Byw ym mybyl iselder

Sut beth ydi byw efo iselder?

I mi, mae fel trio ymladd brwydr dyddiol efo bob dim sy’n mynd rownd a rownd yn fy mhen i; teimladau, meddyliau, euogrwydd, cwestiynau, sylwadau pobl eraill.

Dwi’n byw mewn bybyl. Dwi’n edrych allan o’r bybyl ar fywyd pobl o nghwmpas ond dwi ddim yn rhan o ddim byd nac yn perthyn i neb. Dwi’n bodoli, dyna’i gyd.

Mae’r dyfodol yn dywyll. Dwi ddim yn gweld dyfodol… Be ydw i’n weld? Cwestiwn da!

O’r tu allan, efallai fod pobl yn meddwl mod i ddim yn pwsio fy hun, mod i’n gadal i bethau lifo ac yn ‘make-do’. Ond dwi yn pwsio fy hun – dwi’n pwsio fy hun i fynd i Tesco ar adeg pan dwi jyst isio aros yn y tŷ; dwi’n pwsio fy hun i wylio rhaglen deledu yn hytrach na gwrando ar y lleisiau yn fy mhen; dwi’n pwsio fy hun i olchi ngwallt ar ôl 3 (weithiau 4) diwrnod o beidio gwneud. Dwi’n pwsio fy hun, er gwaethaf pa mor fach ydi’r pwsh.

Dwi’n crio ar ddim. Na’i grio am rywbeth sydd wir yn meddwl rhywbeth i mi ac yn taro nghalon i, ond ar adegau eraill na’i grio am rywbeth dibwys. Roedd na raglen deledu ‘mlaen gen i ryw ddiwrnod neu ddau’n ôl a bu i blentyn redeg rownd cyfa’ mewn gêm rownders – nes i grio bryd hynny. Nes i grio pan oedd ‘na ‘sgodyn ar raglen ‘Blue Planet’ yn methu dal rhyw blanhigyn i’w fyta.

Dwi’n flin ac yn ddi-fynedd. Fedra’i fod yn teimlo’n reit dda ac yn cael diwrnod da nes mae un peth bychan yn troi’r drol – baglu ar garreg, mwy o fwd ar un esgid na’r llall, colli bag tê oddi ar lwy cyn cyrraedd y bin brown. Neith pethau fel ‘ma wneud i mi grio hefyd.

Mae trio gwneud penderfyniadau’n sialens – a dwi ddim yn sôn am benderfyniadau mawr. Dwi methu penderfynu pa dorth i brynu, pa het i wisgo, pa ffordd dwi am ddreifio adra. Mi fedra’i fod yn sdyc am tua 10 munud ar adegau’n methu gwneud penderfyniad gwbl syml.

Dwi’n poeni am fod yn niwsans i bobl. Poeni mai ond hyn sydd am ddod ohona i.  Ar adegau dwi’n brifo fy hun oherwydd y ffordd dwi’n dehongli, neu’n hytrach yn camddehongli rhai o’r pethau mae pobl yn ei ddweud.  Roedd poeni am beth mae bobl eraill yn ei ddweud neu’n ei feddwl ohona i yn arfer bod yn boen meddwl ac yn obsesiwn mawr. Fedrwn i fod yn poeni amdano am amser hir ac yn gweithio fy hun i fyny. Ond yn ara’ deg dwi’n symud ymlaen i beidio poeni. Mae’n anodd ac yn strygl dyddiol ond ‘di o ddim yn gymaint o ffocws i mi ag oedd o’n arfer bod.

Dwi ‘di blino. Dwi ‘di blino ar drio meddwl pam mod i’n teimlo fel ‘ma. Dwi ‘di blino ar drio datrys pethau. Mae nghorff i’n drwm ac mae mhen i’n drwm. Ond dwi methu cysgu.

Dau brif beth sy’n rhoi golau i mi ar ddiwedd y twnnel:

1) Fy ffrind bach. Plentyn fy ffrind gorau. Mae’r ddyled sydd gen i i’m ffrind am adael i mi dreulio amser efo’r person bach arbennig yma, a hitha’n gwbod mod i’n fregus, yn un fawr a dwi’n ddyddiol yn ddiolchgar iddi. Dwi’n medru diffodd y pethau sy’n mynd rownd yn fy mhen pan dwi efo’r person bach. Mae’n rhoi pwrpas a ffocws i mi a dwi’n mwynhau chwarae a lliwio heb ffocysu ar y “llais” na. Mae’n braf medru eistedd efo fo’n gwylio cartŵn a chael cydyl bach. Mae’r cariad sydd gen i tuag ato fo mor gryf.

2) Cerdded. Mi fedra’i gerdded am oriau ac mae’n rhoi rhyddid i mi oddi wrth fy meddyliau a nheimladau. Mae’n haws weithiau cerdded yn y glaw gan fod llai o bobl o gwmpas a mi fedrai smalio mai’r glaw ydi’r dagrau sy’n rhedeg lawr fy mochau. Ond does na’m curo cerdded mynydd ar ddiwrnod braf chwaith.

Mae dagrau yn bethau cyfarwydd iawn i mi yn ddiweddar.

Dwi wedi sôn eisoes am grio ond mae dagrau yn rhywbeth sy’n dod i mi bob nos. Ydw i’n crio fy hun i gysgu? Dwi ddim yn siwr, ond mae dagrau’n bendant yn ffactor pan mae’n amser trio cysgu.

Mae’n fy ngwylltio i ac yn fy ngwneud i’n flin mod i methu mynd i weld nain ar adegau. Person sy’n arbennig iawn i mi a dwi’n cyfri fy hun yn lwcus iawn o’i chael yn fy mywyd. Ond am ddyddiau ar ôl ei gilydd dwi’n methu mynd i’w gweld achos dwi’n methu canolbwynio ar sgwrs. Dwi’n teimlo’n euog ac yn hunanol.

Dwi’n cael gwahoddiad gan ffrindiau i fynd allan ond dwi ddim yn mynd. Dwi eisiau mynd ond dwi methu. Dwi ofn peidio medru cynnal sgwrs, crio yn eu cwmni ar rhywbeth dibwys neu ‘rhoi dampar’ ar eu noson a’u hwyl. Dwi ofn y byddai’n eistedd yno yng nghwmni criw o ffrindiau yn dweud dim – mae wedi digwydd o’r blaen ac mae’n deimlad afiach. Roeddwn i’n eistedd yno a doedd y geiriau methu dod o ngheg. A mwy oeddwn i’n meddwl am y peth, gwaeth oedd y teimlad yn mynd a mwy o amser oedd yn pasio. Mae’r profiad yma wedi aros efo fi a dydw i heb lwyddo i’w goncro hyd yn hyn.

Mae sefyllaoedd cymdeithasol yn fy nychryn. Dwi’n tueddu i fedru ymdopi’n well efo grŵp bychan o bobl a rheiny yn bobl dwi’n medru ymddiried ynddyn nhw. Mae criw mawr o bobl yn gwneud i mi banicio. Dwi ofn colli ffrindiau o ganlyniad i’r salwch a’r ffordd y mae’n gwneud i mi ymddwyn.

Ar adegau dwi methu codi ffôn i wneud galwad. Dwi’n gorfod paratoi fy hun i biciad allan i’r siop – paratoi fy hun am wahanol sefyllfaoedd fyddai’n gallu codi. Rhywbeth mor fychan a dod wyneb yn wyneb efo rhywun a gorfod gwneud sgwrs. Beth sydd mor ddrwg am hynny? Dwn i ddim, ond mae’n rwystr i mi.

Dwi’n gweld cwnselydd pob wythnos neu bythefnos, sy’n help. Dwi’n medru rhannu’r lleisiau, y meddyliau a’r teimladau sydd gen i heb boeni mod i am gael fy marnu. Mae hi’n rhoi awgrymiadau i mi ar wahanol bethau y medra i wneud. Mae hi’n gwneud i mi deimlo’n well amdana fi’n hun a mod yn gwneud cynnydd – rhywbeth nad ydw i’n sylwi fy hun ond wrth adrodd pethau, mae’n ymddangos yn gliriach rywsut.

Dwi’n ddiolchgar iawn i’m ffrindiau, yn enwedig fy ffrindiau agos, am eu hymdrechion i drio fy helpu. Ond anaml iawn y gwnai ofyn am help gan mod i ofn bod yn faich, creu trafferth neu bod yn niwsans.

Fedra’i fod am oriau yn mynd dros hen sefyllfaoedd ac yn poeni’n hun yn sâl mod i wedi dweud neu gwneud rhywbeth o’i le. Os dwi heb dderbyn text yn ôl gan ffrind, dwi’n poeni mod i’n niwsans am fod wedi textio yn y lle cyntaf.

Pan fyddai wedi medru pwsio fy hun i wylio rhaglen deledu neu ddarllen llyfr neu gylchgrawn, yn aml fyddai’n ffeindio fy hun yn ail-chwarae’r rhaglen neu ail-ddarllen yr un dudalen drosodd a throsodd gan mod i methu canolbwyntio. Mae fy meddwl i’n crwydro’n hawdd ac mae’n anodd ei gael yn ôl ar adegau.

Pwy ydw i? Dwn i ddim bellach. Dwi’m yn adnabod fy hun.

Dwi’n aml yn rhoi “ffrynt” ymlaen pan fyddai efo pobl eraill – ond i guddio be neu pwy, dwn i ddim. Dwi’n gweithio ar drio dod o hyd i fi fy hun. Dwi’n bendant ddim yr un person ag oeddwn i’n arfer bod. Ond os ddoi o hyd i fi’n hun a bod yn hapus efo hynny, fyddai’n fodlon ac yn falch.

Mae’n anodd egluro i rhywun sut beth ydi iselder. Mae profiad pawb yn wahanol ac os nad ydi rhywun wedi bod drwyddo eu hunain, does na’m posib iddyn nhw ddeall – sy’n wir am holl brofiadau bywyd. Mae’n siŵr mai’r hyn sy’n anodd i bobl eraill ddeall ydi ngweld i’n ymddangos yn “ok”, yn medru cymryd rhan mewn gweithgaredd neu’n medru sgwrsio’n agored. Ond yr hyn nad ydyn nhw’n ei weld ydi y gallaf fod wedi llithro’n ôl i’r tywyllwch ymhen ychydig oriau wedyn.

Dois ar draws y dywediad yma ychydig o ddyddiau’n ôl a dwi’n meddwl ei fod yn ffitio’n berffaith wrth feddwl am iselder –

“Dydy’r ffaith fy mod wedi medru ddoe ddim yn golygu y medra’i heddiw. Ac er fy mod wedi methu heddiw, dydy hynny ddim i ddweud y byddai’n methu fory”.

Dwi wedi rhoi blas ar ddiwrnod yn fy mywyd o fyw efo iselder. Bydd fory yn ddiwrnod arall. O bosibl, fyddai ddim yn teimlo’r union yr un fath fory. Efallai y bydd yn ddiwrnod gwell, neu gall fod yn ddiwrnod gwaeth.

Ond bydd yn ddiwrnod gwahanol.

Di-enw