Ieithwedd iechyd meddwl

qmc2n-p5Ma’r mater canlynol yn rywbeth sy’ ‘di bod ar fy meddwl i ers dipyn o amsar, ac yn rywbeth sy’n fy ngneud i’n fwy siomedig & blin y mwya’ dwi’n meddwl am y peth. 

Hyd yn oed yn 2016, mae salwch meddwl yn parhau i gael eu defnyddio fel ansoddeiriau, ac yn cael eu dweud yn ddiofal gan nifer o unigolion o fewn ein cymdeithas. Er bod y pwnc (diolch byth) yn cael mwy o gyhoeddusrwydd nag erioed o’r blaen, mae ‘na dal gymaint o waith angen ei wneud er mwyn addysgu eraill am sut i ddefnyddio’r termau mewn ffordd fwy sensitif a chywir.

Tydi o wir ddim yn anodd i’w ddallt:

Nid nerfusrwydd ydi anxiety.

Nid teimlo’n drist ydi iselder.

Nid cael braw ydi panic attack.

Nid isho pob dim yn daclus ac yn drefnus ydi OCD.

Nid un mood swing achlysurol ydi bipolar.

Mae’r cyflyra’ hyn (a sawl un arall) yn rai llawer mwy difrifol a chymhleth na mae pobl yn ei feddwl. Fel rhywun sy’n dioddef gyda rhai ohonyn nhw, mae clywed pobl yn sôn am sut eu bod nhw’n depressed achos bod hi’n ddydd Llun, neu bod nhw wedi cael panic attack am ychydig eiliadau ar ôl meddwl eu bo’ nhw wedi colli eu ffôn, yn gallu bod yn offensive a blinedig iawn i’w glywed.

Mae gwefanna’ cymdeithasol yn gallu gwneud lles a gwella’r stigma, ond mae nhw hefyd yn gallu creu niwed. Ar un llaw, mae pobl yn teimlo’n fwy cyffyrddus i sôn am eu profiadau personol/trafferthion, yn ogystal â bod yn fwy agored ag eraill. Ond ar y llaw arall, mae cyfrifon, ar Twitter yn enwedig, efo tuedd i greu delwedd rhamantus o fod yn isel neu’n bryderus, ac yn glamoreiddio’r symptomau. Mi fedrai’ch sicrhau chi nad oes ‘na ddim byd yn ciwt na’n quirky am fod yn sâl.

Yn syml, meddyliwch y tro nesa’ ‘dach chi’n cael eich temtio i ddefnyddio cyflwr iechyd meddwl fel ansoddair, neu i wneud jôc yn ei gylch. Er ei fod o ddim yn teimlo felly, mae’ch dewis o eiriau yn gallu g’neud lot fawr o wahaniaeth.

Arddun

arddunrhiannon.wordpress.com

Rhannu

Gadael Ymateb