Hunan-hyder

arddunWedi dechrau ar fy ail mlwyddyn yn y Brifysgol, mae ‘na gymaint o bethau wedi newid mewn cyfnod byr o amser wrth i mi orfod mynd yn ôl i’r arfer o fyw mewn bybl ym Mangor Ucha’ unwaith eto. Ond un peth sydd byth yn newid o gwbl dim ots lle ydwi, ac yn fater dwi’n gorfod delio gyda yn ddyddiol, ydi fy hunan hyder.

Fel y mwyafrif o bobl, mae’r ffordd dwi’n edrych, ac sut dwi’n ymddangos i eraill yn bwysig iawn – yn enwedig ers imi gychwyn fy arddegau. Dwi hefyd yn un o’r bobl annoying ‘na ‘neith wastad gofio’r sylwada’ negyddol dwi’n ei ga’l yn lle’r rhai da – a hynny ym mhob cyd-destun; fy edrychiad, gwaith academaidd, personoliaeth ayyb.

‘Nai’m gwadu’r peth, geshi gymaint o shit gan bobl ar hyd fy amser i yn yr ysgol uwchradd. Dwi’n credu bod y term ‘bwlio’ yn cael ei daflu o gwmpas yn llawer rhy hawdd dyddia’ yma, ond dyna ges i heb os – fy mwlio. Mi ‘nath o amharu gymaint ar fy mywyd i, a neshi golli LOT o hyder o’i herwydd, yn ogystal â mynd yn isel iawn – ond dwi ddim am fynd lawr y lôn fach llon honno tro ‘ma. (Gyda llaw, dwi’n casau pan ma’ rhai yn trio cyfiawnhau pam bo’ pobl yn bwlio yn y lle cynta’, neu pam ‘nath nhw ddewis eich targedu chi. Yndw, dwi’n berson tawel, ond tydi hynny ddim yn rhoi’r hawl nac y chwaith ydio’n reswm i fy mychanu i, neu ‘nhrin i fel baw… ✌🏻️ Jyst deud.)

Yn anffodus, dwi dal i boeni lot gormod am yr hyn mae pobl o ‘nghwmpas i’n feddwl ohonai, ac yn mynd mor hunan-ymwybodol yn hawdd. Ar y diwrnodau gwael, yr oll sydd angen i rywun ‘neud ydi syllu arnai am ryw 3 eiliad a BAM – fysa hynny’n ddigon i greu paranoia mawr yn fy mhen bod ‘na wbath mawr yn bod arnai, ac yna’n destun gor-feddwl am weddill y diwrnod. Gwirion, rili, pan ‘dach chi’n meddwl am y peth!

Dwi ‘rioed wedi dallt pam fod angen pasio sylwada’ am be mae rhywun yn ei wisgo neu sut fath o golur sydd ganddyn nhw, be ‘di steil eu gwallt, eu pwysa’ ayyb. Dwi wir yn edmygu unrhyw un sydd efo’r dewrder i fentro sefyll allan, neu i fod yn wahanol mewn unrhyw ffordd! Mae bod yn unigryw yn rhywbeth i’w annog, nid i’w guddio. Mae genai gant a mil o betha’ ‘swn i’n hoffi newid am fy hun, ond wedyn dwi’n meddwl, pa mor ddiflas ‘sa’r byd ‘ma os fysa pawb yr un peth?

Mae’n siomedig bod ‘na bobl heddiw dal yn meddwl ei fod o’n dderbyniol beirniadu unigolyn ar yr olwg gynta’, yn lle gwneud yr ymdrech i ddod i’w hadnabod. Pam mae wastad angen tynnu eraill i lawr? Yn bersonol, dwi’n rili gweld o’n ddigalon pan dwi’n clywed merched yn sibrwd neu’n beirniadu merched eraill tu ôl i’w cefnau – un ai oherwydd cenfigen neu am ba bynnag reswm arall. Lle mae’r girl power ‘dan ni o hyd yn pregethu amdano?!

Mae pawb yn haeddu teimlo’n fodlon yn eu croen ac yn hyderus yn eu hunain fel person, a dylsa neb fynd o’i ffordd yn fwriadol i geisio rhwystro hynny. S’genaim otch os ‘dach chi’n dal, byr, tena, tew, swnllyd, tawel – os ‘newch chi ‘mharchu i, ‘nai’ch parchu chi. (Mae’r temtasiwn i ddyfynnu ‘Black Or White gan MJ llawer rhy gryf ar y funud…)

Ar ddiwedd y dydd, (ac ar nodyn afiach o gawslyd) mae angen i chi garu chi’ch hun gyntaf, achos mae’ch ‘seal of approval’ chi 100x pwysicach na be mae pawb arall yn ei feddwl. Ma’ bywyd llawer rhy fyr i adael i neb ddod ar draws eich hapusrwydd.

❤️

Arddun

arddunrhiannon.wordpress.com

Rhannu

Gadael Ymateb