Weinstein a’r perygl o ail-drawmateiddio goroeswyr

FiHefydMae’n siŵr eich bod wedi clywed hanes yr holl honiadau o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn erbyn y cynhyrchydd ffilmiau, Harvey Weinstein erbyn hyn. Mae sawl menyw wedi dod ag achosion o gam-drin ac aflonyddu rhywiol yn nwylo Weinstein i’r amlwg yn ddiweddar, a hynny’n cynnwys honiadau o drais, ymosodiad rhywiol ac aflonyddu rhywiol yn y gweithle.

Mewn ymateb i’r honiadau hyn, mae pobl ar draws y cyfryngau cymdeithasol wedi dechrau’r ymgyrch #MeToo, i rannu eu profiadau o’r fath ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch pa mor gyffredin ydyw.

Dwi’n falch bod cymaint o bobl yn teimlo eu bod yn gallu rhannu straeon mor bersonol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n trafod trais ac aflonyddu rhywiol yn agored, er mor anodd ydyw. Trwy hyn, gall goroeswyr o drais a cham-drin o’r fath deimlo cysur a chefnogaeth o gymuned ar lefel anferth. Efallai byddant yn cael eu hysbrydoli i rannu eu profiad nhw; boed ag un ffrind neu ei adrodd i’r heddlu. Yn amlwg, dyma yw’r gobaith wrth greu’r fath ymgyrch, a dwi’n croesawu hynny. Dylai pob un sydd wedi cael eu cam-drin yn y ffordd hwnnw deimlo eu bod yn gallu rhannu eu stori; mae hyn yn gallu bod yn rhan o’u hadferiad. Ond, mae’n rhaid i mi ddweud, mae hyn yn wirioneddol amhosibl i rai.

Cyn i mi barhau, dwi am nodi fy mod i’n un o’r rhai hynny sydd wedi cael fy nhreisio. Gallwch chi ddarllen mwy am fy mhrofiad yma. Fel canlyniad o’r trais hwnnw, dwi’n dioddef ag Anhwylder Straen Wedi Trawma, neu PTSD. Rhan o’r salwch yw bod pethau penodol yn gallu tanio ôl-fflachiadau. I mi, mae synau neu sefyllfaoedd penodol yn gallu achosi’r ôl-fflachiadau hyn, sy’n gwneud i mi brofi’r emosiynau roeddwn i’n teimlo yn ystod y trawma. Ambell waith, mae hyd yn oed gweld y gair rape mewn erthygl neu ei glywed ar y newyddion yn gallu sbarduno pwl o banig. Byddwch chi’n deall, felly, pan dwi’n dweud fy mod i’n ofalus o ran pa raglenni dwi’n gwylio ar y teledu, a pham mae edrych ar Twitter ambell waith yn gallu achosi ymateb ynof nad wyf yn gallu rheoli. Mae hyn yn andros o anodd, gyda rhaglenni poblogaidd fel Liar yn ymdrin â thrais mewn ffordd sydd mor agos i fy mywyd go iawn.

Felly, er fy mod i’n gweld buddion yr ymgyrch #MeToo, ac yn teimlo parch anferth at y rhai hynny sydd wedi bod mor ddewr drwy rannu, mae sgrolio drwy fy nghyfryngau cymdeithasol yn y dyddiau diwethaf wedi bod yn niweidiol i fy iechyd meddwl. Mae gen i ofn bod goroeswyr yn teimlo dyletswydd i rannu eu stori, yn hytrach na gwneud hynny er lles eu hunain, a gall hyn arwain at deimladau o euogrwydd diangen. Does dim ffordd gywir neu anghywir i oroeswyr ymateb i stori fel achos Weinstein, ond mae perygl yma o ail-drawmateiddio goroeswyr, ac nid yw hynny’n cyflawni dim. Dyma pam dwi wedi bod yn weddol ddistaw ynghylch y peth ar fy nghyfryngau cymdeithasol i. Dwi ddim am agor y graith fel petai, a dwi’n teimlo petawn i’n rhannu fy stori’n gyhoeddus, gan gynnwys fy enw, byddwn i ond yn achosi mwy o boen i fi fy hun. Mae disgwyl i oroeswr ail-fyw digwyddiad mor erchyll yn niweidiol. Mae’n rhoi pwysau diangen ar bobl sydd yn brwydro bob dydd yn barod; ond nid yw’r pwysau hwn wedi’i gyfeirio at y lle cywir. Os ydych chi wedi profi trawma o’r fath, nid oes dyletswydd arnoch i’w drafod mewn ffordd gyhoeddus. Ni ddylech chi deimlo’n euog am beidio â gwneud hynny. Nid oes baich ar oroeswyr yn unig i addysgu pobl am ddiwylliant trais. Mae’n broblem systemig, gymdeithasol, ac mae’n digwydd bob dydd, ymhob cwr o’r byd.

Yn anffodus, mae diwylliant trais yn golygu bod dynion a menywod yn bodoli sy’n credu bod y dioddefwr ar fai, naill ai’n rhannol neu’n hollol. Mae’r syniad hynafol bod trais yn gallu cael ei achosi gan yr hyn mae’r dioddefwr yn gwisgo, faint y mae’n yfed neu ei ymddygiad rhywiol yn anghywir. Y rheswm mae dynion yn treisio neu’n cam-drin yn rhywiol yw i ennill pŵer dros rywun. Nid yw denu rhywiol yn unrhyw beth i’w wneud ag e. Mae 100% o dreisiau’n cael eu hachosi gan y treisiwr, ac mae hynny’n ffaith. Y broblem sydd gennym yw bod ein diwylliant yn tueddu rhoi’r bai ar oroeswyr. Mae’n ddiwylliant sy’n gwrthod cydnabod nad yw rhyw’n rhywbeth sy’n cael ei wneud i fenyw, mae’n rhywbeth sy’n dymuno caniatâd, a hynny gan rywun sy’n medru rhoi caniatâd. Does neb yn “haeddu” cael eu treisio, nac yn “gofyn am” sylw diangen ar y stryd.

Mae’r ymgyrch yn un bwerus, yn sicr, ond dwi’n poeni na fydd yn ein hannog i fynd at wreiddiau’r broblem. Heb wneud hyn, byddwn yn parhau i esgusodi dynion sy’n cam-drin menywod yn rhywiol a bydd yn anodd rhagweld unrhyw gynnydd o ran agweddau cymdeithas at y pwnc. Nid yw hyn i ddweud nad yw’r ymgyrch yn un bwysig ar gyfer goroeswyr o ymosodiad rhywiol. Mae’r weithred o rannu profiad fel trais ar y cyfryngau cymdeithasol yn bwerus ar lefel bersonol a chymdeithasol. Serch hynny, mae’r mater o ddiwylliant trais lawer yn fwy cymhleth, ac mae angen newid cymdeithasol seismig er mwyn ei chwalu.

 

Adnoddau pellach

Rhannu

Gadael Ymateb