Dim cywilydd

Rhywbeth rwyf wedi ei feistroli, a rwy’n siwr fod nifer eraill wedi gwneud hefyd, yw’r gallu i guddio faint rwy’n dioddef a chyn-lleied rwy’n ymdopi pan mae fy iechyd meddwl yn gwaethygu. Efallai byddai’r bobl sy’n fy ngweld bob dydd yn sylwi ar ambell newid ond dim byd gofidus.

Rydw i hyd yn oed wedi meistroli twyllo fi fy hun. I raddau, pan mae fy iechyd meddwl yn gwaethygu, mae’n rhaid i mi geisio bwrw ati gyda’m bywyd dydd i ddydd cymaint â ‘dwi’n gallu. Ond mae ‘na adegau eraill pan mae fy iechyd meddwl wedi gwaethygu i’r fath raddau, ble mae codi, cael cawod, cael rhywbeth i’w fwyta a chymryd fy meddyginiaeth yn ormod.

Rwyf wedi twyllo fy hunan yn ddiweddar, ond cyn i mi gyrraedd y pwynt lle ‘dwi methu codi o’r gwely, pan roedd yna alw am ymyrraeth yn erbyn fy ewyllys, gorfodais fy hun i fod yn hollol onest gyda fi fy hun. Er fy mod wedi cyfaddef i fi fy hun, ‘dwi heb cyfaddef yn llawn i’r bobl agosaf atai.

Ar ôl deg mlynedd o ddioddef gyda sawl salwch meddwl, pan mae fy iechyd meddwl yn dirywio, mae e dal yn llwyddo i ‘neud i fi deimlo cywilydd. Cywilydd am deimlo’n wag, cywilydd am deimlo ryw fud boen anesboniadwy. Y cywilydd yma sy’n f’atal, hyd yn oed heddiw, rhag bod yn gwbwl onest gyda’r rheiny sydd agosaf ataf i, ac hyd yn oed gyda fi fy hun.

Mae’n rhaid i fi atgoffa fy hunan, hyd heddiw, does dim cywilydd i ddioddef o salwch meddwl. Does dim cywilydd mewn gofyn am gymorth. Mae’n holl bwysig, nid yn unig i wybod hynny, ond i’w gofio hefyd.

Hedydd Elias