Erthyliad

erthyliadDwi’n un o ddegau o filoedd yng Nghymru sydd wedi penderfynu am ryw reswm neu’i gilydd i gael erthyliad. Y rheswm i mi ddewis cael gwared â fy mabi oedd er mwyn dianc o ddyn oedd wedi fy mrainwasho am dros flwyddyn.

Mi oedden ni wedi bod yn trio beichiogi ers rhai misoedd a hynny heb fod yn llwyddiannus… a ‘fynta’ yn dweud taw fy mai i oedd hynny, gan ei fod o wedi beichiogi merch flynyddoedd yn gynt, ond ei bod hi wedi dewis erthylu. Roeddwn, yn ei eiriau o, yn rhy “dew” i allu beichiogi. Dydw i ddim yn denau, dwi’r cyntaf i gyfaddef hynny, ond dydi bod yn maint 14 ddim yn dew yn fy marn (newydd) i. Ar y pryd, fe lwyddodd o fy mherswadio i mod i’n obese. Wrth gwrs, doedd peidio llwyddo i feichiogi ddim byd i wneud gyda’r amseru, na’r diffyg rhyw, yr alcohol oedd yn ei gaethiwo, na’i smocio fo.

Mi ddisgynnais yn feichiog wedi i ni stopio trio, ychydig ddyddiau cyn iddo ofyn i ni gael mynd ar ‘break’ fel mae’n digwydd… gan ei fod angen amser i fod yn sengl i “sortio’i ben allan, er mwyn gallu bod y dyn roeddwn i angen iddo fod, y dyn roeddwn yn ei haeddu”. Fi oedd “the right girl, but the wrong time” a fydden ni nôl gyda’n gilydd ymhen rhai wythnosau wedi iddo gael ei ben allan o’r sied, gan bwysleisio nad oedd dynes arall ar y scene, fi oedd y ffrind gorau o’dd o erioed wedi ei gael, a fydde’ fo fyth yn gallu fy mrifo. Fel ffŵl nes i goelio hynny gan fy mod dros fy mhen a nghlustiau mewn cariad â fo. Roedd hi’n ganol mis Chwefror arna i’n dallt fy mod yn feichiog ac mi oeddwn wrth fy modd, nid yn unig gan fod gen i’r awch hynny am fod yn fam, y rhyddhad fy mod yn gallu beichiogi, ond hefyd roedd o’n golygu y bydda fo’n cael y gic fyny ei dîn roedd o ei angen i ni ddod ‘nôl at ein gilydd.

Dyliwn i fod wedi gwybod yn well. Doedd o ddim am i fi gadw’r babi. Os byddwn i, fydde’ fo ddim eisiau dim i wneud gyda’r un ohonom. Dyna oedd o’n ddweud yn y cychwyn – hyd yn oed pan nes i’w lusgo fo i’r apwyntiad doctor a finnau yn beichio crio, doedd o ddim eisiau gwybod. Nes i gychwyn ystyried fy opsiynau, gan feddwl, er gymaint dwi eisiau plant, oeddwn i wir eisiau cael fy nghlymu am weddill fy oes i ddyn oedd ddim eisiau bod yn rhan o fy mywyd i, ac yn bwysicach, yn rhan o fywyd ei blentyn ei hun?

Nes i gychwyn sylweddoli, ar ôl mynd adre at Mam a Dad i drio cael llonydd ganddo fo a’i deulu, llonydd o’r holl negeseuon testun yn oriau mân y bore yn gofyn be o’n i am ei wneud, nad oedd o wedi’n nhrin i’n dda drwy gydol ein perthynas. Dim fo oedd y dyn ddisgynnais mewn cariad â fo dros flwyddyn yn ôl. Disgynnais mewn cariad gyda dyn ‘chydig yn swil, annwyl, golygus, doniol, llawn hwyl, ac o’dd yn g’neud i mi deimlo’n saff. Tra oni’n meddwl mai fo oedd yr unig beth yn fy nghadw i’n ‘sane’, fo oedd y peth yn fy ngwneud i’n ‘insane’.

O fod yn canlyn gyda merch arall pan oedden ni’n dod i ‘nabod ein gilydd (nid fod gen i unrhyw syniad nes i mi ddarganfod ei dilledyn yn ei dŷ newydd rhai misoedd mewn i’n perthynas), gofyn i mi symud i fewn… ac wedi i mi neud, gofyn i mi symud allan. Gwrthod g’neud ymdrech gyda’n nheulu a’n ffrindiau i. Pan oni’n gofyn i ni gael g’neud rhywbeth fel cwpwl gan nad oedden ni’n g’neud dim byd ‘mond eistedd o flaen y tân a bwyta… mi oedd o’n fwriadol yn trefnu i ni fynd at ei deulu neu ei ffrindiau o pan oedd gen i gynlluniau fy hun eisoes wedi eu trefnu.

Fel ffŵl, roeddwn i’n canslo fy nhrefniadau i er ei fwyn ef. Er ei fod yn fy mhen yn dragwyddol am fod dros bwysau, roedd o’n gwylltio os nad oeddwn i’n gorffen fy mwyd, yn dweud fy mod yn anniolchgar. Petawn i’n cadw paced o dda-da yn fy nghar, fydde fo’n cael gwared ohono a dweud nad oedd angen da-da arna i, ac mai edrych ar ôl fy iechyd i oedd o. Es i am noson allan ar fy mhen fy hun bedair gwaith yn y deunaw mis roeddwn i gyda fo. Bob tro fe fydda fo’n fy nghyhuddo o gael rhyw gyda dynion eraill, pan na fyswn i fyth yn meddwl gwneud y fath beth.

Yn ei ôl o, doedd gen i ddim ffrindiau ‘iawn’, dim ond ffrindiau oedd yn fy nefnyddio am rhywle i aros ar ôl noson allan, neu os oedd problem yn eu perthynas nhw, a’r peth trist ydi, nes i goelio hynny. Roedd o’n fy ngadael ar fy mhen fy hun ar nosweithiau allan, ac mewn priodasau lle doeddwn i ddim yn adnabod neb. Roedd o hefyd yn anhapus iawn fy mod mewn côr pedwar llais, gan nad oedd o’n fy nhrystio i gymdeithasu gyda’r dynion. Nes i gychwyn casáu mynd i’r côr gan ‘mod i’n gwybod mai dim ond strach fyddwn i’n gael ar ôl dod adre. Nes i stopio mynd allan a chwrdd fyny gyda’m ffrindiau, a nes i stopio mynd adre at fy nheulu.

Mi ddaeth o i dŷ fy nheulu bedair gwaith mewn blwyddyn a hanner. Pedair gwaith yn unig, ac roedd un o’r achlysuron hynny yn dilyn angladd ei ffrind oedd yn digwydd wrth y tŷ. Mi oeddwn i’n osgoi gwneud y pethau sy’n fy ngwneud i’n hapus, er mwyn ei wneud o’n hapus. Mi gymerodd lot o amser, gormod o ddagrau, ond o’r diwedd nes i gychwyn gweld drosof i fy hun ei fod o wedi bod yn greulon yn feddyliol, a fy mod i’n haeddu gymaint gwell, haeddu rhywun sydd eisiau bod yn fy nghwmni, rhywun fyddai’n gwneud ymdrech gyda’n nheulu a’n ffrindiau, ac yn bwysicach, haeddu rhywun fyddai’n glên efo fi.

Efallai nad yw’r enghreifftiau yma’r rhai gorau, ond pan ‘da ‘chi’n byw gyda rhywun sy’n eich tynnu i lawr, am eich teulu, ffrindiau, eich pwysau, a hynny’n ddyddiol… mae o’n gallu difetha’ch bywyd chi.

Ar y sail hynny nes i benderfynu cael gwared â’m mabi.

Wedi i mi gychwyn dod i delerau gyda fy mhenderfyniad, fy mod am gael erthyliad, ges i wybod gan wraig ei ffrind gorau ei fod o wedi cychwyn newid ei feddwl. Petawn i yn dewis i gadw’r babi, roedd o eisiau perthynas gyda’r plentyn. Sioc, ychydig o ryddhad, dwi’m cweit yn siŵr be aeth drwy fy mhen i ddweud y gwir. Nes i gymryd arnaf nad oeddwn yn gwybod pan ges i’r tecst ganddo fo yn dweud ei fod eisiau perthynas gyda’r babi petawn i’n ei gadw, ond nad oedd y sefyllfa yn ddelfrydol iddo fo fagu plentyn, a doedd o ddim am gael unrhyw fath o berthynas gyda fi, boed hynny yn berthynas rhamantus neu fel ffrind.

Mi wrthododd o ddweud yn y ‘ngwyneb i gan ei fod yn rhy “anodd a phoenus” iddo fy ngweld i. Roeddwn i unwaith eto yn ansicr o beth i’w wneud, rhwng dau feddwl. Diwrnod wedyn, roedd o wedi newid ei feddwl unwaith eto, yn dweud mewn tecst arall y dylwn i gael gwared â’n babi… roedd hynny o gymorth i mi ddod i delerau unwaith eto gyda’r penderfyniad o gael gwared. Trwy gydol ein perthynas, doedd o’n ddim byd ond siom ar ôl siom, a does ru’n plentyn yn haeddu cael ei siomi.

Roedd rhaid i mi aros dros fis o ddarganfod fy mod yn feichiog i gychwyn y broses erthylu. I fod yn gwbl onest, doeddwn i ddim cant y cant yn gwybod yn iawn os oeddwn am lyncu’r dabled gyntaf neu beidio… hyd i mi eistedd gyda’r dabled o’m mlaen. Petawn i wedi gweld fy Mam yn crio cyn i mi lyncu’r dabled, fyddwn i heb wneud.

‘Doedd y broses ddim yn hawdd, yn gorfforol nac yn feddyliol. Roedd rhaid i mi aros dros nos yn yr ysbyty, a hwnnw’n ysbyty dros awr a hanner o fy nghartref, gan nad oedd fy ysbyty lleol yn darparu’r driniaeth ar y pryd. Roedd hi’n dridiau wedyn, a minnau yng nghartref fy rhieni pan, o’r diwedd, fe ddaeth o allan o ‘nghorff i. Roedd hynny yn niwedd mis Mawrth. Mae hi’n ganol mis Awst erbyn hyn a dwi’n dal i waedu. Dwi methu’n llwyr a symud ymlaen, achos bob tro dwi’n mynd i’r tŷ bach, ‘dwi’n cael fy atgoffa.

Rhai wythnosau yn ôl, cefais wybod ei fod o wedi symud ymlaen. Eto, dwi ddim yn rhy siŵr sut ro’n i’n teimlo…ychydig o ryddhad, siom, ‘chydig yn sâl… wedyn nes i glywed am yr amseriad. Roedd o wedi bod yn ei gweld hi tra roedden ni dal gyda’n gilydd, a hynny cyn i ni fynd ar y ‘break’ hwnnw.

Tra ro’n i’n gwneud y penderfyniad fyddai’n effeithio ar fy mywyd i, a’i fywyd o, ar fy mhen fy hun, a thrwy fynd drwy’r broses erthylu, roedd o’n cysgu gyda dynes arall.

Mae hi’n ddynes hŷn, yn mynd trwy ysgariad ac mae ganddi blant. Tra dwi’n parhau i waedu yn dilyn erthyliad ei blentyn o… mae o’n helpu i fagu plant dynes arall. Ar un llaw dwi’n gobeithio hir oes i’w perthynas… o leia’ wedyn ni fydd ganddo blant ei hun. Ar y llaw arall, mae’r tebygolrwydd ohono’n diflasu arni hi’n fuan yn uchel iawn. Mae’n amlwg fod ganddo broblemau ond mae o wedi llwyddo pasio’r problemau hynny ymlaen ata ‘i.

Mae ‘na ddywediad Saesneg, “After a breakup, the loyal one stays single and deals with damages until healed. The other one is already in another relationship”.

Er fy mod yn cryfhau bob diwrnod, mi fyddai’n delio gyda’r difrod o fod wedi bod mewn perthynas gyda bwli am amser hir iawn.

Rhannu

Gadael Ymateb