Newid byd: profiad o iselder ôl-enedigol

19894316_10154805549332947_389867101_nMae cadw trefn a sicrhau bod pawb yn hapus wedi bod yn bwysig i fi erioed. Dwi’n mwynhau cymdeithasu, yn mwynhau bod yng nghanol pobol, ac mae llwyddo’n bwysig. Ond wedi geni fy ail ferch yn Nhachwedd 2014, fe wnaeth popeth newid.

Roedd ‘na anhrefn, ro’n i’n casáu bod yng nghanol pobol, a do’n i’n sicr ddim yn teimlo fel mod i’n llwyddo mewn unrhyw ffordd. Ddim yn llwyddo i fod yn fam, ddim yn llwyddo i fod yn wraig, ddim yn llwyddo yn fy nyletswyddau i ofalu ar ôl y merched, ddim yn cyrraedd unman ar amser, methu bwydo’r babi, methu cadw’r tŷ yn lân, methu cael swper ar y bwrdd… ac roedd y rhestr yn ddiddiwedd. Ro’n i’n teimlo’n fethiant llwyr.

Pan anwyd fy merch, wrth gwrs ro’n i wrth fy modd. Teimlais ryddhad ei bod hi yma’n ddiogel, llawenydd bod gyda ni ferch fach arall, ac roedd cael ei dangos hi i’r byd yn fy llenwi â balchder. Wnes i ddim sylwi i ddechrau mod i’n cael cyfnodau, diwrnodau, o beidio â bod yn ‘iawn’. Ro’n i’n beio’r diffyg cwsg, y problemau gyda’r bwydo, y crio diddiwedd, y cyfrifoldeb o ymdopi â babi newydd a merch fach ddwyflwydd oedd hefyd angen fy holl sylw.

Do’n i ddim yn gwybod beth i’w wneud. Do’n i’n methu cysgu, roedd y tasgau lleiaf fel newid cewyn yn ormod, a’r unig beth y gallwn i feddwl amdano oedd sut allwn i ddianc. Roedd euogrwydd yn fy llethu. Ro’n i’n teimlo’n euog mod i’n methu bod yn fam. Teimlo’n euog mod i’n gweiddi, euog am nad oedd ei phwysau hi’n cynyddu’n ddigon cyflym, euog mod i wedi blino gormod o hyd i chwarae gyda fy merch hynaf, ac euog mod i’n teimlo mod i eisiau i’r cyfan ddod i ben. Do’n i ddim yn gallu gweld diwedd y peth. Collais fy hunan hyder, fy holl egni, a’m hawydd i gadw’i fynd. Bob dydd ro’n i’n holi fy hun, pam fod pawb arall yn gallu gwneud a fi yn methu. Roedd breuddwydion erchyll am rywbeth yn digwydd i’r plant, a meddyliau ynghylch eu niweidio hefyd yn dod yn aml. Ro’n i’n mynd i banig llwyr wrth geisio gadael y tŷ, ac roedd gadael i’m gŵr fynd i’r gwaith yn fy llenwi ag ofn.

Proses oedd dechrau gwella. Roedd rhaid siarad â doctor a cheisio esbonio sut oni’n teimlo. Roedd cael unrhyw gefnogaeth wrth ymwelydd iechyd yn amhosib, a do’n i ddim wir yn credu y byddai siarad ag unrhyw un yn gwneud gwahaniaeth. Fe wnes i weld cwnselydd gyda chefnogaeth ac anogaeth fy nheulu. Wedi aros am rai misoedd, cefais therapi mewn grŵp, a sesiynau cwnsela unigol pellach oedd yn cynnwys ‘Cognitive Behavioural Therapy’ (CBT)

O dipyn i beth doedd pethau ddim yn edrych cynddrwg. Dechreuais sylweddoli nad oedd popeth yn fai arna i. Canolbwyntiai’r therapi ar sut i ddileu meddyliau negyddol, di-sail a dechreuais gymryd meddyginiaeth ar gyngor y meddyg teulu. Mae’r profiad wedi gadael ei ôl yn sicr, er mod i’n ymdopi’n well, yn cael cefnogaeth ac yn dechrau gweld ffordd ymlaen dipyn yn gliriach erbyn hyn.

Wnes i ddim gweld un arbenigwr oedd yn medru’r Gymraeg. Ar y pryd, fe wnes i dderbyn y peth, ond bellach, wrth edrych yn ôl dwi’n sylweddoli pwysigrwydd medru trafod problemau yn yr iaith gyntaf i allu meithrin perthynas dda gyda chwnselydd ac i gael yr hyder i fedru fynegi’ch hun yn gywir, a hynny mewn cyfnod pan eich bod yn teimlo’n fregus ac yn wan. Mae’r gwaith mae Meddwl.org yn ei wneud yn holl bwysig i godi ymwybyddiaeth o’r angen sydd yn y maes am ddarpariaeth Gymraeg.

Rhannu

Gadael Ymateb