Mae pawb ohonom yn cael ‘off day’ o bryd i’w gilydd

off-dayRoeddwn yn cael ‘off day’ o bryd i’w gilydd ac yn meddwl fy mod wedi blino’n lan oherwydd gorchwylion gwaith a theulu. Roedd ‘off day’ yn golygu teimlo’n flinedig, heb owns o egni nac awydd i wneud dim na gweld neb. Yna, y diwrnod canlynol, fe fyddai’r ‘off’ wedi troi yn ‘on’ a minnau’n teimlo’n grand unwaith eto.

Daeth y diwrnodau hyn yn amlach – yn wythnosol, un neu ddwywaith yr wythnos – er i mi gredu mai ‘off days’ o’n nhw o hyd. Dros gyfnod o flwyddyn a hanner, trodd yr ambell ddiwrnod yn ddiwrnodau, y diwrnodau yn wythnosau, tan yn y diwedd, prin iawn oedd y dyddiau da.

Teimlad o ddiffyg egni a blinder, diffyg awydd a diamynedd tuag at bawb a phopeth, a gwaeth na dim, dim awydd o gwbl i adael y tŷ nac i weld neb. Es at y meddyg yn y diwedd – cam mawr a dweud y lleiaf. Eisteddais yn ei stafell, gofynnodd ‘wyt ti’n ok?’ ac agorwyd y llifddorau. Roeddwn wedi bwrw’r gwaelodion.

Cytunais i gymryd meddyginiaeth yn syth. O fewn mater o ddiwrnodau roeddwn yn teimlo cymaint yn well. A dweud y gwir, nid oeddwn wedi teimlo cystal â hyn ers blynyddoedd. A dyna be sy wedi codi’r mwyaf o arswyd arnaf – nid yn gymaint fy mod wedi syrthio i’r cyflwr ond fy mod yn gwbwl argyhoeddedig fy mod yn ok pam roeddwn mewn gwirionedd mewn cyflwr isel iawn.

Nid oedd gen i unrhyw reswm yn y byd dros syrthio i’r cyflwr hwn. Gall ddigwydd i unrhyw un heb reswm. Nid oes angen bod a chywilydd. Rwy’n dal i gymryd y feddyginiaeth er mwyn cadw pethau’n tician yn dawel fach, ond mae bywyd bellach yn llawn golau a lliwiau prydferth, yn wahanol i’r dwnjwn du y bues yn ceisio byw ynddo ers dros flwyddyn.

Rhaid siarad. Rhaid cyfaddef bod angen help – gwn o brofiad ei fod yn anodd. Ond pan rydych yn bwrw’r gwaelodion, yr unig ffordd i ddringo yw sha’ lan (i fyny!)

 

Rhannu

Gadael Ymateb