn, iselder ac anobaith. Mewn sefyllfa fel yr uchod gyda’n ffrindiau, dwi’n ddîg iawn gyda fy hun, ac yn teimlo’n fethiant llwyr. Petawn i’n medru potelu’r teimladau hynny sy’n dod drosta i ar ddiwedd sesiwn gyda porn, a’u teimlo pan ddaw’r awydd drosta i yn y lle cyntaf, dwi’n credu y byddai gen i lot gwell siawns o ymatal.

Pan ddaw’r awydd drosta i fodd bynnag, mae’n deimlad gwahanol iawn. Mae’n gyffrous, y galon yn curo ychydig yn gynt, a rhyw niwl rhyfedd annisgrifiadwy yn dod lawr dros f’ymenydd a’r holl synhwyrau. Dwi methu canolbwyntio, cynnal sgwrs gall efo neb, ac yn medru bod yn ddiamynedd iawn hefo unrhyw un sy’n bygwth dod rhyngddo i a’r delweddau a’r fidios ar sgrin y cyfrifiadur.

Dwi meddwl weithiau y dylwn i rannu fy mhroblem gyda’m gwraig neu ffrind. Dwi’n eithaf siwr y byddai fy ngwraig yn fy ngadael yn syth petai’n darganfod y gyfrinach fodd bynnag, a dwi ddim yn siwr sut y byddwn i’n mynd o’i chwmpas hi i ddechrau’r fath sgwrs gyda ffrind neu aelod arall o’r teulu. Dwi wedi meddwl cyn heddiw y byddai’n haws pe byddai gen i broblem yfed neu gyffuriau yn hytrach na porn. O leia’ mae’r rheiny’n broblemau sy’n gymdeithasol dderbyniol – cydymdeimlad mae alcoholics yn ei gael ar y cyfan, dwi’n amau mae ryw edrychiadau od neu fy esgymuno fyddai fy nhynged i petawn i’n datgelu fy mhroblem yn gyhoeddus. Ond dwi’n sylweddoli’n eithaf sydyn mae meddyliau hunanol ydi rhain – tydi fy mhroblem i ddim yn fy chwalu’n gorfforol i’r ‘run raddfa ac y gall alcohol a chyffuriau wrth gwrs. Mae porn yn wastraff amsar ac yn niweidiol, ond tydi o ddim yn debygol i fy ngyrru i fy medd yn uniongyrchol unrhyw amser yn y dyfodol agos.

Yr hyn sydd yn fy nharo i fwyfwy y dyddiau hyn, ac yn fy ysgogi i drio rhoi’r gorau iddi drosodd a throsodd, yw’r ffaith nad yw’n teimlo’n normal mwyach. Hynny ydi, pan o ni yn fy arddegau ac ugeiniau, roedd gwylio porn yn teimlo’n ddigon normal – ro’n i, hyd y gwn i yn ddigon tebyg i weddill dynion ifanc fy nghenhedlaeth. Erbyn hyn, a minnau gyda chyfrifoldebau, gyrfa, morgais ac ati, tydi o ddim yn teimlo hanner mor normal.  Mae’n wastraffus ac yn niweidiol.

‘Mae’n rhaid cadw’r gobaith, a pharhau i geisio ateb parhaol i fy mhroblem, unwaith ac am byth’

Mae gen i ddegawdau o fy mywyd o mlaen a dwi’n teimlo bod rhaid i mi drio bod yn obeithiol. Tydi dychmygu bod yn ddyn 40, 50, 60 oed sydd yn dal i geisio rhyw thrill bach rhywiol pathetig trwy wylio porn ddim yn apelio. Beth fydd yn mynd trwy fy meddwl ar ddiwrnod graddio fy mhlant, neu ddiwrnod eu priodas? Fydd y niwl hwnnw yn dod dros fy ymenydd a’r synhwyrau? Fyddai yn gwneud esgusodion a’u hesgeuluso er mwyn cael ychydig funudau ar ben fy hun gyda’n ffôn symudol, a’r delweddau pornograffig ar y sgrin? Dwi’n mawr obeithio ddim, a dyna pam mae’n rhaid cadw’r gobaith, a pharhau i geisio ateb parhaol i fy mhroblem, unwaith ac am byth.


Dibyniaeth : meddwl.org

Rhannu

Gadael Ymateb